Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Ni dderbyniwyd sylwadau o ran y Cod Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf

·         Rhagwelir y bydd archwiliwr o adran polisi Asiantaeth Gwylwyr y Glannau yn ymweld â’r Cyngor yn ystod yr Hydref er archwilio’r Cod cyfredol ac i gynghori ar unrhyw welliannau.

·         Y gwaredwyd llongddrylliad a oedd yn achosi perygl a chymerwyd camau i waredu cwch wedi ei leoli ar Gei Balast gan roi rhybudd terfynol i’r perchennog.

·         Bod y cwch ar y llithrfa lle'r oedd unigolyn yn trigo arni wedi ei symud mewn ymateb i bryderon.

·         Bod 6 rhybudd i forwyr mewn grym gan fod rhai o’r cymhorthion mordwyo oddi ar eu safle ac nad oedd wedi bod yn bosib i’w gosod yn ôl ar eu lleoliad cywir hyd yn hyn oherwydd y tywydd anffafriol. Gobeithir cwblhau’r gwaith o’u lleoli yn y bythefnos nesaf.  

·         Bod Cwch y Dwyfor yn cael ei chynnal a chadw gan gwmni Partington Marine ym Mhwllheli ar hyn o bryd gyda gwaith anorfod yn mynd rhagddo.

·         Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 24 Chwefror 2016. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg y gwasanaeth i gydymffurfio â gofynionPanar’ ac yn tynnu sylw fod angen caniatâd Tŷ’r Drindod cyn newid lleoliad cymhorthyddion mordwyo. Nodwyd nad oedd yn ymarferol bosib bob tro i dderbyn caniatâd ymlaen llaw.

·         Bod gwaith cynnal a chadw angorfeydd wedi ei gwblhau heddiw a byddai’r buddsoddiad o fudd mawr i’r Harbwr.

·         Y derbyniwyd 97 o geisiadau am angorfeydd blynyddol gyda 92 gan unigolion a oedd yn dychwelyd.

·         Y buddsoddwyd mewn system Teledu Cylch Cyfyng (TCC) newydd o safon a fyddai’n arf o ran trosedd ac anrhefn.

·         Y sefyllfa gyllidebol hyd at ddiwedd Chwefror 2016, gan nodi bod yr incwm a dderbynnir o ran ffioedd maes parcio’r Harbwr yn gymorth mawr i sicrhau cyllideb a oedd yn gyffredinol gytbwys ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

·         Bod ffioedd blwyddyn ariannol 2016-17 wedi cynyddu 1% ac fe unionwyd taliad cofrestru badau dŵr o ran ceisiadau trwy’r post a cheisiadau a wnaed yn Swyddfa’r Harbwr.

·         Bod cyfnod secondiad yr Harbwr Feistr wedi ei ymestyn tan ddiwedd Medi 2016 gyda chynllun datblygu mewn lle o ran cyrraedd gofynion y swydd.

·         Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Arfaethedig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Arfaethedig, nodwyd y dylai’r mudiadau,pe dymunent, gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad yn uniongyrchol.

 

Gwnaed cais am farn yr aelodau o ran ail-leoli’r Fairway buoy, nodwyd bod Tŷ’r Drindod yn gefnogol i’r egwyddor. Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden y gellir symud y bwi ychydig ond bod angen ystyried bod ceg yr harbwr yn symud. Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod y sefydliad wedi trafod y mater ac yn cynghori na ddylid ail-leoli’r bwi. Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol bod y bwi yn y lleoliad anghywir ac nad oedd morwyr o gyfeiriad Pwllheli yn ei weld.

 

Adroddwyd y derbyniwyd cais gan unigolyn i werthu lluniaeth ysgafn ar dir yr Harbwr, nodwyd bod 1 goddefiad presennol ar gyfer gwerthu hufen . Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn agored i’r opsiwn. Nodwyd pe rhoddir goddefiad y cynhwysir cymal eithrio rhag gweithredu pan gynhelir digwyddiadau. Nododd aelodau y dylid siarad efo cwmnïau ar y cei cyn parhau ac ystyried cynnal proses tendro ar gyfer y goddefiad er sicrhau tryloywder a rhoi cyfle i bawb. Dylid yn ogystal ystyried effaith lleoli’r fan ar naws yr ardal ac ansawdd gweledol y fan gwerthu lluniaeth ysgafn. 

 

Manylodd yr Harbwr Feistr ar y rhaglen waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau hysbysu’r gwasanaeth o unrhyw waith arall sydd angen ei wneud. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod, nodwyd y symudir y cynhwysydd ger Swyddfa’r Harbwr.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd yr Harbwr Feistr ar ymestyniad ei secondiad i’r swydd.

 

Yn ystod y cyfarfod ymatebwyd i sylwadau gan yr aelodau gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig fel a ganlyn:

·         Y llunnir amodau defnydd ar gyfer unigolion oedd yn byw ar eu cychod i’w gyplysu efo Rheoliadau'r Harbwr ac fe’u rhoddir gerbron y Pwyllgor Ymgynghorol i dderbyn cymeradwyaeth.

·         Yr ail edrychir ar y sefyllfa o ran parcio a chadw cychod ar y gwair ym Morth-y-gest.

·         Y cydnabyddir y pryder o ran bwiau ddim ar eu safle ac fe gynghorir bob defnyddiwr i gysylltu efo Swyddfa’r Harbwr cyn dod i mewn i’r Harbwr er osgoi iddynt fynd i drafferthion.

·         Yng nghyswllt Gorchymyn Parcio’r Cyngor, byddai incwm maes parcio’r Harbwr yn parhau i ddod i’r Harbwr yn unol â’r cytundeb presennol.

 

Dogfennau ategol: