Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones E-bost: rhodrijones1@gwynedd.llyw.cymru 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2022-2023. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Julie Fallon yn
gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2022-2023. Cofnod: Ethol y Cynghorydd Julie Fallon yn Gadeirydd
y Cyd-bwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022-2023. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-Gadeirydd ar gyfer 2022-2023. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Gill German yn
Is-Gadeirydd ar gyfer 2022-2023. Cofnod: Ethol y Cynghorydd Gill German yn
Is-Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022-2023. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb. Cofnod: Derbynwyd ymddiheuriadau gan Karen Evans
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Geraint Davies (Cyngor Sir Ddinbych). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 16.02.2022 fel rhai cywir. Cofnod: Cadarnhawyd fod y
cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 16eg o Chwefror, 2022 yn gywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2021-2022 GWE PDF 384 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad
Blynyddol ar gyfer 2021-2022. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE gan nodi y prif bwyntiau isod: -
Er
eglurder,nodwyd fod cynnwys yr adroddiad yn deillio o ymweliadau ag ysgolion,
themâu o gynlluniau busnes, trafodaethau gyda’r Bwrdd Rheoli a blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru. -
Datganwyd
fod nifer o agweddau cadarnhaol i’w clodfori yn yr adroddiad megis o
Bod
cydweithio effeithiol wedi sirchau cefnogaeth briodol i ysgolion yn ystod
cyfnod heriol iawn drwy gynnal cyswllt parhaus. o
Datblygwyd
system dysgu o bell i gydymffurfio gyda heriau newydd oedd yn wynebu addysg yng
Nghymru. o
Mae
gwefan GwE yn profi yn boblogaidd iawn. -
Eglurwyd
bod GwE a Prifysgol Bangor yn cydweithio’n
agos mewn perthynas â prosiect ‘Ein Llais -
Cydnabyddwyd
bod sawl her yn gwynebu GwE yn y dyfodol megis: o
datblygu
a magu gweithlu dros gyfnod estynedig. o
Datblygu
arweinyddiaeth. Roedd y cyfnodau clo yn gyfnod o ‘reoli’ yn hytrach na ‘arwain’
er mwyn sicrhau diogelwch ac felly mae angen sicrhau fod y sgiliau
arweinyddiaeth yn cael eu datblygu unwaith yn rhagor. o
Materion
busnes megis cofrestr risg, gwerth am arian a herio perfformiad, yn ogystal â
chyfrifoldeb i ddatblygu staff ysgolion a gweithlu GwE. -
Yn
dilyn cais am wybodaeth bellach ar bynciau penodol, eglurodd y Rheolwr
Gyfarwyddwr: o
Bod
llawer o frwdrfrydedd gan ysgolion uwchradd y dwyrain i fod yn rhan o brosiect
‘Ein Llais Ni’. Rhaid cael proses rhaeadru effeithiol er mwyn sicrhau fod y prosiect
yn cael ei ddatblygu’n llwyddiannus. Mae’r Gweinidog Addysg wedi dangos
diddordeb yn y prosiect ac yn awyddus i rhannu’r prosiect gyda rhanbarthau
eraill er mwyn mabwysiadu’r project yn genedlaethol. o
Gwneir
gwaith cyson er mwyn sicrhau lles disgyblion a staff. Mae’r gwaith hwn yn
amrwyio fesul awdurdod oherwydd anghenion gwahanol yr ardaloedd. Bydd gwaith
pellach yn cael ei wneud ym mis Medi ar lefel ysgolion unigol.. o
Mae
hyder i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wedi dirywio ers y cyfnodau clo felly mae gwaith
yn cael ei wneud er mwyn datblygu’r hyder hwnnw unwaith eto. Mae yna leihad yn
y nifer o ddisgyblion sydd yn dewis astudio’r pwnc ‘Cymraeg’ yn eu addysg uwch
a throsiant mewn nifer o swyddi penaethiaid. Mae gwaith yn cael ei wneud ar y
cyd gyda Prifysgol Bangor er mwyn annog disgyblion i barhau gyda’u addysg yn yr
iaith Gymraeg.. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithlu
dwy-ieithog yn cael ei feithrin. o
Mae’r
berthynas rhwng gofalwyr/rhieni a’r ysgolion wedi cael ei herio yn y cyfnodau
clo. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu pecyn o adnoddau er mwyn rhoi
arweiniad i rieni ar y dulliau gorau o gefnogi plant a phobl ifanc. PENDERFYNWYD - Derbyn
a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-2022. |
|
CYNLLUN BUSNES GWE 2021-2022 - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 4 PDF 363 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r Adroddiad ar gyfer
monitro chwarter 4 Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE 2021-2022. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE gan gadarnhau fod y wybodaeth yn atgyfnerthu’r wybodaeth a
rannwyd yn Eitem 7. Bydd gwybodaeth rhanbarthol yn cael ei rannu yn y byrddau ansawdd sirol. PENDERFYNWYD -
Cymeradwyo’r adroddiad
ar gyfer monitro chwarter 4 - Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE 2021-2022. |
|
CYFRIFON GWE 2021-2022 - ALLDRO REFENIW PDF 396 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn y Cyfrif Incwm a
Gwariant Refeniw am 2021-2022 a gyflwynwyd yn Atodiad 1 fel y sefyllfa ariannol
derfynol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid
yr Awdurdod Lletyol a nodwyd y prif bwyntiau isod: -
Er
bod cyllideb gytbwys wedi cael ei osod ar gyfer y flwyddyn ariannol, mae
sefyllfa ddiwedd y flwyddyn yn dangos gorwariant o £230,128 am y flwyddyn
ariannol. -
Dengys
yr adroddiad fod tanwariant mewn rhai meysydd megis gweithwyr a cludiant. Y
prif resymau dros hyn ydi fod llawer o’r gweithlu wedi cael secondiad i weithio
ar brosiectau penodol, yn ogystal a’r diffyg teithio yn ystod y cyfnodau clo. -
Bu
gorwariant ar adeilad GwE fel canlyniad i golled incwm wrth i bobl beidio
rhentu ystafelloedd yn ystod y cyfnodau clo. Mae hyn i’w ddisgwyl hefyd yn y
flwyddyn ariannol bresennol ond disgwylir i’r sefyllfa wella. -
Eglurwyd
fod penderfyniad wedi cael ei wneud yn ystod y flwyddyn i wario cyfran o’r
arian a gynilwyd yng nghronfa wrth gefn GwE. Mae tanwariant yn y blynyddoedd
diwethaf wedi arwain i’r gronfa gwrth gefn gynyddu’n sylweddol i £563,530 ar
gychwyn y flwyddyn ariannol. Mae defnyddio’r arian yma, ynghyd â’r tanwariant
mewn meysydd penodol wedi ariannu gwariant yn erbyn y pennawd Prosiectau
Penodol. Bu penderfyniad bwriadol i wario’r arian yma er mwyn sicrhau fod
ysgolion yn parhau i gael cefnogaeth yn ystod y cyfnodau clo. -
Gofynnir
i’r pwyllgor gymeradwyo trosglwyddiad o gyfrif wrth gefn GwE er mwyn arainnu’r gwariant yma. Bydd balans
o £437,503 yn weddill yn y gronfa wrth gefn. Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd
nodwyd y pwyntiau isod gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE: -
Bydd
sgyrsiau yn cael eu cynnal gyda’r Bwrdd Rheoli pan yn briodol i ystyried
trefniadau gweithio’r gweithlu yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd y mwyafrif o
weithlu GwE yn gweithio yn y swyddfa a/neu allan yn yr ysgolion. Bydd angen trafodaethau pellach ar modelau
gweithio i’r dyfodol. -
PENDERFYNWYD - Nodi a
derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2021-2022 a gyflwynwyd yn Atodiad 1
fel y sefyllfa ariannol derfynol. - Cymeradwyo
trosglwyddiad ariannol o gronfa wrth gefn GwE i ariannu gorwariant 2021-2022 o
£230,128. |
|
DATGANIAD O'R CYFRIFON 2021-2022 (Yn amodol ar Archwiliad) PDF 297 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a cymeradwyo’r datganiad o
gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2021-2022. Cofnod: gymhariaeth yn adlewyrchiad teg o’r
sefyllfa). Nodwyd fod y Pennaeth Cyllid wedi llofnodi’r datganiadau drafft ar
30 Mai 2022, oedd o fewn y terfyn amser statudol. Bydd y dogfennau yn cael eu
cyflwyno i Archwilio Cymru er mwyn eu harchwilio, a bydd y Datgniad
terfynol ac adroddiad yr archwilwyr yn cael eu cyflwyno i gyfarfod 23 Tachwedd
2022 o’r Cyd-bwyllgor am gymeradwyaeth. PENDERFYNWYD Derbyn a cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol
ar archwiliad) am 2021-2022. |
|
ARCHWILIO CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO 2022 GWE PDF 273 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo Cynllun
archwilio 2022 ac ymrwymo i weithio tuag at cyflawni dyletswyddau statudol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan gynrychiolydd o
Archwilio Cymru a nodwyd y prif bwyntiau isod: -
Mae’r
cynllun yn gosod allan y gwaith bwriedir ei gyflawni yn 2022. -
Nodwyd
efallai bydd yn rhaid ailystyried amserlen yr archwiliad ac byddai’r swyddogion
mewn trafodaeth gyda GwE petai’r angen yn codi. PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio 2022 ac ymrwymo
i weithio tuag at cyflawni dyletswyddau statudol. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU 2021-2022 PDF 252 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021-2022. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE a Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol
a nodwyd y prif faterion isod: -
Eglurwyd
ei fod yn ofyn statudol ar GwE i baratoi datganiad llywodraethu. Bydd yn cael
ei gyflwyno gyda’r cyfrifon wedi i Archwilio Cymru gwblhau ei archwiliad. -
Dangoswyd
enghreifftiau o sut mae GwE ac ysgolion y rhanbarth eisoes wedi dangos
llwyddiant wrth ddilyn y saith egwyddor. -
Cadarnhawyd
fod y ddogfen hon yn ddogfen fyw, sydd yn newid yn barhaus ble mae’n briodol,
er mwyn adlewyrchu unrhyw heriau. PENDERFYNWYD Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
ar gyfer 2021-2022. |
|
CYNLLUN BUSNES GWE 2022-2023 PDF 284 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo Cynllun Busnes
Rhanbarthol GwE ar gyfer 2022-2023 Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE a nodwyd y bwyntiau isod: -
Mae
perthynas cadarn rhwng yr adroddiad blynyddol a’r cynllun busnes. Defnyddir
amcanion llywodraethol a sefydliadol GwE er mwyn sefydlu prif flaenoriaethau ar
gyfer y flwyddyn.. -
Eglurwyd
bod y blaenoriaethau yn cael eu gosod yn erbyn yr amcanion a bod cynlluniau busnes manwl yn cael eu gosod a’u
rhoi ar waith er mwyn sicrhau fod yr amcanion yn cael eu diwallu. -
Nodwyd
bod ALl yn gallu ychwanegu materion perthnasol ar
lefel sirol i’w cynlluniau busnes yn ogystal.
. -
Nodwyd bydd diweddariadau ar y materion hyn yn cael
eu adrodd yn gyson i’r pwyllgor hwn ac i
gyfarfodydd craffu sirol. Bydd materion gweithredol yn cael eu trafod yn
ogystal yn y Byrddau Ansawdd Sirol. PENDERFYNWYD Cymeradwyo Cynllun Busnes
Rhanbarthol GwE ar gyfer 2022-2023 |
|
I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn cynnwys yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfwarwyddwr GwE a nodwyd y prif faterion isod: -
Nodwyd
fod sawl risg wedi cael ei ddiwygio o fewn y ddogfen fyw yma.. -
Datganwyd
mai un o’r risgiau mwyaf ar gyfer y blynyddoedd i ddod ydi’r gyllideb a
chwyddiant, yn enwedig gan fod cyllideb GwE wedi lleihau 22% yn y blynyddoedd diweddar. -
Trafodwyd
sawl risg arall yn y flwyddyn nesaf megis: o
Effeithiau
cyfnod clo a phwysau gwaith o
Sgiliau
unigolion o
Parodrwydd
i groesawu’r cwricilwm newydd o
Ansicrwydd
ar gyfer atebolrwydd / mesurau herio perfformiad a sut mae atebolrwydd
cenedlaethol yn amharu ar ofynion lleol. o
Toriadau
i gyllidebau ysgolion.. PENDERFYNWYD Nodi a derbyn cynnwys yr
adroddiad. |
|
CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION: FFRAMWAITH AR GYFER GWERTHUSO, GWELLA AC ATEBOLRWYDD PDF 568 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Penderfyniad: Nodi a derbyn cynnwys yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE a nodwyd y prif faterion isod: -
Esboniwyd
fod y canllawiau hyn wedi cael eu cyhoeddi yn dilyn diddymu’r system o
