Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y canlynol; Annwen
Morgan (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn), Claire Armitstead (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Garem Jackson (Cyngor Gwynedd), Claire
Homard (Cyngor Sir y Fflint), Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE), Karen Evans (Cyngor Sir
Ddinbych). |
||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
||
COFNODION Y CYFARFOD BLANEOROL PDF 298 KB (atodol) Cofnod: Cadarnhawyd fod y
cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar yr 24ain o Chwefror, 2021 yn gywir. Cyfeiriwyd at sylw
o dan Eitem 11 o'r cofnodion gan ddiweddaru’r Cydbwyllgor bod GwE yn gweithio
efo ymgynghorydd ar gyfer ymgysylltu gyda rhieni er mwyn hyrwyddo cefnogi
dysgu. Ymhelaethwyd gan nodi bod grŵp rhanbarthol wedi ei sefydlu er mwyn
datblygu adnoddau dwyieithog a fydd ar gael i ysgolion ar ôl hanner tymor. |
||
CYFRIFON GwE 2020-2021 - ALLDRO REFENIW PDF 585 KB
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Nodi
a derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2020/21 cyflwynwyd yn Atodiad 1
fel sefyllfa ariannol derfynol. a)
Cydbwyllgor
yn cymeradwyo trosglwyddiad ariannol i neilltuo tanwariant 2020/21 o (£83,326)
i gronfa wrth gefn GwE Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid,
Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Lletyol sy’n nodi alldro
refeniw ar ddiwedd y flwyddyn gyllidebol 2020/21. Nodwyd bod tanwariant o £83,000 yn bennaf o
ganlyniad i arbedion costau teithio. Argymhellwyd bod y tanwariant yn cael ei
drosglwyddo i gronfa wrth gefn GwE. Cyfeiriwyd at yr adroddiad er mwyn egluro
ymhellach y gwariant a thanwariant dros y flwyddyn. Ategwyd bod sefyllfa ariannol bresennol GwE
yn wastad ac yn ddarbodus ar ddiwedd y flwyddyn gyllidebol. Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor,
am yr adroddiad cynhwysfawr ac ategwyd hyn gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE. |
||
CYNLLUN BUSNES GwE 2021-2022 PDF 255 KB I gyflwyno Cynllun Busnes
Rhanbarthol GwE 2021 – 2022 i aelodau’r Cyd-bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo Cynllun Busnes Rhanbarthol
GwE ar gyfer 2021 – 2022. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd y Cynllun Busnes gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi
ei fod yn amlinellu gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiad y gwasanaeth, yn
ogystal â’r meysydd gwelliant â blaenoriaeth ar draws y rhanbarth. Yn ogystal, ategwyd bod y Cynllun Busnes yn
rhoi sylw i flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol,
sydd o fewn cylch gorchwyl GwE. Cefnogir y blaenoriaethau yma gan gynlluniau
manwl y gwasanaeth ac hefyd mae gan bob Awdurdod Lleol gynllun busnes
manwl. Adroddir yn chwarterol ar gynnydd yn erbyn y
Cynllun Busnes Rhanbarthol i’r Cyd-bwyllgor.
|
||
I gyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Nodi a derbyn
cynnwys yr adroddiad. b) Bydd y Cydbwyllgor yn cael eu
briffio yn ystod y drafodaeth nesaf ar y
Gofrestr Risg mewn perthynas â’r risgiau cydberthynol sydd ynghlwm â recriwtio
arweinyddion, ynghyd ag recriwtio staff cymwys dwyieithog. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd y gofrestr risg diweddaraf gan
Reolwr Busnes GwE gan egluro ei bwrpas sef ffurfioli proses o adnabod risgiau a
chymryd camau gweithredu. Mae cofrestr risg GwE yn ddogfen fyw, a chaiff ei
hadolygu'n gyson. Fe'i cyflwynir i’r Cydbwyllgor yn flynyddol, a hefyd pan fydd
risgiau newydd yn cael eu hadnabod a bod angen i’r Cydbwyllgor fod yn ymwybodol
ohonynt. Cyfeiriwyd at y pecyn gan nodi
bod y risgiau wedi eu diweddaru ac wedi amlygu’n goch er gwybodaeth i’r pwyllgor. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth:- -
Amlygwyd
risgiau ynghylch recriwtio penaethiaid yn sgil y pandemig.
Gofynnwyd a oedd diweddariad ar hyn o fewn y rhanbarth. -
Ategwyd
hyn gan nodi bod ambell i staff arweiniol yn dewis ymddeol yn gynnar ac felly
mae’n bwysig ystyried hyn fel risg uwch. -
Gofynnwyd
i ystyried llwyth gwaith penaethiaid a’u cyfrifoldebau ymestynnol. Ategwyd bod
angen edrych ar resymau pam mae recriwtio yn bryder gan gynnig mai oherwydd yr
amrediad o gyfrifoldebau ac atebolrwydd sydd ar benaethiaid. Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Cyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE:- -
Bod
ffigyrau CPCP yn iach dros y blynyddoedd diweddaraf fodd bynnag nid pawb sy’n
meddu ar y cymhwyster sy’n mynd ymlaen i fod yn benaethiaid. -
Amlygwyd
pwysigrwydd sicrhau lles penaethiaid fel blaenoriaeth. |
||
TREFNIADAU ASESU: TYMOR YR HAF 2021 PDF 293 KB I gyflwyno crynodeb o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar
drefniadau asesu tymor yr 2021 a gyhoeddwyd ar Ebrill 7fed, 2021 i aelodau’r
Cydbwyllgor. Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE er gwybodaeth er mwyn nodi bod y sefyllfa asesu yn adlewyrchu'r
sefyllfa a fu yn 2020 sef nad oes disgwyliad i athrawon asesu na chymedroli. Yn
ogystal, nodwyd na fydd canlyniadau CA4 yn cael eu cyhoeddi ar lefel ysgol, dim
ond ar lefel cenedlaethol. Ategwyd nad oes rhaid i ysgolion gynnal
profion llythrennedd a rhifedd, fodd bynnag,
anogir ysgolion i’w cynnal os yn bosib ar gyfer asesu’n fewnol. |
||
Y DAITH DDIWYGIO: PAPURAU PROCIO PDF 441 KB I gyflwyno cyfres
o Bapurau Procio sydd yn edrych ar agweddau ar arweinyddiaeth, gweledigaeth,
addysgeg, asesu a dylunio'r cwricwlwm i aelodau'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad. b)
Bwriedir rhannu
datblygiadau gydag Aelodau Etholedig a’r gymuned ehangach, er mwyn codi
ymwybyddiaeth o waith parhaus GwE i sicrhau llwyddiant y cwricwlwm newydd yn
2022. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi bod casgliad o bapurau wedi eu cynhyrchu ar
y cyd gan aelodau tîm GwE, yn gweithio dan arweiniad a chymorth yr Athro Graham
Donaldson. Nodwyd mai bwriad y Papurau Procio yw annog
trafodaeth a chefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Ategwyd
bod y rhain wedi eu rhannu efo ysgolion mewn cyfres o webinarau
a'u bod yn ddefnyddiol i’w hysgogi i feddwl beth sydd angen ei roi mewn lle ar
gyfer y cwricwlwm newydd. Sylwadau sy’n codi o’r drafodaeth:- -
Diolchwyd
i swyddogion GwE am eu gwaith ar y cwricwlwm newydd ac estynnwyd balchder o
glywed bod perthynas agos gyda’r Athro Donaldson. -
Ategwyd
balchder yn y gwaith a brwdfrydedd o’r cyfleoedd a daw efo’r cwricwlwm newydd
fel ffordd o roi Cymru ar y map. -
Mynegwyd
bod angen rhannu'r rhain efo pwyllgorau craffu addysg ac yn ehangach er mwyn
codi ymwybyddiaeth o’r gwaith sydd yn digwydd. -
Ategwyd
hyn gan nodi’r angen i gael y neges allan i rieni ac awdurdodau lleol am y
newid mawr sydd ar y gweill a’r cyfleoedd a daw yn sgil y cwricwlwm. -
Nodwyd
bod y pandemig wedi rhoi cysgod dros y gwaith yma ac
ategwyd pwysigrwydd bod y gwaith yn cael ei amlygu erbyn hyn. Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Cyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE:- -
Bod
y gwaith yn cael eu recordio fel webinarau ac felly
bydd modd i rannu'r rhain efo aelodau’r cydbwyllgor ac efo rhieni a
llywodraethwyr er mwyn amlygu’r gwaith. |
||
ADOLYGIAD THEMATIG ESTYN: ARGYMHELLION PDF 317 KB I gyflwyno adroddiad cynnydd
ar argymhellion adolygiad thematig Estyn ‘Cymorth awdurdodau lleol a chonsortia
rhanbarthol i ysgolion ac UCDau i ymateb i
COVID-19’ i aelodau’r Cyd-Bwyllgor. . Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Nodi a derbyn
cynnwys yr adroddiad. b)
Bod aelodau’r
Cydbwyllgor yn cael eu briffio yn yr Hydref ar y camau a gymerwyd i ddiwallu’r
argymhellion sydd o fewn yr adolygiad thematig gan Estyn. Cofnod: TRAFODAETH: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi y derbyniwyd rhestr o argymhellion
gan Estyn o ganlyniad i’r adolygiad a fu. Nodwyd bod Estyn eisoes wedi ymweld â’r
awdurdodau a GwE i drafod y cynnydd yn
erbyn yr argymhellion a chyfeiriwyd at yr adroddiad er gwybodaeth i aelodau’r
cydbwyllgor sy’n amlinellu’r cynnydd hyd yma.
Gan nad oedd amser hir rhwng cyhoeddi’r adroddiad ym mis Rhagfyr/Ionawr
a’r ymweliadau diweddar, awgrymwyd bod y Cydbwyllgor yn derbyn diweddariad yn
yr Hydref ar y camau a gymerwyd i ddiwallu’r argymhellion sydd o fewn yr
adolygiad thematig gan Estyn. Sylwadau sy’n codi o’r drafodaeth:- -
Nodwyd bod yr adroddiad yn un defnyddiol wrth iddo
ddangos ymarferion ar draws y rhanbarth. -
Gofynnwyd
a oes mwy o waith i wneud er mwyn diwallu’r argymhellion, ac os felly, cynigwyd
bod angen diweddaru’r cydbwyllgor yn yr Hydref. -
Mynegwyd
bod yr argymhellion yn briodol ac yn amlygu’r gwaith arbennig sydd wedi bod
ymysg y 6 Awdurdod Lleol a GwE. -
Ategwyd aelodau eraill y cydbwyllgor eu bod yn
ddiolchgar iawn am y gwaith gan GwE, ALl a’r
ysgolion. |