Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol.
AELODAU LLEOL: Cynghorydd
Anne Lloyd Jones
Cynghorydd Mike Stevens
Cofnod:
Bu
i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant
personol ac wedi gadael y Siambr.
Cais llawn ar
gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o
efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi y byddai’r tai wedi eu gosod allan mewn un bloc o 8 o fflatiau ar
ffurf adeilad tri llawr / deulawr, a 4 o dai pâr deulawr.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu fewn i ffin datblygu tref Tywyn a
thynnwyd sylw bod gweddill manylion y cais i’w gweld yn yr adroddiad gerbron
a’r ffurflen sylwadau ychwanegol. Yn
ogystal, tynnwyd sylw at ymatebion yr ymgynghoriadau cyhoeddus a’r ddeiseb a
gyflwynwyd yn gwrthwynebu’r bwriad a oedd wedi derbyn sylw fel rhan o’r
asesiad.
Nodwyd
bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn cwrdd â gofynion y polisi perthnasol a’r
12 annedd yn cyfrannu’n bositif at ddarpariaeth tai hap yn Nhywyn a hefyd yn gwneud defnydd da o dir a
ddatblygwyd o’r blaen. Nodwyd y byddai’r
unedau yn rhai fforddiadwy ar gyfer eu rhentu yn gymdeithasol.
Er
bod pryderon wedi eu codi gan y cyhoedd
y bydd y safle yn arwain at or-ddatblygiad ystyrir y byddai’r datblygiad yn
gydnaws â chymeriad yr ardal bresennol ac ni fyddai yn achosi niwed gormodol i
rinweddau gweledol yr ardal na’r drefwedd ehangach.
Nodwyd
bod y datblygiad wedi’i gynllunio’n i sicrhau pellter preifatrwydd da rhwng yr
anheddau bwriedig ac adeiladau presennol, yn ogystal mae pellter yr adeiladau
oddi wrth dai presennol ger y safle yn sicrhau na fydd yn effeithio ar lif
golau naturiol i’r anheddau hynny. O safbwynt pryderon ynglŷn â gor-edrych i
gerddi cyfagos, nodwyd bod gor-edrych i erddi mewn sefyllfa drefol yn
anorfod. Ni ystyrir bod gwrthwynebiad
ynglŷn ag amhariaeth a tharfu ar fwynderau trigolion cyfagos gan deuluoedd
a phlant a allai breswylio yn y datblygiad
yn rhesymol a chredir y byddai’r datblygiad yn cyfrannu at gymuned
amrywiol ei natur.
Yng nghyd-destun
trafnidiaeth a mynediad, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol o ran diogelwch
ffyrdd ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau perthnasol.
Mewn ymateb i ymgynghoriad
gyda Dŵr Cymru, derbyniwyd sylwadau yn nodi na ddylai dŵr wyneb oddi
ar y datblygiad gael ei gysylltu i’r garthffos gyhoeddus ac i’r perwyl hwn
cynigir amod i’w gynnwys ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn nodi y dylid cytuno ar
y modd o waredu dŵr wyneb ac aflan cyn y cychwynnir unrhyw ddatblygiad.
Yn dilyn ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol, yr holl sylwadau a dderbyniwyd a’r ymatebion i’r
ymgynghoriadau cyhoeddus, ystyrir bod y bwriad arfaethedig yn gwneud defnydd da
o safle tir llwyd ac argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd i’w ganiatáu yn
unol ag amodau perthnasol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd ar ran yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod Cartrefi Cymunedol
Gwynedd (CCG) yn ymwybodol bod deiseb wedi ei gyflwyno ond er gwybodaeth bu
iddynt gynnal ymgynghoriad gyda thrigolion Tywyn ac roedd yr adborth yn bositif
yn gyffredinol, gyda dros 80% yn cwblhau holiadur barn ac yn cefnogi neu yn
cefnogi’n gryf y datblygiad arfaethedig
·
Cynhaliwyd trafodaethau
gyda’r Adran Gynllunio ac yn dilyn adborth diwygiwyd y cynllun i ostwng rhan
o’r bloc o fflatiau i ddau lawr i leihau’r effaith ar y byngalos gyferbyn
·
Bydd y fflatiau ar gyfer
darpar denantiaid dros 55 oed
·
Bydd trefniadau
cefnogaeth tenantiaeth gan staff CCG yn y cynllun gwarchod pobl hŷn yn
Morfa Cadfan sydd yn agos i’r datblygiad
·
Bydd y tai dwy lofft yn
helpu i ddiwallu anghenion am y math yma o dai o ganlyniad i reoliadau gyda threth ystafell wely, gyda’r
angen bellach fwyfwy am unedau llai
·
Bod anghenion tai ar gyfer tai fforddiadwy yn
Nhywyn yn uchel iawn gyda dros 40 yn aros am dai dwy lofft a dros 60 am
fflatiau un / dwy lofft gyda chanran uchel ohonynt wedi cofrestru yn unigolion
dros 55 oed
·
Credir bod tystiolaeth gadarn i gyfiawnhau
adeiladu’r datblygiad, yn ymateb i’r angen ac wrth wneud hynny yn adfywio safle
sydd yn segur
(c) Nododd aelod ei
phryder ynglŷn â’r safle gan ei fod yn safle bychan iawn ac o ganlyniad yn
creu gor-ddatblygiad. Pryderwyd hefyd am fynediad i’r safle a theimlwyd nad
oedd y cynlluniau gerbron yn adlewyrchu hyn ac y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor
Cynllunio ymweld â’r safle er mwyn cael gweld drostynt eu hunain maint Heol
Talyllyn. Yn ogystal, pryderwyd am leoliad y safle biniau a oedd yn gor-edrych
ar ffenestri byngalo cyfagos. Tra’n datgan nad oedd yn erbyn caniatáu’r cais a
bod angen tai fforddiadwy cymdeithasol yn Nhywyn, roedd yr Aelod o’r farn y
dylid gohirio cymryd penderfyniad a chynnal ymweliad â’r safle gan ei fod yn
ddatblygiad helaeth.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i’r
Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle.
(d) Mewn ymateb i
sylwadau’r Aelod, esboniodd y Rheolwr Cynllunio bod y swyddogion wedi ystyried
cynnal ymweliad safle ond yn seiliedig ar y wybodaeth a’r lluniau gerbron, ac y
gellir ail-leoli’r safle biniau, roeddynt o’r farn na fyddai’n realistig
gohirio cymryd penderfyniad ar y cais gan fod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi
negodi gyda’r Bwrdd Iechyd i ymestyn y cyfnod i brynu’r tir tan ddechrau mis
Ionawr ac na fyddai Pwyllgor Cynllunio arall cyn hynny i fedru ymdrin â’r
cais. Felly drwy ohirio cymryd
penderfyniad, byddai peryg i CCG golli’r cyfle i allu prynu’r tir.
(dd) Pleidleisiwyd ar y cynnig i ymweld â’r safle
ond fe syrthiodd y cynnig hwn.
(e) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais ac fe gariodd y bleidlais.
(f)
Mewn ymateb i bryder amlygwyd ynglŷn â diffyg
darpariaeth maes chwarae i blant fel rhan o’r cynllun, esboniodd y Rheolwr
Cynllunio bod y mater hwn yn cael ei gyfarch ym mhwynt 5.5 o’r adroddiad ac nad
oedd yn cyrraedd y trothwy am yr angen i lecyn chwarae gan fod rhan helaeth o’r
datblygiad ar gyfer unigolion yn yr oedran dros 55 oed.
(g) Amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol o blaid yr argymhelliad
i’w ganiatau:
·
Cefnogol i’r bwriad gan fod y cynllun yn cynnwys
tai bychan ac sydd yn hynod o bwysig i’r ardal ac yn dymuno gweld cynlluniau
tebyg mewn ardaloedd eraill o Wynedd
·
Bod dros 3,000 o
unigolion ar restr aros am dai ac y byddai’r datblygiad yn cyfrannu at leihau’r
rhestr
Penderfynwyd: Caniatáu yn unol â’r
amodau isod:
1
Cychwyn o fewn 5
mlynedd.
2
Unol gyda’r cynlluniau.
3
Cytuno llechi to.
4
Cytuno gorffeniad
waliau allanol.
5
Tynnu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer estyniadau ac adeiladau cwrtil
ar gyfer y tai fforddiadwy.
6
Dim dŵr wyneb i gael ei waredu i’r garthffos gyhoeddus oni bai y bydd
yr awdurdod cynllunio lleol yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.
7
Llefydd parcio a mynedfeydd i’w cwblhau yn unol gyda chynlluniau ac i fod
yn weithredol cyn i’r tai gael eu meddiannu am y tro cyntaf.
8
Cyflwyno cynllun tirlunio er cymeradwyaeth o fewn deufis i gychwyn
datblygu.
9
Amserlen gweithredu cynllun tirlunio.
10 Amod safonol cyfyngu’r
datblygiad i dai fforddiadwy yn unig.
11 Cyfyngu oriau gweithio ar y safle.
Dogfennau ategol: