Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cyng. Cemlyn Williams (Cyngor Gwynedd) ac Annwen Morgan (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
(Ynghlwm). Cofnod: Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd yn
gofnod priodol o’r cyfarfod ar yr 11eg o Dachwedd, 2020. Cyfeiriwyd at Eitem 4 o fewn y
cofnodion. Nodwyd bod hyn wedi ei drafod
yn y Bwrdd Rheoli. Bydd diweddaraiad o ran materion polisi cenedlaethol yn cael eu cyflwyno
i’r Cydbwyllgor fel bo’r angen. |
|
CYLLIDEB GwE 2020-21 - ADOLYGU CHWARTER 3 PDF 465 KB Arwyn Thomas a Dafydd Edwards i ddiweddaru
aelodau’r Cyd-Bwyllgor am yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y
flwyddyn gyllidol 2020/21. . Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad Adolygiad 3ydd Chwarter o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol
2020/21. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd yr Awdurdod Lletyol
gan nodi fod yr adolygiad chwarter 3 yn amcangyfrif gorwariant net o £40,000. Ni aethpwyd drwy’r gyllideb yn fanwl, fodd
bynnag amlinellwyd rhesymau dros y tanwariant sef arbedion costau teithio yn
ystod COVID-19 ac aelod o staff ar secondiad. Disgwyliwyd y byddai teithio yn
ail gychwyn wrth i ymweliadau addysgol ailgychwyn. Nodwyd y gall fod her ariannol yn 2021/22 oherwydd
ansicrwydd ynglŷn â grantiau penodol.
Felly, awgrymwyd a derbyniwyd y dylid neilltuo’r gronfa tanwariant am y
tro, cyn ystyried heriau ariannol posib 2021/22. Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor,
am yr adroddiad gynhwysfawr. |
|
CYLLIDEB GwE 2021-2022 PDF 371 KB Dafydd
Edwards i gyflwyno’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2021/22 i’r Cyd-bwyllgor.. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2021/22 fel
y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1. b) Gofyn i’r Rheolwr Gyfarwyddwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Bwrdd
Rheoli, i gyflwyno papur yn yr hydref yn adolygu model gwaith GwE. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod cyfraniad yr Awdurdodau Lleol yn wraidd i’r gyllideb
sylfaenol. Diolchwyd i gyfrifwyr GwE, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Rheolwr Busnes
GwE am eu gwaith. Rhoddwyd trosolwg o gynnwys yr adroddiad gan
mai unwaith y flwyddyn yn unig y trafodir hyn. Nodwyd fod effaith chwyddiant
wedi’i amcangyfrif a’i gynnwys yn y gyllideb sylfaenol, a bod cyfraniadau
ariannol yr Awdurdodau wedi’i addasu yn y modd arferol fel y gwelwyd yn atodiad
2. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:- - Gofynnwyd a oes
cynlluniau i adolygu model gwaith GwE, er enghraifft, ynghylch dyfodol y
swyddfeydd a ffordd newydd o weithio. - Ategwyd hyn gan
nodi bod mudiadau eraill eisoes wedi datgan na fyddant hwy’n dychwelyd i
deithio ar gyfer bob cyfarfod pan ellid gwneud yn rhithiol - rhagwelid y
byddai’n arbed arian i GwE yn ogystal. - Cafwyd ymateb gan
Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn derbyn bod lle i adolygu’r model gwaith, fodd bynnag,
ochr yn ochr â hyn, mae angen ystyried lles staff a’r elfen gymdeithasol a
phroffesiynol. - Ategwyd bod
swyddfeydd GwE yn yr Wyddgrug ac ym Mae Colwyn yn denu incwm drwy logi ar gyfer
defnydd hyfforddiant. Ychwanegwyd y byddai’n rhaid dadansoddi’r defnydd. - Yn dilyn hyn cytunwyd bod angen adolygiad
ar fodel gwaith GwE a bydd adroddiad i ddilyn yn yr Hydref. |
|
ADOLYGIAD THEMATIG ESTYN PDF 316 KB Arwyn Thomas
i gyflwyo’r adroddiad i’r Cyd-bwyllgor.. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cydbwyllgor
yn nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a nodwyd mai er gwybodaeth yw’r eitem
yma. Diolchwyd i’r ysgolion am eu cydweithrediad ac ategwyd fod perthynas gadarn
rhwng yr ysgolion a GwE. Ychwanegodd
Pennaeth Addysg (Cyngor Gwynedd) bod y Gweinidog Addysg yn cydnabod bod
cydweithio effeithiol ar waith yn y Gogledd. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:- - Diolchwyd i Estyn am y darn
yma o waith sy’n cysylltu gwaith yr ysgolion, yr Awdurdodau Lleol a GwE. - Gofynnwyd a fydd ysgolion yn cael seibiant
oddi wrth arolygon wrth iddynt ail agor yn raddol ac ymsefydlu’r disgyblion. - Ategwyd mai blaenoriaeth yr ysgolion fydd
lles y plant a materion yn cwmpasu hyn. |
|
RHAGLEN WAITH GwE - TYMOR YR HYDREF 2020 DIWEDDARIAD & BLAENORIAETHAU RHANBARTHOL PDF 347 KB Alwyn Jones
i gyflwyno’r adroddiad i aelodau’r Cyd-bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cydbwyllgor
yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad, rhaglen
waith GwE a'r blaenoriaethau drafft ar gyfer 2021-22,
a adolygir yn gyson i ymateb i sefyllfa Covid-19 a chanllawiau a rheoliadau'r
llywodraeth. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE ac atgoffwyd y Cydbwyllgor bod
rhaglen waith y gwasanaeth wedi cael ei hail-gyfeirio yn ystod y cyfnod
diwethaf. Cyfeiriwyd at y gwaith a’r cydweithrediad da
sydd wedi bod rhwng GwE a’r Awdurdodau Lleol er mwyn cyfarch anghenion
cyfnewidiol yr ysgolion. Ategwyd bod rôl yr ymgynghorwyr wedi ei groesawu gan
staff ysgolion. Tynnwyd sylw a rhoddwyd amlinelliad o
flaenoriaethau drafft GwE ar gyfer 2021-22. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:- - Nodwyd bod angen sicrhau nad yw athrawon yn
dychwelyd mis Medi i unrhyw gwynion apêl graddau arholiad - angen sicrhau bod
proses apelio cadarn yn ei le. - Gofynnwyd lle mae’r atebolrwydd ynghylch
dulliau dysgu o bell - nodwyd bod darpariaeth o ysgol i ysgol yn amrywio gyda
rhai yn cynnig gwersi byw ac eraill ddim. - Ategwyd hyn gan nodi efallai bod angen
datganiad rhanbarthol gan GwE sy’n cynghori ar y disgwyliadau ynghylch dysgu o
bell. - Nodwyd bod rhieni/gofalwyr wedi derbyn
holiadur i fynegi eu disgwyliadau. Cynigwyd bod yr aelodau yn cynnal y sgyrsiau
yma gyda’u swyddogion addysg. |
|
Arwyn Thomas
i gyflwyno’r adroddiad i’r Cyd-bwyllgor. Penderfyniad: Cydbwyllgor yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad am
brif ffocws gwaith GwE dros y ddau dymor nesaf. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad ac amlinellwyd prif
ffocws gwaith GwE dros y ddau dymor nesaf. Nodwyd mai’r ffocws fydd cefnogi
staff ysgol ac arweinwyr er mwyn adnabod y llwyddiannau a’r hyn sydd wedi
gweithio'n dda iddynt dros y cyfnod diwethaf, yn ogystal ag beth sydd yn parhau
i fod angen sylw. Atgoffwyd y Cydbwyllgor bod Estyn yn bwriadu
ailgychwyn gyda’u gwaith y tymor hwn ac felly bydd yr Ymgynghorwyr Cefnogi
Gwelliant yn cefnogi’r ysgolionfel eu bod mewn
sefyllfa gadarn. Ymhelaethwyd (Elfyn Jones) ar y camau nesaf
sef ffocws ar gefnogi darpariaethau o fewn yr ysgolion, cefnogi dysgu cyfunol,
ac ar gefnogi ysgolion i fesur effaith eu gweithredoedd ar y cynnydd mewn
dysgu. Ategwyd y byddai’r camau nesaf yn sicrhau
bod bob ysgol mewn sefyllfa hyderus i adrodd ar eu safonau a chynnydd y
disgyblion. Sylwadau sy’n codi o’r drafodaeth:- - Diolchwyd am y gwaith a nodwyd balchder o
glywed y paratoadau sydd ar y gweill. - Cwestiynwyd y ffordd orau o sicrhau bod y
cyllid ychwanegol yn mynd i gael defnydd effeithlon. - Gofynnwyd beth yw cynlluniau ar gyfer asesu
anghenion plant, yn arbennig y plant fydd angen cefnogaeth ychwanegol oherwydd
dirywiad iechyd meddwl. - Ategwyd bod y camau nesaf yn dir hollol
newydd i staff ysgolion gan nad ydynt erioed wedi ymdopi â realiti cyfnod ôl-pandemig. Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd y canlynol:- - Sicrhawyd y byddai unrhyw gyllid ychwanegol
yn cael ei ddefnyddio er lles tymor hir plant. - Bydd pwyslais ar anghenion cyfan y dysgwyr
- emosiynol, cymdeithasol a chorfforol. |
|
Y DAITH DDIWYGIO A DYSGU PROFESIYNOL PDF 256 KB Arwyn Thomas
i gyflwyno’r adroddiad i’r Cyd-bwyllgor. Penderfyniad: Cydbwyllgor yn derbyn a chymeradwyo cynnwys yr
adroddiad. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd trosolwg gan Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE ar y sefyllfa bresennol ynghylch y Daith Ddiwygio gan ategu bod ysgolion
mewn sefyllfaoedd wahanol yn nhermau parodrwydd a chapasiti.
Ategwyd er bod gweithdrefnau wedi arafu dros
y cyfnod diwethaf, mae’r gwaith dal i barhau ar gyfer cefnogi Cwricwlwm i
Gymru. Diolchwyd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor,
am yr adroddiad gynhwysfawr. |
|
DYSGU O BELL AC YMGYSYLLTIAD RHIENI/GOFALWYR PDF 252 KB Arwyn
Thomas i rannu gwybodaeth gyda’r Cyd-bwyllgor am y strategaeth a’r gefnogaeth
sydd ar gael i ysgolion mewn perthynas â dysgu o bell. . Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a) Cydbwyllgor yn derbyn a chymeradwyo’r adroddiad. b) Cefnogi’r strategaeth a’r gefnogaeth sydd mewn lle i ysgolion mewn
perthynas ag ymgysylltiad rhieni/gofalwyr a dysgu o bell yng Ngogledd Cymru Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn
cynnwys dwy ddogfen sydd â’r bwriad o gefnogi ysgolion a rhieni/gofalwyr a
chynorthwyo ysgolion ymhellach i ymateb i gwestiynau ac ymholiadau ynghylch
dysgu o bell. Ategwyd bod bwriad i
ddatblygu strategaeth ranbarthol. ar gyfer gwella ymgysylltiad rhieni/gofalwyr
fel y gallent gefnogi dysgu eu plant yn effeithiol yn ystod cyfnod COVID a thu
hwnt. Amlygwyd pwysigrwydd yr ymgysylltiad rhwng
ysgolion a rhieni/gofalwyr dros y cyfnod dysgu o bell fel un o prif
flaenoriaethau y cyfnod nesaf. Diolchwyd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor,
am yr adroddiad gynhwysfawr. |
|
RHAGLENNI DYSGU CARLAM AR GYFER Y GYMRAEG PDF 362 KB Alwyn Jones i geisio
cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i ddatblygu rhaglenni Dysgu Carlam ar gyfer y rhai
sy’n derbyn ei haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (Iaith Gyntaf). Penderfyniad: Cydbwyllgor yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau
i ddatblygu rhaglenni dysgu carlam i blant a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg
iaith gyntaf. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE gan nodi bod yr eitemau blaenorol wedi cyffwrdd â’r cynnwys.
Rhoddwyd amlinelliad o’r cynnwys wrth nodi pwrpas yr adroddiad sef datblygu
ymhellach rhaglenni dysgu carlam ar gyfer y Gymraeg iaith gyntaf. Amlygwyd o fewn adroddiad thematig Estyn bod
pryder ynghylch disgyblion yn colli’r Gymraeg a ddysgwyd yn yr ysgol, yn
arbennig rhai sydd o aelwydydd di-gymraeg. Diolchwyd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor,
am yr adroddiad gynhwysfawr. |
|
CALENDR CYFARFODYDD 2021/2022 PDF 320 KB Arwyn Thomas i wneud cais i’r Cyd-bwyllgor gytuno ar raglen
cyfarfodydd am y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r calendr cyfarfodydd fel
nodir yn atodiad 1. Cofnod: Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r calendr
cyfarfodydd fel nodir yn atodiad 1. |