Agenda item

Codi estyniad deulawr i'r swyddfa presennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd a codi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio presennol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gareth W Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Codi estyniad deulawr i'r swyddfa bresennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd â chodi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio presennol.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017. Cyfeiriodd at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd mewn ymateb i bryderon y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys:

·         Bod y cyfleusterau presennol (cawodydd, toiledau, swyddfa) mewn lleoliad gwael yn rhy bell i fwrdd o brif hwb y gweithgareddau wrth giatiau’r loc ac yn rhy bell o’r basn Menai allanol. Byddai’r bwriad yn gwella gwasanaeth y busnes yn sylweddol.

·         Ar hyn o bryd roedd y cychod yn cael eu codi o’r dŵr gyda chraen ar rent ac yn cael eu storio ar y maes parcio dros y gaeaf. Roedd y cwmni yn teimlo nad oedd hyn yn sefyllfa ddelfrydol ac yn tynnu oddi wrth fwynderau gweledol yr ardal ac yn lleihau parcio i gwsmeriaid. Byddai’r datblygiad yn sicrhau maes parcio gwell a byddai’r cychod ond yn cael eu storio a chodi o’r dŵr yn y rhan weithredol o’r doc wrth weithdy presennol yr iard gychod.

·         Prif fwriad y datblygiad oedd gwella cyfleusterau’r marina a hefyd gwella a lleihau effaith unrhyw weithgareddau’r marina ar fwynderau preswyl yr ardal.

 

          Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran egwyddor a bod edrychiad y datblygiad yn dderbyniol yn ei gyfanrwydd fel un datblygiad. Ystyriwyd bod yr effeithiau a oedd yn gysylltiedig â’r bwriad yn dderbyniol yn agos i dai preswyl, yn enwedig wrth ystyried defnydd presennol y tir.

 

          Nodwyd nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw wrthwynebiad i osod amod yn atal y maes parcio rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer storio cychod. Ystyriwyd y gall gosod amod o’r fath gynnig gwelliant i’r ardal gan nad oedd rheolaeth o’r maes parcio yn bresennol a dylai’r amod leihau'r angen i berchnogion cychod barcio ar ochr y lôn trwy gadw’r maes parcio ar gyfer ceir yn unig.

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Effaith ar barcio a thrafnidiaeth, problemau yn yr ardal yma eisoes a byddai craen yn cael hi’n anodd mynd a dod;

·         Bod angen cysidro’r 87 tŷ a effeithir gan y datblygiad;

·         Bod adnoddau cysylltiol ar y safle eisoes ond bod y cyn-berchennog wedi eu llesu. Derbyn y byddai’r adnoddau cysylltiol newydd yn hwylusach ond y byddai’n ychwanegu at y problemau parcio a thrafnidiaeth;

·         Bod y cais yn or-ddatblygiad o’r safle.

(c)     Cynigiwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Nododd aelod y roedd yn pryderu o ran yr effaith ar y tai cyfagos ond yn dilyn ymweld â’r safle o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol.

 

         Nododd aelod y byddai’r bwriad yn agor y safle i fyny a byddai gosod amod i atal cychod rhag cael eu storio ar y maes parcio yn gwella’r sefyllfa bresennol.

 

Penderfynwyd:            Caniatáu yn unol â’r amodau canlynol:

 

1.      Amser

2.      Yn unol â’r cynlluniau.

3.      Amodau Manwerthu.

4.      Amodau CNC.

5.      Oriau agor y siop a chyfyngu oriau danfoniadau.

6.      Manylion ystorfa biniau. 

7.      Dim storio cychod ar y maes parcio a chadw’r maes parcio ar gyfer defnyddwyr y marina a’r unedau manwerthu newydd.

8.      Deunyddiau a gorffeniadau.

9.      Llechi.

10.    Tirweddu.

11.    Codi’r unedau manwerthu'r un adeg neu ar ôl codi’r estyniad i’r swyddfa bresennol.

 

Dogfennau ategol: