Dymchwel tŷ
presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dewi Wyn Roberts
Cofnod:
Dymchwel tŷ
presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi fod y cais yn ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd gan y
Pwyllgor ar 25 Medi 2017. Nododd bod yr ymgeisydd yn datgan bod y bwriad wedi
ei ddiwygio drwy leihau maint y tŷ bwriedig er ymateb i bryderon a godwyd
gan y Pwyllgor a rhesymau gwrthod y cais blaenorol.
Nodwyd y lleolir y safle
ar benrhyn Abersoch, y tu mewn i ffin datblygu’r pentref a thu mewn i Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE).
Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Eglurwyd bod polisïau
lleol a chenedlaethol yn gefnogol i ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen
ar gyfer datblygiadau yn hytrach na defnyddio tir gwyrdd. Roedd y bwriad yn
unol â pholisi TAI 13 o’r CDLl a oedd yn ymwneud yn benodol gyda dymchwel a
chodi tŷ newydd y tu mewn i ffin pentref.
Nodwyd yr ystyrir y
byddai dyluniad y tŷ, yn arbennig felly'r edrychiad yn wynebu’r môr, yn
gweddu gyda’r safle oherwydd ei fod yn dilyn siâp, gosodiad a phroffil y safle
a’r defnydd o ddeunyddiau yn creu dyluniad ysgafn. Nodwyd nad oedd gan yr Uned
AHNE wrthwynebiad i’r bwriad ar y sail yma.
Adroddwyd bod nifer o
wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn nodi eu bod yn teimlo nad oedd y bwriad yn
gweddu a theimlir bod y gwrthwynebiadau hyn wedi eu cyflwyno oherwydd bod y
dyluniad yn wahanol i eiddo eraill yn yr ardal. Nid oedd hyn ohono’i hun yn
golygu bod y bwriad yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal.
Ystyriwyd bod y bwriad yn
addas i’r lleoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr
AHNE. Hefyd, oherwydd y lleoliad yn erbyn cefndir adeiledig Abersoch ni ystyrir
y byddai’r bwriad yn amharu’n sylweddol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE.
Nodwyd yr ystyrir bod y
dyluniad a dwysedd ar y safle yn dderbyniol a bod y bwriad yn cyd-fynd â’r
polisïau perthnasol.
Argymhellwyd i’r Pwyllgor
ganiatáu’r cais efo’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ynghyd ag amod ychwanegol
o ran oriau gweithio a Chynllun Rheoli Adeiladu er mwyn gwarchod mwynderau
trigolion lleol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
asiant yr ymgeisydd, y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod yr ymgeisydd yn hytrach na
chyflwyno apêl ar y cais blaenorol a wrthodwyd wedi diwygio’r bwriad er mwyn
cyfaddawdu o ran y pryderon a godwyd;
·
Bod maint y tŷ wedi ei leihau 25%
gyda lleihad yn lled y tŷ o 1.5m, dyfnder 3.5m ac uchder o 1m. Byddai’n
sicrhau na fyddai’r tŷ yn amharu ar yr olygfa o’r Llwybr yr Arfordir tu
cefn y safle;
·
Bod y lluniau a gyflwynwyd yn dangos na
fyddai’r datblygiad i’w weld o gyfeiriad Lôn Pont Morgan;
·
Byddai’r tŷ’n cymryd 25% o’r safle
gyda gweddill y safle ar gael i dirweddu’n effeithiol. Roedd tai llawer mwy yn
yr ardal (oddeutu 60% o’r safle) gyda llai o dir ar gael i dirweddu;
·
Bod y safle tu mewn i’r AHNE ond yn
bwysig cofio ei fod o fewn y ffin datblygu.
(c) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-
·
Pryder yn lleol bod y bwriad
yn or-ddatblygiad ac ni fyddai’n gweddu i’r safle;
·
Er bod newidiadau i’r
cynlluniau gwreiddiol roedd y tŷ’n parhau i fod yn 3 llawr ac yn fwy na
ôl-troed y tŷ gwreiddiol;
·
Byddai’r bwriad yn cael
effaith andwyol ar yr AHNE. Pryder Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn o
ran ôl-troed llawer mwy na’r gwreiddiol ac effaith gronnol datblygiadau o’r
fath yn yr AHNE;
·
Ddim yn cytuno efo casgliad y
swyddogion bod y bwriad yn bodloni gofynion Polisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 o’r
CDLl;
·
Synnu nad oedd cyfeiriad at
sylwadau’r Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol ac nid oedd ymgynghori pellach ynglŷn
â’r newidiadau;
·
Gofyn i’r Pwyllgor ohirio’r
cais er mwyn rhoi cyfle i’r Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol gyflwyno sylwadau ar y
cais;
·
Os na ohirir y cais gofyn i’r
Pwyllgor wrthod y cais ar sail or-ddatblygiad ac effaith niweidiol ar yr AHNE.
Mewn ymateb i sylwadau’r
aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y gwrthodwyd y cais
blaenorol ar sail or-ddatblygiad o’r safle, roedd lleihau swmp y datblygiad yn
lleihau’r effaith weledol. Amlygodd sylwadau’r Uned AHNE “Credir fod y
deunyddiau ar y cyfan yn addas i’r safle a bydd y cyfuniad ohonynt, a’r to
gwyrdd, yn gymorth i’r datblygiad weddu i’r safle heb amharu ar yr AHNE.”
(ch) Cynigwyd i
ohirio’r cais er mwyn rhoi cyfle i Gyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn
gyflwyno sylwadau ar y cais. Nodwyd, o ystyried mai prif reswm gwrthod y cais
blaenorol oedd sylwadau’r Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol fe ddylid rhoi cyfle iddynt
ystyried y cais.
Eiliwyd y cynnig.
Penderfynwyd: gohirio’r cais er
mwyn rhoi cyfle i Gyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn gyflwyno sylwadau ar
y cais.
Dogfennau ategol: