skip to main content

Agenda item

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod cais diwygiedig wedi ei gyflwyno i’r Gwasanaeth Cynllunio ar safle 'The Shanty, Abersoch' (cais rhif C17/1024/39/LL). Atgoffodd yr aelodau bod y Cyd-Bwyllgor wedi trafod y cais gwreiddiol yn y cyfarfod blaenorol ar 6 Medi 2017 ac wedi cyflwyno’r sylwadau isod ar y cais i’r Gwasanaeth Cynllunio:

 

Ø  Bod Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn yn gwrthwynebu’r cais ar sail:

·         Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg hon gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol.

·         Byddai’r datblygiad yn ymwthiol.

 

Ø  Bod y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol yn pryderu o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr AHNE.

 

Nododd y gwrthodwyd y cais gwreiddiol yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Medi 2017.

 

Adroddodd bod y Pwyllgor Cynllunio yn ei gyfarfod ar 18 Rhagfyr 2017 wedi gohirio penderfyniad ar y cais diwygiedig er mwyn rhoi cyfle i’r Cyd-Bwyllgor gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Nododd bod y bwriad wedi ei leihau o ran maint y tŷ, nid oedd modurdy yn rhan o’r cais diwygiedig a byddai mwy o lystyfiant o gwmpas y datblygiad gan ei fod yn llai. Nododd ei fod wedi cyflwyno sylwadau ar y cais ar ran yr Uned AHNE i’r Gwasanaeth Cynllunio yn unol â’r drefn. Eglurodd ei fod ef fel cynllunydd siartredig yn gymwys i gyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio.

 

Nododd ei fod wedi cyflwyno sylwadau ar y cais o ran materion yn ymwneud â’r effaith ar yr AHNE a’i fod o’r farn:

·         Bod ymdrech da i geisio dylunio’r adeilad i weddu i’r safle unigryw ar drwyn y Penrhyn a bod safon y dyluniad yn uwch na’r datblygiadau bob ochr a oedd yn fwy trefol a digymeriad;

·         Bod y deunyddiau ar y cyfan yn addas i’r safle arfordirol;

·         Wedi pwyso a mesur manylion y cais na fyddai’r bwriad yn amharu ar yr AHNE.

 

Amlygodd fod yr Uned AHNE wedi cyflwyno sylwadau yn datgan pryder am nifer o geisiadau i ddymchwel ac ail-adeiladu yn ardal Abersoch, er enghraifft Gwesty Harbour Hotel, Gwesty White House a Blaen y Wawr ond fod y ceisiadau wedi eu caniatáu er hynny.

 

Tynnodd sylw’r aelodau at y cynlluniau a lluniau o’r datblygiad a oedd wedi eu harddangos yn y cyfarfod, gan nodi bod un cynllun yn dangos y gwahaniaeth rhwng y cais gwreiddiol a’r cais diwygiedig. Nododd bod cynrychiolydd o gwmni Cadnant Planning (asiant y cais) yn bresennol a byddai’n ymateb i gwestiynau’r aelodau. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau edrych ar y cynlluniau a’r lluniau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nododd yr aelodau'r prif bwyntiau canlynol:

·         Er bod maint y tŷ wedi lleihau dal yn pryderu gan ei fod yn parhau i fod yn dri llawr gyda defnydd helaeth o wydr ar safle amlwg;

·         Bod maint y tŷ yn fwy na’r tŷ gwreiddiol a ni fyddai’r tŷ arfaethedig yn yr union leoliad a’r tŷ presennol;

·         Pryder o ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr ardal;

·         Bod angen gwarchod adeiladau hanesyddol a byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle gyda dyluniad estron;

·         Byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail.

 

Mewn ymateb i sylwadau aelodau, nododd cynrychiolydd Cwmni Cadnant Planning:

·         Byddai’r tŷ’n defnyddio 25% o arwynebedd y safle gyda gweddill y tir ar gael i dirweddu’n effeithiol. Roedd rhai tai eraill yn yr ardal yn defnyddio oddeutu 60% o’r safle gyda llai o dir ar gael i dirweddu;

·         Bod maint y tŷ wedi ei leihau 25% o gymharu â’r cais gwreiddiol;

·         Nid oedd polisi gwarchod yr AHNE yn nodi bod dyluniad gwahanol yn groes i’r polisi;

·         Bod y tŷ bwriedig, a oedd tu mewn i’r ffin datblygu, o ddyluniad gyda haenau er gweddu i mewn i’r safle;

·         Bod egwyddor y bwriad yn dderbyniol;

·         Byddai maint y tŷ bwriedig oddeutu 2 neu 3 gwaith y tŷ presennol ond byddai’r tŷ ond yn cymryd 25% o’r safle.

 

Nododd aelod y dylai cyfarfod o’r Cyd-Bwyllgor gael ei alw pan fo cais cynllunio mawr yn yr AHNE er mwyn rhoi cyfle i’r aelodau ei ystyried cyn bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn anfon sylwadau at y Gwasanaeth Cynllunio.

 

Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn ei fod yn gyflogedig gan Gyngor Gwynedd a’i fod yn unol â chytundeb gwasanaeth wedi cyflwyno sylwadau ar y cais i’r Gwasanaeth Cynllunio. Pwysleisiodd fod ganddo rôl wahanol i’r Cyd-Bwyllgor. Nododd bod y cais cynllunio dan ystyriaeth yn gais newydd ac nad oedd cyfarfod o’r Cyd-Bwyllgor yn ystod y cyfnod ymgynghori ar y cais.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau parthed polisïau cynllunio, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn mai rôl y Cyd-Bwyllgor oedd ystyried effaith gweledol datblygiad ar dirlun ac arfordir yr AHNE.

 

PENDERFYNWYD i gyflwyno’r sylwadau isod i sylw’r Gwasanaeth Cynllunio mewn perthynas â chais cynllunio ‘The Shanty, Abersoch’ (cais rhif C17/1024/39/LL):

 

Ø  Er yn cydnabod fod y cynllun wedi ei addasu ers y cais blaenorol mae Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn yn parhau i wrthwynebu’r cais ar sail:

·         Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg hon gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol.

·         Byddai’r datblygiad yn ymwthiol.