Codi uned A3 (caffi) gyda drive-thru, creu mannau parcio a dwy fynedfa gerbydol newydd a thorri coed.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve
Collings
Cofnod:
Codi uned A3 (caffi) gyda drive-thru, creu mannau parcio a dwy fynedfa
gerbydol newydd a thorri coed.
(a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y Pwyllgor Cynllunio wedi
ymweld â’r safle uchod a oedd yn ddefnyddiol er mwyn medru gweld cyd-destun y
cais, sydd yn ddarn trionglog o dir ar Ffordd Deiniol, Bangor, oddi ar y
gyffordd sy’n gwasanaethu ASDA, Ffordd Sackville a gweddill Ffordd Deiniol.
Tynnwyd sylw bod y safle mewn lleoliad amlwg mewn ardal sy’n gwasanaethu fel un
o’r prif bwyntiau mynediad i mewn ac allan o’r ddinas. Nodwyd bod nifer o goed ar y safle sydd
wedi’u gwarchod dan Orchymyn Cadw Coed.
Cyfeiriwyd at yr
ymatebion i’r ddau gyfnod ymgynghori cyhoeddus fel rhan o’r adroddiad.
Tynnwyd
sylw at baragraffau 5.2 i 5.13 o’r adroddiad a oedd yn cyfeirio at egwyddor y
datblygiad ac er i’r cais fodloni rhai o ofynion y polisi perthnasol, ei fod
wedi methu ag arddangos cydymffurfiaeth â gofynion polisïau eraill.
Yng
nghyd-destun effeithiau priffyrdd, tynnwyd sylw’r Pwyllgor Cynllunio i
baragraffau 5.21 i 5.29 o’r adroddiad a bod pryderon clir yn y materion hyn ac
fe welwyd ar yr ymweliad safle cynnydd yn y traffig wrth i geir aros tu allan
i’r safle am gyfnod weddol fyr. Nodwyd ymhellach nad oedd y cais yn dangos
darpariaeth ar gyfer cerbydau gwasanaethu / danfon nwyddau ac y byddai’n rhaid
i loriau fagio i mewn neu allan o’r safle gan nad yw’r elfen drive-thru yn addas i gerbydau mwy. Ar y cyfan felly, nodwyd bod y materion
priffyrdd i gyd yn arddangos bod y safle, yn sgil ei natur gyfyngedig, yn
anaddas ar gyfer y raddfa arfaethedig hon o ddefnydd heb fod posibilrwydd y
bydd yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch ffyrdd.
O
safbwynt coed wedi’u gwarchod nodwyd bod nifer o goed ar y safle a hefyd wedi’u
gwarchod dan Orchymyn Cadw Coed. Nodwyd bod y bwriad yn cynnwys gwaredu’r holl
goed presennol ar y safle ac un goeden ar dir cyfagos. Ymdrinnir á’r materion
hyn ym mharagraffau 5.32 i 5.40 o’r adroddiad a phwysleisiwyd bod yr awdurdod
yn parhau gyda’r farn ei bod yn annerbyniol colli’r holl goed ar y safle
hwn.
Tynnwyd
sylw at bryderon yr Uned Bioamrywiaeth ac yn seiliedig ar yr wybodaeth a
gyflwynwyd, ystyriwyd bod y cais yn methu bodloni’r polisi perthnasol.
Yn dilyn asesiad lawn o’r holl
ystyriaethau a’r polisïau cynllunio perthnasol, gan gynnwys y gwrthwynebiadau
a’r sylwadau a gyflwynwyd i gefnogi’r cynllun, argymhelliad y swyddogion
cynllunio ydoedd gwrthod y cais gan ei fod yn annerbyniol ac yn unol â’r
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad gerbron.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad,
nododd cynrychiolydd ar ran Cymdeithas Ddinesig Bangor nad oeddynt yn gefnogol
i’r cais oherwydd:
·
Nad oedd y cais yn
cydymffurfio â pholisïau’r awdurdod cynllunio
·
Ei
fod wrth ymyl cylchfan brysur iawn a bod nifer o resymau dros ei wrthod
·
Bod
y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cyfeirio at warchod yr amgylchedd ac yn
benodol gwarchod y coed ar y safle
·
Bod
y lleoliad yn anaddas sydd yn ffordd brysur i Fangor ac yn ffordd a ddefnyddir
gan y gwasanaethau brys
·
Pryderon ynglŷn â pharcio
ar Ffordd Sackville
·
Nad
oedd darpariaeth parcio ar gyfer cerbydau fyddai’n gwasanaethu’r safle
·
Er bod yr ymgeisydd yn nodi y
byddai’r cais yn creu swyddi, gellir creu'r swyddi hyn pe byddai’r fenter yn
cael ei leoli ar safle mwy addas megis Parc Bryn Cegin
(c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd
asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau isod:
·
bod
cwmni “Deiniol Development” wedi datblygu ASDA sydd wedi ei leoli gerllaw’r
safle a’r bwriad ar y pryd ydoedd, pan brynwyd y safle, i ASDA fod yn fwy. Fodd
bynnag, aethpwyd ymlaen i ddatblygu ar raddfa lai ac ers hynny bod y safle sydd
yn destun y cais wedi bod yn wag
·
Diben
y cais ydoedd dod â gweithgarwch yn ôl i'r safle
ac ar yr un pryd ceisio datblygu
mynedfa deniadol i ganol y ddinas
gyda thirlunio o ansawdd uchel.
·
bod yr adeilad
ei hun ar raddfa fach iawn ac yn galluogi Starbucks i sefydlu presenoldeb ym
Mangor a oedd yn ddymuniad ganddynt ers peth amser
·
Nad oedd unrhyw
safle arall a dyma'r unig gyfle sydd ganddynt
·
bod gan y
cwmni gysylltiadau cadarn gyda'r
gymuned, cymunedau myfyrwyr mewn
mannau fel Llandudno, Aberystwyth, ac
fe'u cafodd eu hysgogi gyda cheisiadau gan bobl leol yn gofyn iddynt ddod â'r
brand hwn i Fangor a fyddai'n atgyfnerthu canol y ddinas
·
Er yn ymwybodol
o'r pryderon ynglŷn â thraffig a'r effaith ar y gylchfan bresennol,
dywedwyd bod y pryderon hyn yn cael eu camddefnyddio i raddau helaeth gan nad
ydoedd ar gyfer denu unigolion i'r
safle ond yn hytrach denu ceir sy'n mynd heibio ac y byddai'r safle yn hygyrch
i fyfyrwyr a cherddwyr
·
nad oedd y
cwmni'n bwriadu lleihau'r coed, ond ‘roedd yn amlwg bod y coed ar y blaen
mewn cyflwr gwael iawn gydag oes
cyfyngedig o fywyd
·
ceisir creu
ardal wedi'i thirlunio a fydd yn parhau am genedlaethau i ddod a fydd o
ansawdd uchel o ran nifer y coed a'r
rhywogaethau a blannir
(ch) Cynigwyd ac eilwyd i wrthod y cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion ac fe amlygwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau unigol
o blaid ei wrthod:
·
Gor-ddatblygiad
·
ffordd brysur ac fe fyddai’r
datblygiad yn gwaethygu’r sefyllfa
·
pryder ynglŷn â cholli
coed ac y byddai eu colli yn niweidiol i Fangor
·
pryder
am lecynnau addas i barcio
·
nad
oedd darpariaeth ar gyfer llwytho a dadlwytho nwyddau i’r safle ac o ganlyniad
byddai cwsmeriaid yn parcio ar y ffordd ac yn creu tagfeydd traffig
·
Pryderu
am yr iaith Gymraeg
·
Pryder
am ddiogelwch myfyrwyr sydd yn cerdded ar hyd y ffordd dan sylw
·
Anghytuno
hefo asiant yr ymgeisydd o ran lleoliadau amgen a bod llefydd gwag yn y Stryd
Fawr ar gyfer y datblygiad a hefyd ym Mharc Bryn Cegin a fyddai yn leoliad mwy
addas
Penderfynwyd: Gwrthod y cais am y
rhesymau a ganlyn:
1.
Mae'r cynnig wedi methu ag arddangos cydymffurfiaeth â gofynion polisi MAN
1 a PCC o ran cyfiawnhau'r angen a'r lleoliad (o ran y prawf dilyniannol) am y
datblygiad a bodloni'r Awdurdod na fydd y datblygiad yn niweidiol i fywiogrwydd
a hyfywdra canol y ddinas.
2.
Ystyrir bod y cynnig yn groes i bolisi ISA 4 gan y bydd y cynnig yn arwain
at golli gofod gwyrdd mwynderol gwerthfawr mewn ardal drefol.
3.
Ystyrir bod y cynnig yn
groes i ofynion polisïau PS19, PCYFF 4, PS 5 a hefyd ISA 4 gan nad oes
cyfiawnhad dros golli coed sydd wedi'u gwarchod ar y safle hwn a byddai'n cael
effaith annerbyniol ar fwynderau gweledol y strydwedd ac ni fyddai'r mesurau
lliniaru arfaethedig yn goresgyn y golled yn dderbyniol.
4.
Ystyrir fod y bwriad yn groes i bolisi PS19 ac AMG 5 gan nad yw'r cais wedi
arddangos nad oes dewisiadau amgen boddhaol eraill ar gyfer y datblygiad ac nad
ydyw wedi'i arddangos bod yr angen am y datblygiad yn goresgyn pwysigrwydd y
safle fel carreg sarn bioamrywiaeth.
5.
Ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion polisïau TRA 2, TRA 4 a MAN 7 gan
nad oes darpariaeth yn y safle i gerbydau gwasanaethu barcio ac ni fyddai modd
i gerbydau gwasanaethu fynd i mewn ac allan o'r safle mewn gêr blaen a gallai
hyn fod yn andwyol i ddiogelwch ffyrdd o ystyried agosrwydd y safle at gylchfan
brysur. Yn ogystal, nid oes gan yr elfen drive-thru
ddigon o fannau parcio i gwsmeriaid sy'n aros, ac fe allai hyn arwain at
symudiadau cerbydol ychwanegol i mewn ac allan o'r safle er mwyn i gwsmeriaid
fynd i mewn i'r maes parcio i gwsmeriaid.
Dogfennau ategol: