Cais i godi tŷ deulawr marchnad agored.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Aled Lloyd Evans
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod
y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr.
Cais i godi tŷ deulawr farchnad agored.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi nad oedd yn bosib trafod y cais yma yng
nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Tachwedd 2017 oherwydd nad oedd cworwm. Atgoffwyd y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017 er
mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle ar 27
Tachwedd 2017.
Nodwyd bod y bwriad yn golygu codi tŷ newydd ar dir tu
mewn i’r ffin datblygu ag o fewn ardal breswyl ym mhentref Chwilog. Ystyriwyd
bod y bwriad yn cydymffurfio mewn egwyddor gyda gofynion polisïau a ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed i fwynderau’r gymdogaeth leol.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr
aelod lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei fod wedi holi CCG ychydig o
flynyddoedd yn ôl o ran darparu llefydd parcio ar gyfer preswylwyr Bro Sion Wyn
ond mai na oedd yr ateb. Problemau parcio yn bodoli yn y stad a ni fyddai’r
datblygiad yn helpu’r sefyllfa;
·
Bod yr adroddiad yn nodi bod y
bwriad yn bodloni gofynion Polisi TRA2 a TRA4 o’r CDLl
a oedd yn ymwneud a pharcio a thrafnidiaeth. Tynnu sylw mai at safle’r cais yn
unig y cyfeirir ac nid at y trafferthion parcio yn yr ardal gyfagos;
·
Byddai’r tŷ yn fwgwd ac
yn effeithio ar fwynderau trigolion cyfagos. Dim ond 17 medr i ffwrdd o’r tai
gyferbyn y byddai’r tŷ;
·
Cyfeirio at bolisi ISA4 o’r CDLl gan nodi y byddai’n bechod cael gwared â’r llecyn
agored;
·
Bod paragraff 5.10 o’r
adroddiad yn diystyru gwrthwynebiadau o ran mwynderau ond ei fod yn gofyn i’r
Pwyllgor roi ystyriaeth iddynt a gwrthod y cais.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Nododd y cynigydd y dylid gwrthod y cais oherwydd byddai’r
bwriad yn golygu colli llecyn
gwyrdd/rhandiroedd, gor-edrych, dim angen am dŷ arall gan
fod cynifer yn yr arfaeth
yn Chwilog ac y byddai’n or-ddatblygiad o’r safle.
Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:
·
Y byddai’n anodd
iawn amddiffyn gwrthodiad mewn apêl ar sail nad oedd angen am dai yn yr ardal;
·
Bod pryder o ran
effaith ar fwynderau preswyl yn rheswm y gellir ei ddefnyddio i wrthod y cais
ond roedd yr argymhelliad gerbron yn gadarn;
·
Nid oedd y llecyn
gwyrdd wedi ei warchod mewn unrhyw ffordd nac ar gyfer defnydd fel rhandiroedd;
·
O ran gor-edrych, mai’r canllaw pellter rhwng ffenest i ffenest
yw oddeutu 22 medr, roedd oddeutu 17 medr rhwng y tŷ a’r tai gyferbyn ond
nid oes ffenestr ar yr edrychiad perthnasol o’r tŷ arfaethedig;
·
Bod yr adroddiad
yn ymateb i bryderon o ran gor-ddatblygiad,
pwysleisiwyd mai dim ond un tŷ oedd dan sylw.
Nododd aelod ei bod yn methu deall pan fo CCG yn gwneud
cais am dŷ marchnad agored yn hytrach na chais am dŷ fforddiadwy.
Ychwanegodd y byddai 2 dŷ deulawr neu unllawr
llai yn well defnydd o’r safle gan y byddai’r tŷ bwriedig
yn edrych allan o le o ystyried y tai yn y cyffiniau.
Mewn ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn deall y
pryder ond nid oedd yn berthnasol i’r cais gerbron. Eglurodd na fyddai gofyn ar
unrhyw ymgeisydd i ddarparu tŷ fforddiadwy, cais ydoedd am un tŷ o
fewn y ffin datblygu. Pwysleisiodd y dylai materion yng nghyswllt CCG gael eu
trafod mewn fforwm arall.
Nododd y Rheolwr Cynllunio bod safle’r cais yn blot eithaf
mawr a bod angen cymryd hyn i
ystyriaeth wrth ystyried os oedd
y bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle. Tynnodd sylw bod y dyluniad yn ategu tai ar
y lôn tuag at Garej Pandy a byddai’r
tŷ bwriedig yn gweddu i’w
leoliad a’i fod o ansawdd dylunio
da.
Penderfynwyd: gwrthod y cais:
Rheswm:
Gor-ddatblygiad o’r safle gan
gael effaith ar fwynderau trigolion cyfagos
Dogfennau ategol: