Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Sera Jane Whitley 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

3.

ELECT VICE-CHAIR FOR 2026/27

To elect a Vice-Chair for 2026/27.

Penderfyniad:

Bu i Cyng. Gary Pritchard gael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

4.

MATERION BRYS

5.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 174 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Mehefin, 2026 fel rhai cywir.

6.

DATGANIAD LLYWODRAETHU 2025/26 pdf eicon PDF 111 KB

Mark Watkins, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2025/26 yn Atodiad 1 fel datganiad y Cyd bwyllgor Corfforedig ar reolaeth fewnol at ddibenion Rheoliad 5 Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd).

 

Nodwyd a chymeradwywyd y Cynllun Gwella Llywodraethiant ar gyfer 2026/27 sydd wedi'i gynnwys yn y Datganiad.

 

Awdurdodi'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr i lofnodi'r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol.

 

7.

DATGANIAD O GYFRIFON CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AM 2025/26 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 203 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd a chymeradwywyd yr adroddiad ISA 260 gan Archwilio Cymru ar gyfer y CBC.

 

Ystyriwyd a chymeradwywyd y Datganiad o Gyfrifon terfynol y CBC (ôl archwiliad) ar gyfer 2025/26.

 

8.

SEFYLLFA REFENIW A CHYFALAF 2026/27 - ADOLYGIAD DIWEDD GORFFENNAF 2026 pdf eicon PDF 256 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

 

  • Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw ar ddiwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer CBC (Atodiad 1), gan gynnwys uchafswm o £39,874 i'w drosglwyddo o'r gronfa wrth gefn (yn ychwanegol at y £624,590 a gymeradwywyd yng nghyllideb 2026/27) i adael sefyllfa niwtral (gyda'r ffigwr terfynol i'w gadarnhau pan gyflwynir adroddiad alldro 2026/27).

 

  • Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw a chyfalaf diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer y Cynllun Twf (Atodiad 2), gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn (Atodiad 3).

 

  • Nodi a derbyn proffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Cynllun Twf (Atodiad 4).

 

  • Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer y Parth Buddsoddi (Atodiad 5), gan gynnwys y defnydd o'r llog ar falansau Parth Buddsoddi i adael sefyllfa niwtral ar gyfer 2026/27.

 

  • Nodi a derbyn yr adolygiad refeniw diwedd Gorffennaf 2026 ar gyfer yr PSRh (Atodiad 6).

 

  • Cymeradwyo'r trosglwyddiadau yng nghyllidebau y CBC, y Cynllun Twf a'r Parth Buddsoddi a nodir yn Atodiad 7.

 

9.

STRATEGAETH A CHYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG 2026/27 - 2029/30 pdf eicon PDF 226 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoi arweiniad i swyddogion ynghylch parodrwydd y CBC i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn wrth baratoi’r gyllideb ar gyfer 2026/27.

 

Penderfynwyd gofyn i swyddogion ddarparu opsiwn hybrid sy’n defnyddio 80% o’r reserfau defnyddiadwy amcangyfrifedig sydd ar gael ar 31 Mawrth 2027 fel sail, a fyddai’n golygu cyflwyno opsiwn sy’n disgyn rhwng opsiwn 3 ac opsiwn 4 i’r Aelodau yng nghyfarfod nesaf y CBC.

 

10.

TREFNIADAU GWNEUD PENDERFYNIADAU AR GYFER RHEOLI'R GRONFA DRAFNIDIAETH RANBARTHOL YN YSTOD Y FLWYDDYN pdf eicon PDF 271 KB

Adam Graham, Uwch Swyddog Trafnidiaeth i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Gymeradwywyd dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol, y Swyddog Monitro, y Prif Swyddog Cyllid ac arweinwyr trafnidiaeth awdurdodau lleol perthnasol, i gymeradwyo a chyflwyno ceisiadau am newid rhanbarthol i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â rheolaeth y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol yn ystod y flwyddyn.

 

Nodwyd mai Llywodraeth Cymru fydd yn parhau i wneud y penderfyniadau grant terfynol o ran y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol.

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2025/26 pdf eicon PDF 217 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gan nad oedd y cyfarfod bellach efo cworwm, penderfynwyd gohirio’r penderfyniad.

 

12.

DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN TRAWSNEWID A GWELLA pdf eicon PDF 227 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr ac Uwch Berchennog Cyfrifol y Rhaglen a Dave Hole, Arweinydd y Rhaglen i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Gan nad oedd y cyfarfod bellach efo cworwm, penderfynwyd gohirio’r penderfyniad.

 

13.

CYNLLUN DEISEBAU CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD pdf eicon PDF 214 KB

Helen Edwards, Dirprwy Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gan nad oedd y cyfarfod bellach efo cworwm, penderfynwyd gohirio’r penderfyniad.

 

14.

SEFYDLU IS-BWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 132 KB

Helen Edwards, Dirprwy Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gan nad oedd y cyfarfod bellach efo cworwm, penderfynwyd gohirio’r penderfyniad.

15.

NEWIDIADAU I AELODAETH IS-BWYLLGORAU'R CBC A PHENODIAD AELOD LLEYG pdf eicon PDF 135 KB

Mark Watkins, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad.

 

Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau yn unig.

 

Mae'r Atodiad wedi'i eithrio o dan Baragraff 12, Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn penodol); yn ddarostyngedig i baragraff 21, Rhan 5 (prawf budd y cyhoedd). Wedi'i gymhwyso i'r CBC gan reoliad 26 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif. 2) (Cymru) 2021 ⁠

 

Penderfyniad:

Gan nad oedd y cyfarfod bellach efo cworwm, penderfynwyd gohirio’r penderfyniad.