gategoreiddio ysgolion. Mae’n system anstatudol ar hyn o bryd ond mae disgwyl
iddo fod yn statudol erbyn Medi 2024. Serch hyn, mae disgwyliad ar ysgolion i
geisio mabwysiadau’r canllawiau mor fuan â phosibl. -
Nodwyd
mai prif agweddau’r canllawiau ydi: o
Rhaid
i gyrff llywodraethu sicrhau bod copi cryno o'u cynllun datblygu ysgol ar gael
trwy’r Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol. Er mwyn helpu i gynyddu hyder
yn yr ysgol a’i chynllun datblygu a’r ymrwymiad iddynt, dylai’r ysgol
gyhoeddi’r copi cryno ar ei gwefan. Dylid ysgrifennu’r crynodeb mewn iaith sy’n
hawdd i rieni, gofalwyr a dysgwyr ei deall. . o
Rhaid
hefyd rhoi trosolwg
tudalen o hyd ar gasgliadau/canfyddiadau hunanwerthuso’r ysgol, gan gyfleu prif
gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu,. Mae disgwyliad iddo gynnwys
blaenoriaethau gwella lefel uchel; camau gweithredu a gynlluniwyd er mwyn
cyflawni'r blaenoriaethau hynny; a cherrig milltir perthnasol. o
Mae
angen i’r corff llywodraethu ddangos holl gymorth allanol mae’r ysgol wedi ei
dderbyn yn y flwyddyn ariannol honno (gan gynnwys cefnogaeth GwE). o
Bydd
y cyrff llywodraeth yn adrodd ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r flwyddyn
flaenorol. o
Rhaid
i GwE a’r Awdurdod Lleol gynnal deialog proffesiynol gyda’r corff llywodraethu
er mwyn trafod prosesau hunan werthuso, cryfderau’r ysgol ac unrhyw fater arall
sydd angen i’r corff llywodraethol fod yn ymwybodol ohonno
a’i fonitro. o
Rhaid
i’r corff llywodraethol dderbyn adroddiad ar sut bydd cefnogaeth yn cael ei
gynnal. Mewn ymateb i sylwadau, nododd y Rheolwr
Gyfarwyddwr: -
Ei
fod yn cydnabod fod y canllawiau hyn wedi cael eu cyflwyno ar amser heriol iawn
gan fod ysgolion dal yn ymdopi gyda materion Covid-19 yn ogystal â phrysurdeb
diwedd flwyddyn academaidd. Er bod ysgolion yn pryderu na fyddai’n bosibl
cyflawni’r canllawiau hyn erbyn diwedd y flwyddyn academaidd, mae’r Rheolwr
Gyfarwyddwr yn ffyddiog byddai’r ysgolion yn gallu gweithredu ar y canllawiau
yn fuan yn nhymor yr Hydref er mwyn sichrau erbyn
diwedd y flwyddyn academaidd nesaf, bydd yr ysgolion wedi ymrwymo â’r
canllawiau yn effeithlon ac yn llwyddiannus. -
Byddai
hyn yn rhoi amser i ysgolion ddod i arfer â’r canllawiau hyn cyn iddynt fod yn
statudol ac hefyd yn rhoi amser i werthuso’r gwaith er mwyn gallu ceisio datrys
y problemau sy’n codi o’r canllawiau cyn iddynt gael eu gwneud yn statudol ym
mis Medi 2024. PENDERFYNWYD Nodi a derbyn cynnwys yr
adroddiad. |
|
SIARTER ARCHWILIO MEWNOL A CHYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2022-23 PDF 587 KB I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau. Penderfyniad: Cymeradwyo Siarter Aarchwilio
Mewnol a Chynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-2023. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Archwilio
Cyngor Gwynedd a nodwyd y prif faterion isod: -
Eglurwyd
fod cael archwiliad mewnol yn rhoi hyder i’r dinesydd ar faterion llywodraethu.
Er mwyn iddo weithio yn effeithiol rhaid creu siarter archwilio mewnol. Bydd yr
adroddiad archwilio mewnol yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
ond os oes methiannau mawr yn codi cyn hynny bydd rheini yn cael ei amlygu gan
yr archwiliwyr i’r Rheolwr Gyfarwyddwr cyn ddiwedd y
flwyddyn ariannol. -
Y
prif meysydd bydd yn cael ei archwilio ydi: o
Hyfforddiant o
Trefniadau Recriwtio a Dargadw Staff
- gyda cynllun olyniaeth gyda gweithiol aml-leoliad o
Rheoli
Absenoldebau - mae 26% o gyflogwyr yn cynnwys covid
hir fel prif reswm am absenoldeb hir dymo PENDERFYNWYD Cymeradwyo Siarter Archwilio
Mewnol a Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-2023. Dechreuodd y cyfarfod am 1:30yp a daeth i ben am 3.15yp. _________________________________ CADEIRYDD |