skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones E-bost: rhodrijones1@gwynedd.llyw.cymru  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022-2023.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Julie Fallon yn gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.

 

Cofnod:

Ethol y Cynghorydd Julie Fallon yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022-2023.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Gill German yn Is-Gadeirydd ar gyfer 2022-2023.

 

Cofnod:

Ethol y Cynghorydd Gill German yn Is-Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb.

Cofnod:

Derbynwyd ymddiheuriadau gan Karen Evans (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Geraint Davies (Cyngor Sir Ddinbych).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 265 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16.02.2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 16eg o Chwefror, 2022 yn gywir.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2021-2022 GWE pdf eicon PDF 384 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE gan nodi y prif bwyntiau isod:

 

-      Er eglurder,nodwyd fod cynnwys yr adroddiad yn deillio o ymweliadau ag ysgolion, themâu o gynlluniau busnes, trafodaethau gyda’r Bwrdd Rheoli a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

-      Datganwyd fod nifer o agweddau cadarnhaol i’w clodfori yn yr adroddiad megis

o   Bod cydweithio effeithiol wedi sirchau cefnogaeth briodol i ysgolion yn ystod cyfnod heriol iawn drwy gynnal cyswllt parhaus.

o   Datblygwyd system dysgu o bell i gydymffurfio gyda heriau newydd oedd yn wynebu addysg yng Nghymru.

o   Mae gwefan GwE yn profi yn boblogaidd iawn.

-      Eglurwyd bod GwE a Prifysgol Bangor yn cydweithio’n  agos mewn perthynas â prosiect ‘Ein Llais

-      Cydnabyddwyd bod sawl her yn gwynebu GwE yn y dyfodol megis:

o   datblygu a magu gweithlu dros gyfnod estynedig.

o   Datblygu arweinyddiaeth. Roedd y cyfnodau clo yn gyfnod o ‘reoli’ yn hytrach na ‘arwain’ er mwyn sicrhau diogelwch ac felly mae angen sicrhau fod y sgiliau arweinyddiaeth yn cael eu datblygu unwaith yn rhagor.

o   Materion busnes megis cofrestr risg, gwerth am arian a herio perfformiad, yn ogystal â chyfrifoldeb i ddatblygu staff ysgolion a gweithlu GwE.

 

-      Yn dilyn cais am wybodaeth bellach ar bynciau penodol, eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr:

o   Bod llawer o frwdrfrydedd gan ysgolion uwchradd y dwyrain i fod yn rhan o brosiect ‘Ein Llais Ni’. Rhaid cael proses rhaeadru effeithiol er mwyn sicrhau fod y prosiect yn cael ei ddatblygu’n llwyddiannus. Mae’r Gweinidog Addysg wedi dangos diddordeb yn y prosiect ac yn awyddus i rhannu’r prosiect gyda rhanbarthau eraill er mwyn mabwysiadu’r project yn genedlaethol.

o   Gwneir gwaith cyson er mwyn sicrhau lles disgyblion a staff. Mae’r gwaith hwn yn amrwyio fesul awdurdod oherwydd anghenion gwahanol yr ardaloedd. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ym mis Medi ar lefel ysgolion unigol..

o   Mae hyder i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wedi dirywio ers y cyfnodau clo felly mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu’r hyder hwnnw unwaith eto. Mae yna leihad yn y nifer o ddisgyblion sydd yn dewis astudio’r pwnc ‘Cymraeg’ yn eu addysg uwch a throsiant mewn nifer o swyddi penaethiaid. Mae gwaith yn cael ei wneud ar y cyd gyda Prifysgol Bangor er mwyn annog disgyblion i barhau gyda’u addysg yn yr iaith Gymraeg.. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithlu dwy-ieithog yn cael ei feithrin.

o   Mae’r berthynas rhwng gofalwyr/rhieni a’r ysgolion wedi cael ei herio yn y cyfnodau clo. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu pecyn o adnoddau er mwyn rhoi arweiniad i rieni ar y dulliau gorau o gefnogi plant a phobl ifanc.

 

PENDERFYNWYD

 

-      Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-2022.

 

 

8.

CYNLLUN BUSNES GWE 2021-2022 - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 4 pdf eicon PDF 363 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Adroddiad ar gyfer monitro chwarter 4 Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE 2021-2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan gadarnhau fod y wybodaeth yn atgyfnerthu’r wybodaeth a rannwyd yn Eitem 7. Bydd gwybodaeth rhanbarthol yn cael ei rannu yn y  byrddau ansawdd sirol.

 

PENDERFYNWYD

 

-      Cymeradwyo’r adroddiad ar gyfer monitro chwarter 4 - Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE 2021-2022.

 

9.

CYFRIFON GWE 2021-2022 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 396 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

Nodi a derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2021-2022 a gyflwynwyd yn Atodiad 1 fel y sefyllfa ariannol derfynol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol a nodwyd y prif bwyntiau isod:

-      Er bod cyllideb gytbwys wedi cael ei osod ar gyfer y flwyddyn ariannol, mae sefyllfa ddiwedd y flwyddyn yn dangos gorwariant o £230,128 am y flwyddyn ariannol.

-      Dengys yr adroddiad fod tanwariant mewn rhai meysydd megis gweithwyr a cludiant. Y prif resymau dros hyn ydi fod llawer o’r gweithlu wedi cael secondiad i weithio ar brosiectau penodol, yn ogystal a’r diffyg teithio yn ystod y cyfnodau clo.

-      Bu gorwariant ar adeilad GwE fel canlyniad i golled incwm wrth i bobl beidio rhentu ystafelloedd yn ystod y cyfnodau clo. Mae hyn i’w ddisgwyl hefyd yn y flwyddyn ariannol bresennol ond disgwylir i’r sefyllfa wella.

-      Eglurwyd fod penderfyniad wedi cael ei wneud yn ystod y flwyddyn i wario cyfran o’r arian a gynilwyd yng nghronfa wrth gefn GwE. Mae tanwariant yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain i’r gronfa gwrth gefn gynyddu’n sylweddol i £563,530 ar gychwyn y flwyddyn ariannol. Mae defnyddio’r arian yma, ynghyd â’r tanwariant mewn meysydd penodol wedi ariannu gwariant yn erbyn y pennawd Prosiectau Penodol. Bu penderfyniad bwriadol i wario’r arian yma er mwyn sicrhau fod ysgolion yn parhau i gael cefnogaeth yn ystod y cyfnodau clo.

-      Gofynnir i’r pwyllgor gymeradwyo trosglwyddiad o gyfrif wrth gefn GwE er mwyn arainnu’r gwariant yma. Bydd balans o £437,503 yn weddill yn y gronfa wrth gefn.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd nodwyd y pwyntiau isod gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-      Bydd sgyrsiau yn cael eu cynnal gyda’r Bwrdd Rheoli pan yn briodol i ystyried trefniadau gweithio’r gweithlu yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd y mwyafrif o weithlu GwE yn gweithio yn y swyddfa a/neu allan yn yr ysgolion.  Bydd angen trafodaethau pellach ar modelau gweithio i’r dyfodol.

-       

 

PENDERFYNWYD

 

-      Nodi a derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2021-2022 a gyflwynwyd yn Atodiad 1 fel y sefyllfa ariannol derfynol.

 

-      Cymeradwyo trosglwyddiad ariannol o gronfa wrth gefn GwE i ariannu gorwariant 2021-2022 o £230,128.

 

10.

DATGANIAD O'R CYFRIFON 2021-2022 (Yn amodol ar Archwiliad) pdf eicon PDF 297 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a cymeradwyo’r datganiad o gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2021-2022.

 

Cofnod:

gymhariaeth yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa). Nodwyd fod y Pennaeth Cyllid wedi llofnodi’r datganiadau drafft ar 30 Mai 2022, oedd o fewn y terfyn amser statudol. Bydd y dogfennau yn cael eu cyflwyno i Archwilio Cymru er mwyn eu harchwilio, a bydd y Datgniad terfynol ac adroddiad yr archwilwyr yn cael eu cyflwyno i gyfarfod 23 Tachwedd 2022 o’r Cyd-bwyllgor am gymeradwyaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2021-2022.

 

11.

ARCHWILIO CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO 2022 GWE pdf eicon PDF 273 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo Cynllun archwilio 2022 ac ymrwymo i weithio tuag at cyflawni dyletswyddau statudol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gynrychiolydd o Archwilio Cymru a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Mae’r cynllun yn gosod allan y gwaith bwriedir ei gyflawni yn 2022.

-      Nodwyd efallai bydd yn rhaid ailystyried amserlen yr archwiliad ac byddai’r swyddogion mewn trafodaeth gyda GwE petai’r angen yn codi.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio 2022 ac ymrwymo i weithio tuag at cyflawni dyletswyddau statudol.

 

12.

DATGANIAD LLYWODRAETHU 2021-2022 pdf eicon PDF 252 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021-2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol a nodwyd y prif faterion isod:

           

-      Eglurwyd ei fod yn ofyn statudol ar GwE i baratoi datganiad llywodraethu. Bydd yn cael ei gyflwyno gyda’r cyfrifon wedi i Archwilio Cymru gwblhau ei archwiliad.

-      Dangoswyd enghreifftiau o sut mae GwE ac ysgolion y rhanbarth eisoes wedi dangos llwyddiant wrth ddilyn y saith egwyddor.

-      Cadarnhawyd fod y ddogfen hon yn ddogfen fyw, sydd yn newid yn barhaus ble mae’n briodol, er mwyn adlewyrchu unrhyw heriau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021-2022.

 

13.

CYNLLUN BUSNES GWE 2022-2023 pdf eicon PDF 284 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE ar gyfer 2022-2023

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a nodwyd y bwyntiau isod:

 

-      Mae perthynas cadarn rhwng yr adroddiad blynyddol a’r cynllun busnes. Defnyddir amcanion llywodraethol a sefydliadol GwE er mwyn sefydlu prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn..

-      Eglurwyd bod y blaenoriaethau yn cael eu gosod yn erbyn yr amcanion a bod  cynlluniau busnes manwl yn cael eu gosod a’u rhoi ar waith er mwyn sicrhau fod yr amcanion yn cael eu diwallu.

-      Nodwyd bod ALl yn gallu ychwanegu materion perthnasol ar lefel sirol i’w cynlluniau busnes yn ogystal.  .

-      Nodwyd  bydd diweddariadau ar y materion hyn yn cael eu adrodd yn  gyson i’r pwyllgor hwn ac i gyfarfodydd craffu sirol. Bydd materion gweithredol yn cael eu trafod yn ogystal yn y Byrddau Ansawdd Sirol.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE ar gyfer 2022-2023

 

14.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 423 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfwarwyddwr GwE a nodwyd y prif faterion isod:

 

-      Nodwyd fod sawl risg wedi cael ei ddiwygio o fewn y ddogfen fyw yma..

-      Datganwyd mai un o’r risgiau mwyaf ar gyfer y blynyddoedd i ddod ydi’r gyllideb a chwyddiant, yn enwedig gan fod cyllideb GwE wedi lleihau 22% yn y  blynyddoedd diweddar.

-      Trafodwyd sawl risg arall yn y flwyddyn nesaf megis:

o   Effeithiau cyfnod clo a phwysau gwaith

o   Sgiliau unigolion

o   Parodrwydd i groesawu’r cwricilwm newydd

o   Ansicrwydd ar gyfer atebolrwydd / mesurau herio perfformiad a sut mae atebolrwydd cenedlaethol yn amharu ar ofynion lleol.

o   Toriadau i gyllidebau ysgolion..

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

 

15.

CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION: FFRAMWAITH AR GYFER GWERTHUSO, GWELLA AC ATEBOLRWYDD pdf eicon PDF 568 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Penderfyniad:

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a nodwyd y prif faterion isod:

 

-      Esboniwyd fod y canllawiau hyn wedi cael eu cyhoeddi yn dilyn diddymu’r system o gategoreiddio ysgolion. Mae’n system anstatudol ar hyn o bryd ond mae disgwyl iddo fod yn statudol erbyn Medi 2024. Serch hyn, mae disgwyliad ar ysgolion i geisio mabwysiadau’r canllawiau mor fuan â phosibl.

-      Nodwyd mai prif agweddau’r canllawiau ydi:

o   Rhaid i gyrff llywodraethu sicrhau bod copi cryno o'u cynllun datblygu ysgol ar gael trwy’r Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol. Er mwyn helpu i gynyddu hyder yn yr ysgol a’i chynllun datblygu a’r ymrwymiad iddynt, dylai’r ysgol gyhoeddi’r copi cryno ar ei gwefan. Dylid ysgrifennu’r crynodeb mewn iaith sy’n hawdd i rieni, gofalwyr a dysgwyr ei deall. .

o   Rhaid hefyd rhoi trosolwg tudalen o hyd ar gasgliadau/canfyddiadau hunanwerthuso’r ysgol, gan gyfleu prif gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu,. Mae disgwyliad iddo gynnwys blaenoriaethau gwella lefel uchel; camau gweithredu a gynlluniwyd er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau hynny; a cherrig milltir perthnasol.

o   Mae angen i’r corff llywodraethu ddangos holl gymorth allanol mae’r ysgol wedi ei dderbyn yn y flwyddyn ariannol honno (gan gynnwys cefnogaeth GwE).

o   Bydd y cyrff llywodraeth yn adrodd ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r flwyddyn flaenorol.

o   Rhaid i GwE a’r Awdurdod Lleol gynnal deialog proffesiynol gyda’r corff llywodraethu er mwyn trafod prosesau hunan werthuso, cryfderau’r ysgol ac unrhyw fater arall sydd angen i’r corff llywodraethol fod yn ymwybodol ohonno a’i fonitro.

o   Rhaid i’r corff llywodraethol dderbyn adroddiad ar sut bydd cefnogaeth yn cael ei gynnal.

 

Mewn ymateb i sylwadau, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:

-      Ei fod yn cydnabod fod y canllawiau hyn wedi cael eu cyflwyno ar amser heriol iawn gan fod ysgolion dal yn ymdopi gyda materion Covid-19 yn ogystal â phrysurdeb diwedd flwyddyn academaidd. Er bod ysgolion yn pryderu na fyddai’n bosibl cyflawni’r canllawiau hyn erbyn diwedd y flwyddyn academaidd, mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn ffyddiog byddai’r ysgolion yn gallu gweithredu ar y canllawiau yn fuan yn nhymor yr Hydref er mwyn sichrau erbyn diwedd y flwyddyn academaidd nesaf, bydd yr ysgolion wedi ymrwymo â’r canllawiau yn effeithlon ac yn llwyddiannus.

-      Byddai hyn yn rhoi amser i ysgolion ddod i arfer â’r canllawiau hyn cyn iddynt fod yn statudol ac hefyd yn rhoi amser i werthuso’r gwaith er mwyn gallu ceisio datrys y problemau sy’n codi o’r canllawiau cyn iddynt gael eu gwneud yn statudol ym mis Medi 2024.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

16.

SIARTER ARCHWILIO MEWNOL A CHYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2022-23 pdf eicon PDF 587 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo Siarter Aarchwilio Mewnol a Chynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-2023.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Archwilio Cyngor Gwynedd a nodwyd y prif faterion isod:

 

-      Eglurwyd fod cael archwiliad mewnol yn rhoi hyder i’r dinesydd ar faterion llywodraethu. Er mwyn iddo weithio yn effeithiol rhaid creu siarter archwilio mewnol. Bydd yr adroddiad archwilio mewnol yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ond os oes methiannau mawr yn codi cyn hynny bydd rheini yn cael ei amlygu gan yr archwiliwyr i’r Rheolwr Gyfarwyddwr cyn ddiwedd y flwyddyn ariannol.

-      Y prif meysydd bydd yn cael ei archwilio ydi:

o               Hyfforddiant

o               Trefniadau Recriwtio a Dargadw Staff - gyda cynllun olyniaeth gyda gweithiol aml-leoliad

o   Rheoli Absenoldebau - mae 26% o gyflogwyr yn cynnwys covid hir fel prif reswm am absenoldeb hir dymo

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo Siarter Archwilio Mewnol a Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2022-2023.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1:30yp a daeth i ben am 3.15yp.

 

 

_________________________________

CADEIRYDD