Agenda item

Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol.

           

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi bod y fynedfa bresennol ar y safle yn agor allan i ffordd ddi-ddosbarth Ffordd Clynnog. Eglurodd nad oedd yr Uned Drafnidiaeth yn cefnogi defnyddio'r fynedfa yma.

 

Eglurwyd bod y cais hwn yn cynnig mynedfa gerbydol newydd a fyddai’n arwain yn uniongyrchol i’r chwarel. Byddai’r gwaith ar y chwarel am gyfnod o 4 mlynedd a 100,000 tunnell y flwyddyn gyda chynlluniau i adfer y fynedfa yn ôl fel tir amaethyddol pan ddaw’r gwaith i ben.

 

Cadarnhawyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn gefnogol i’r bwriad a’i fod yn debygol y byddai rhaid diwygio gorchymyn ar y lôn drwy Ddeddf Priffyrdd. Roedd hyn i’w drafod a chytuno rhwng yr ymgeisydd a’r Uned Drafnidiaeth.

 

Nodwyd byddai’r fynedfa newydd yn bellach i ffwrdd o drigolion Ffordd Clynnog ac yn sicrhau mynedfa na fyddai’n dod allan i lôn gul annerbyniol.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         NA i’r Fynedfa Newydd;

·         Bod y fynedfa bwriedig ar droad peryg ac fe ddylid cynnal ymweliad safle;

·         Bod gan y Pwyllgor yr hawl i wrthod y cais a byddai ffordd o fyw'r trigolion yn saff pe gwrthodir y cais.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Y gellir parhau i ddefnyddio’r fynedfa bresennol ond bod yr ymgeisydd wedi cymryd i ystyriaeth pryderon lleol ac wedi cyflwyno’r cais yma am fynedfa newydd;

·         Bod yr ymgeisydd yn gwneud eu gorau i ail-agor y chwarel o dan yr amodau gorau posib.

 

(ch)   Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-

·         Byddai hyd at 20 symudiad lori'r dydd o’r fynedfa gan wasgaru llwch;

·         Bod y bwriad ar y safle yn ymwthiol ac yn tanseilio mwynderau lleol;

·         Bod trigolion lleol yn gweithio i harddu’r ardal i hybu balchder pobl yn eu cymuned a bod datblygiad o’r fath yn tanseilio’r gwaith ac yn hagru’r ardal;

·         Yr angen i roi ystyriaeth i’r pennawd ‘Rheoli Twf a Datblygiad’ yn y CDLl;

·         Yr angen i weithredu yn unol â Ffordd Gwynedd;

·         Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae gan bobl hawl i gartref heddychlon heb ymyrraeth ac efallai y bydd gofyn ar awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau i leihau sŵn a llygredd;

·         Byddai’r traffig trwm yn berygl ac yn ffynhonnell llygredd sylweddol ac achosi niwsans;

·         Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y cais er mwyn rhoi amser i’r trigolion dderbyn cyngor cyfreithiol.

 

(d)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod mynediad eisoes yn bodoli o dan y caniatâd gwreiddiol gyda’r tebygolrwydd y byddai’r ymgeisydd yn ei ddefnyddio pe gwrthodir y cais. ‘Roedd mwy o effaith yn deillio o’r fynedfa bresennol na’r fynedfa newydd.

 

(dd)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y fynedfa bresennol yn gul, a fyddai modd ei lledu?

·         Fyddai’n bosib diwygio’r amod a oedd yn cyfyngu defnydd o’r fynedfa gan dynnu’r hawl i’w ddefnyddio rhwng 08:00 a 12:00 ar Ddydd Sadwrn er tegwch i’r trigolion?

·         Am bleidleisio yn erbyn yr argymhelliad oherwydd yr effaith ar fwynderau trigolion a phryderon diogelwch ffyrdd;

·         Byddai’r fynedfa newydd yn bellach o’r tŷ agosaf, felly roedd yn welliant.

(e)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod y fynedfa yn dod allan i ffordd ddi-ddosbarth felly roedd hawl datblygu yn bodoli. Roedd yr adwy bresennol yn dderbyniol ar gyfer cerbydau;

·         Gellir diwygio’r amod a oedd yn cyfyngu defnydd o’r fynedfa. Eglurwyd na fyddai symudiad cludo ar fore Sadwrn dim ond symudiadau i fynd i’r safle i gynnal a chadw peiriannau;

·         Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad o safbwynt diogelwch ffyrdd.

 

Penderfynwyd:       Awdurdodi Uwch Reolwr y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i gymeradwyo'r cais yn ddarostyngedig i'r ystod o amodau a ganlyn a, ble noder, cyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad:

 

·           Cychwyn ymhen pum blynedd

·           Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;

·           Hyd y cyfnod gweithio,

·           Mesurau lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol, Moch Daear,

·           Datblygiad yn ategol i'r defnydd a wneir o'r tir fel mwynglawdd,

·           Ymdrin â phridd a hwsmonaeth,

·           Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau dŵr lleol,

·           Cynllun adfer ac ôl-ofal i'w gyflwyno cyn cychwyn defnyddio'r safle ar gyfer defnydd amaethyddol ac ail-adfer ffiniau'r caeau (gwrychoedd a chloddiau),

·           Lliniaru a chofnodi archeolegol,

·           Defnydd o'r fynedfa wedi'i gyfyngu i 08:00awr hyd 18:00awr Ddydd Llun i Ddydd Gwener a ddim o gwbl ar Ddydd Sadwrn, Sul na Gwyliau'r Banc,

·           Manylion y cyfleusterau golchi olwynion i'w cymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio mwynau gan nodi lleoliad, dyluniad, manyleb a rheolaethau i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gywir,

·           Nodyn i'r ymgeisydd ar ofynion priffyrdd, Deddf Moch Daear 1992 a chyngor statudol CNC i atal yr amgylchedd dŵr lleol rhag cael ei lygru.

 

Dogfennau ategol: