Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar
gyfer cymerdawyo amodau er mwyn ail-agor safle tywod a graean segur dan
ganiatad cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd,
Penygroes.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar gyfer cymeradwyo amodau er mwyn
ail-agor safle tywod a graean segur dan ganiatâd cynllunio 2250 dyddiedig 10
Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes.
(a)
Atgoffodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a
Gwastraff bod y cais hwn wedi ei ohirio yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27
Tachwedd 2017 er mwyn cynnal trafodaeth yn lleol a derbyn gwybodaeth ychwanegol
gan yr ymgeisydd.
Nodwyd y cynhaliwyd
cyfarfod cyhoeddus lle'r oedd yr aelod lleol yn bresennol ond nid oedd unrhyw
un o’r gymuned leol yn bresennol. Eglurodd yr esboniwyd yn y cyfarfod sut oedd
y swyddogion wedi llunio’r amodau a argymhellir, gan bwysleisio bod yr amodau
yma yn fwy disgrifiadol a fwy caeth na’r rhai a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd.
Adroddwyd bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno mwy o wybodaeth ac roedd crynodeb wedi ei gynnwys ar y
ffurflen sylwadau ychwanegol. Tynnodd sylw bod yr ymgeisydd yn datgan bod cwmni
Vibrock yn brofiadol ac yn darparu cyngor arbenigol o ran sŵn ac ansawdd
aer ym Mhrydain a thramor. Roedd y wybodaeth a dderbyniwyd yn cyfeirio at waith
glo brig ac astudiaeth ‘Newcastle’. Nododd bod Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer yn
cydnabod bod y rhan fwyaf o ddatblygiadau mwynau yn golygu llai o weithgareddau
cynhyrchu llwch na phwll glo brig.
Pwysleisiwyd nad oedd modd i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y
cais ac mai cytuno ar amodau newydd oedd gerbron yn unol â Deddf yr Amgylchedd 1995 gan fod y caniatâd cynllunio yn ddilys dan 2042.
Nododd bod y cynllun gwaith a gyflwynwyd yn un ai gwneud cais am gyfnod 4
mlynedd wrth ddefnyddio mynedfa newydd neu 8 mlynedd pe defnyddir y fynedfa
bresennol. Eglurodd mai’r cynllun a ffafrir gan y Cyngor oedd efo’r fynedfa
newydd a hefyd darparu bwnd acwstig di-dor ar ochr dwyreiniol a deheuol y
safle. Ymhelaethodd ar amodau’r Cyngor a oedd yn cynnwys cyfyngu ar lefel
cloddio, monitro sŵn, ansawdd aer a llwch a chyfyngu oriau gweithredu
ynghyd â materion technegol eraill.
Eglurwyd bod yr amodau a gynigir gan y Cyngor wedi eu
cytuno rhwng yr Awdurdod Cynllunio ac Uned Gwarchod y Cyhoedd. Ychwanegodd pe
gwrthodir y cais byddai amodau’r ymgeisydd yn dod yn weithredol.
(b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod gwrthwynebiad chwyrn o’r
bwriad i ail-agor y safle;
·
Byddai’r chwarel yn frawychus
o agos i gartrefi preswyl, tai cyfagos o fewn 30 medr i’r chwarel. Yn unol â gofynion presennol ni fyddai chwarel yn cael ei ganiatáu heb ei
fod 100 medr i ffwrdd o dai;
·
Gallai’r ymgeisydd wneud cais
pellach i ymestyn y cyfnod;
·
Bod safonau iechyd cyhoeddus gwahanol i’r rhai oedd
yn bodoli yn 1951;
·
Nad oedd yr amodau a gynigir
yn lliniaru’r effaith yn ddigonol;
·
Bod yr asesiadau yn rhai hanesyddol a chyffredinol;
yn anghyson a chamarweiniol;
·
Yng nghyd-destun llwch, yn ôl y World Health
Organisation nid oedd lefel saff o ran gronynnau a oedd yn mynd i’r system
resbiradu gan achosi afiechydon yr ysgyfaint a’r galon;
·
Penderfynwyd yn y cyfarfod
blaenorol i ohirio’r cais er mwyn derbyn adroddiadau pellach ar faterion llwch
ond ni dderbyniwyd ac fe fyddent yn cymryd amser i’w cynhyrchu;
·
Bod rhaid gweithredu yn unol
â’r 5 dull a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
·
Gofyn i’r Pwyllgor wrthod yr
amodau, y dylid gosod Gorchymyn Gwahardd a gofyn i Lywodraeth Cymru i edrych ar
y cais.
(c) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd
y swyddogion:
·
Cydnabod bod teimladau cryf yn lleol. Lled gytunir
o ran ansawdd y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gyda swyddogion wedi
herio’r cynnwys 3 gwaith. Erbyn hyn ystyriwyd bod yr effaith yn dderbyniol;
·
Bod
y ddeddfwriaeth yn cyfyngu’n sylweddol be all y Pwyllgor benderfynu oherwydd
bod caniatâd cynllunio yn bodoli eisoes ac mai penderfynu ar yr amodau y
caniateir. Roedd 2 opsiwn posib:
Ø
Derbyn
yr amodau a oedd wedi bod yn destun trafodaeth efo CNC ac
Uned Gwarchod y Cyhoedd a oedd yn 42 mewn nifer – Roedd yr amodau yn cyfyngu yn
eithriadol ond yn rhesymol yr hyn ellir gwneud yn y chwarel. Gan gynnwys na
ellir prosesu ar y safle dim ond llwytho, dim gweithredu ar y penwythnos ynghyd
â monitro sŵn a llwch.
Ø
Gwrthod neu ohirio’r cais -
byddai amodau'r ymgeisydd yn dod yn weithredol o 5 Ionawr 2018.
·
Bod y cynllun gwaith 4 blynedd
ac 8 mlynedd yn dderbyniol ond awgrymir ei gyfyngu i 4 mlynedd gan fyddai’r
gwaith yn dod i ben yn gynharach;
·
Bod Atodlen 2 yn cynnwys amod
y gellir ond defnyddio’r fynedfa newydd gan wahardd defnydd o’r fynedfa
bresennol yn ddarostyngedig i’r cais dilynol ar y rhaglen gael ei ganiatáu;
·
O ran Gorchymyn Gwahardd
ail-ddechrau cloddio mwynau, fe roddwyd Gorchymyn Gwahardd ar 5 safle craig
galed ar arfordir Pen Llŷn yn 2005 oherwydd bod y gronfa wrth gefn o graig
galed yn ormodol. Ers eu rhoi mewn lle'r oedd maint y banc tir i lawr o dros
fileniwm i ddarpariaeth am 30 mlynedd. Roedd cydweithio yn y maes ar draws Gogledd
Cymru a pharheir i fonitro’r sefyllfa o ran caniatadau. Yn achos y safle yma
roedd perchennog y safle wedi datgan diddordeb i weithio’r safle sawl tro felly
nid oedd y safle hwn yn deilwng o’r gorchymyn;
·
Bod
prawf cyfreithiol roedd rhaid ei fodloni o ran gosod Gorchymyn Gwahardd, gan
fod bwriad i weithio’r safle nid oedd hyn yn opsiwn.
(ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd i dderbyn yr amodau yn Atodlen 2 o’r adroddiad.
Nododd aelod ei fod yn anghyfforddus o fod yn rhan o benderfyniad a
fyddai’n caniatáu chwarel mor agos i aneddleoedd. Roedd ganddo bryder o ran yr
effaith ar fusnesau twristiaeth yn yr ardal, yr effaith amgylcheddol a’r
effaith ar les trigolion. Nododd bod dyletswydd i ofalu am bobl. Holodd os oedd
trydydd opsiwn ar gael i’r Pwyllgor, sef gohirio i edrych yn fwy manwl ar
dystiolaeth y cwmni a sut y gellir lliniaru effaith o ran iechyd.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod amodau yn cael eu cynnig gan y Cyngor a
fyddai’n cael ei fonitro gan Uned Gwarchod y Cyhoedd a bod unrhyw faterion
eraill yn gallu cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth niwsans statudol.
Nododd y Swyddog Iechyd Amgylchedd:
·
Bod swyddogion wedi herio’r wybodaeth yn y cais
sawl gwaith;
·
Bod amodau caeth wedi eu hargymell a byddai
materion ychwanegol o ran llwch a sŵn, os byddent yn codi, yn cael eu
hymchwilio i mewn iddynt o dan ddeddfwriaeth niwsans statudol;
·
Bod yr Uned Gwarchod y Cyhoedd yn gweithredu yn
unol â chanllawiau mwyaf cyfredol Sefydliad Rheoli Ansawdd Aer.
Nododd yr Uwch
Gyfreithiwr pe gohirir y cais i edrych yn fwy manwl ar dystiolaeth y cwmni a
sut y gellir lliniaru effaith o ran iechyd byddai amodau’r ymgeisydd yn dod yn
weithredol o 5 Ionawr 2018 ymlaen.
(d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod angen am y deunydd tywod a gro ond ar y llaw
arall roedd ochr negyddol. Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gefnogol iawn i’r
cais ac roedd Allt Goch yn lôn beryg;
·
Pryder bod y datblygiad o fewn 30 medr i dŷ;
·
Bod amodau’r Cyngor yn fwy caeth na rhai’r
ymgeisydd felly byddai’r sefyllfa yn well pe derbynnir amodau’r Cyngor neu fel
arall byddai amodau’r ymgeisydd yn dod yn weithredol;
·
A fyddai modd i wrthwynebwyr herio’r math yma o
benderfyniad drwy drefn megis Adolygiad Barnwrol?
·
Bod angen monitro’r safle gyda dyletswydd i warchod
y cyhoedd;
·
Nid oedd gan y Pwyllgor dim dewis ond derbyn
amodau’r Cyngor gan ei fod yr opsiwn gorau i bobl yr ardal;
·
Bod angen sicrhau y byddai’r lorïau a fyddai’n
cludo o’r safle efo gorchudd arnynt;
·
Bod amodau’r Cyngor yn rhai tynn felly roeddent am
weithio o blaid y trigolion os oeddent yn cael eu monitro yn gywir. Dylid
monitro ansawdd aer yn rheolaidd yn hytrach na 6 mis fel y nodir yn yr amodau;
·
Bod angen cydweithio a’i fod yn bwysig sefydlu
Grŵp Cyswllt;
·
Bod angen tystiolaeth o’r gwaith monitro gan bobl
annibynnol a hawl i ddod a’r cais yn ôl. A ellir atal gweithgareddau mewn
chwareli oherwydd gweithrediad yn groes i amodau?
·
Bod angen gwaelodlin rŵan cyn cychwyn y gwaith
er mwyn cymharu lefel sŵn a lefel gronynnau;
·
Gofyn i aelodau’r Pwyllgor dderbyn adroddiad ar y
trefniadau monitro.
(dd) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:
·
Bod sylwadau’r
Uned Drafnidiaeth yn ymateb i’r cynigion gwreiddiol. Roedd y cais dilynol ar y
rhaglen yn ymwneud â darparu mynedfa newydd i’r datblygiad. Tynnwyd sylw bod yr
Uned Drafnidiaeth yn gefnogol i’r fynedfa newydd ac i ddefnyddio Allt Goch;
·
Mater i unrhyw un
efo diddordeb byddai herio’r math yma o benderfyniad os ydynt o’r farn bod sail
i wneud hynny;
·
Ei fod yn opsiwn i
sefydlu Grŵp Cyswllt a fyddai’n fforwm ffurfiol i fonitro’r safle gyda’r
gweithredwr, yr aelod lleol, swyddogion a chynrychiolydd o’r gymuned yn
aelodau. Roedd yr ymgeisydd yn fodlon trafod trefniant o’r fath. Byddai sefydlu
Grŵp Cyswllt yn wirfoddol a ni ellir ei amodi, gellir rhoi cyngor i’r
ymgeisydd sefydlu Grŵp Cyswllt a fyddai’n cael ei weinyddu gan y Cyngor;
·
Argymhellir amod
bod yr ymgeisydd yn llunio cynllun i ymateb i unrhyw gŵyn a dderbynnir o
fewn 6 mis;
·
Nid oedd hawl atal
gweithgareddau mewn chwareli. Byddai’r safle’n cael ei fonitro’n rheolaidd.
Roedd gweithredwyr yn ymateb yn fuan i faterion y tynnir eu sylw atynt. Os
byddai gweithredwyr ddim yn ymateb pan dynnir sylw at weithrediad yn groes i
amod gellir cymryd camau gorfodaeth;
·
Bod gofyn ar
weithredwyr i gydymffurfio ag amodau, os nad ydynt byddent yn cael eu herlyn;
·
Y derbyniwyd lefel gan yr
ymgeisydd a gellir monitro lefel sŵn cefndirol. Gellir yn ogystal gosod
offer Uned Gwarchod y Cyhoedd mewn eiddo i gael mesuriadau megis yng nghyswllt
ansawdd aer a niwsans.
Penderfynwyd:
(i) Bod yr awdurdod cynllunio o'r farn fod y ddau senario sy'n cynnwys cynllun gwaith
4 blynedd ac 8 mlynedd yn dderbyniol, yn ddarostyngedig i’r rheolaethau priodol
a osodwyd o dan yr atodlen ddiwygiedig o amodau cynllunio. Y cynllun 4 blynedd
o weithio ynghyd â chyfyngiad allbwn o 100,000 tunnell y flwyddyn yw'r opsiwn
gorau, yn amodol ar ganlyniad ffafriol cais am fynediad newydd dan gyfeirnod
cynllunio C17/0455/22/LL. O gofio y byddai mynediad newydd a phwrpasol yn
cyfeirio traffig trwm i ffwrdd o Ffordd Clynnog a sicrhau gweithredu’r
‘Alternative Scheme' fel y'i nodir ar gynlluniau'r cais, mae'n bosibl fydd
cynllun lliniaru mwy effeithiol yn cael ei weithredu.
(ii) I awdurdodi Uwch Reolwr
Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a’r Amgylchedd i benderfynu ar yr
amodau yn Atodlen 2 o’r adroddiad dan y cynllun dirprwyo.
· Gweithrediadau a
Ganiateir a Chydymffurfio â'r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd
· Hyd y Gweithio (4 blynedd,
100,000tpa),
· Cyfyngu ar Hawliau
Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a
ffensys,
· Lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol, Moch Daear, adar sy'n bridio ac
ymlusgiaid,
· Oriau Gwaith,
· Dim gwaith ar ddydd
Sadwrn, dydd Sul neu Wyliau’r Banc a Chyhoeddus,
· Trin pridd a hwsmonaeth
· Draenio, mesurau i atal
llygru cyrsiau dŵr lleol,
· Adfer i ddefnydd cadwraeth natur amaethyddol gymysg,
· Adfer terfynau caeau,
· Lliniaru a chofnodi
archeolegol,
·
Mesurau ôl-ofal ar gyfer defnydd amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth,
· Rheolaethau llwch a
chyfyngiadau ar sŵn, peiriannau ar y ffas waith i gael eu ffitio â larymau
sŵn gwyn.
(iii) Gofyn i’r ymgeisydd sefydlu
Grŵp Cyswllt cyn gynted a bo modd.
(iv) Bod aelodau’r Pwyllgor yn derbyn
adroddiad ar y trefniadau monitro.
Dogfennau ategol: