skip to main content

Agenda item

Cais ol-weithredol i gadw mynedfa gerbydol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Cais ôl-weithredol i gadw mynedfa gerbydol

 

a)        Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn gais llawn ôl-weithredol ar gyfer cadw mynedfa gerbydol. Adroddwyd bod y fynedfa oddi ar ffordd ddosbarth 1, yr A497 ym Mhentrefelin.

 

Ni ystyriwyd bod y bwriad o greu’r fynedfa yn cael effaith andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal. Amlygwyd bod nifer o’r gwrthwynebwyr wedi lleisio pryderon yn ymwneud â diogelwch ffyrdd, fodd bynnag nid oedd yr Uned Drafnidiaeth wedi codi unrhyw bryderon fyddai yn deillio o’r datblygiad. Atgoffwyd mai  mynedfa ar gyfer cynnal a chadw tir amaethyddol oedd dan sylw gyda dwysedd defnydd isel. Nodwyd bod y fynedfa yn debyg iawn i fynedfeydd cyffelyb gerllaw

 

Amlygwyd pe byddai  unrhyw geisiadau cynllunio am ddatblygiadau pellach yn y dyfodol yna byddai’r ceisiadau cynllunio hynny yn cael eu hystyried ar eu haeddiant eu hunain. Ystyriwyd bod y safle yn addas ar gyfer cael mynedfa amaethyddol ac nad oedd goblygiadau i’r bwriad o ran diogelwch ffyrdd. Ni ystyriwyd ychwaith y byddai’r bwriad o ystyried ei raddfa a’i leoliad yn debygol o amharu’n andwyol ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·         Yr ymgeisydd angen edrych ar ôl y tir ac i wneud hynny rhaid cael mynediad achlysurol ato

 

c)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol ( oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais yn ymddangos yn amlwg a syml, ond bod angen ystyried y cais yn fanylach

·         Bod y fynedfa wedi ei leoli ar ddarn o’r ffordd sydd â thro

·         Bod y fynedfa yn agos iawn at gyffordd eithaf prysur yn y pentref a safle bws. Ymddengys y rhain yn gymhlethdodau ar ddarn bach o ffordd

·         Derbyn bod y giât yn debyg i eraill yn yr ardal, ond eto, problemau yn codi gyda diogelwch

·         Ni ellir agor y giât allan gan y byddai yn agor i’r ffordd ac ar draws y llwybr cyhoeddus

·         Ni ellir agor yn llawn i mewn i’r tir oherwydd agosatrwydd at yr afon  -  nid yw felly yn ymarferol

·         Pryderon mwyaf trigolion y pentref yw diogelwch ffyrdd  - byddai’r fynedfa yn ychwanegu at y pryderon hynny

 

ch)    Mewn ymateb i sylwadau am y pryderon diogelwch ffyrdd, amlygodd  Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth nad yw maint y llecyn tir yn ddigonol ar gyfer peiriannau amaethyddol mawr ac felly bod y cais wedi ei ystyried ar gyfer peiriannau llai megis cerbyd 4x4. Pwysleisiwyd mai defnydd achlysurol fyddai yn cael ei wneud o’r fynedfa ac nad oedd yn gwrthwynebu’r cais. Nid oedd rheswm i osod y giât yn nol

 

d)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

dd)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau  

         unigol:

·         Beth yw maint y llecyn tir – a yw yn dir amaethyddol o fewn y ffin datblygu?

·         A yw’r llecyn wedi ei gofrestru fel tir amaethyddol?

·         A yw hwn yn gais ar gyfer gosod mynedfa ar gyfer y dyfodol?

·         Rhaid cael mynedfa at y tir i’w drin

 

e)        Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â defnydd y tir, nodwyd nad oedd y tir yn cael ei gydnabod fel gardd na phlot ac roedd i’r tir ddefnydd amaethyddol ar hyn o bryd. Nodwyd ei bod yn gwbl resymol bod mynedfa ar gael i wasanaethu’r tir. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â maint y llecyn a’i leoliad o fewn y ffin datblygu, amlygwyd nad oedd hyn yn ystyriaeth faterol i’r cais.

 

PENDERFYNWYD Caniatáu

 

1.    Unol a chynlluniau

2.    Cyrbau isel yn unol â’r manylion a gyflwynwyd i gael eu gosod ar y safle o fewn 3 mis o ddyddiad caniatáu;

3.    Giât i agor i mewn i’r safle yn unig a rhaid gosod strwythur pendant ar y fynedfa i sicrhau hyn o fewn tri mis o ddyddiad caniatáu

Dogfennau ategol: