skip to main content

Agenda item

Diwygio amod 2 ar ganiatad cynllunio C16/0229/11/LL er mwyn parhau i leoli'r caban marchnata dros dro am ddwy flynedd ychwanegol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Huw G Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Diwygio amod 2 ar ganiatâd cynllunio C16/0229/11/LL er mwyn parhau i leoli'r caban marchnata dros dro am ddwy flynedd ychwanegol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

(a)          Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amod ar ganiatâd cynllunio blaenorol (C16/0299/11/LL) er mwyn ymestyn cyfnod lleoli adeilad marchnata dros dro am ddwy flynedd ychwanegol. Eglurwyd bod dau gais estyniad amser eisoes wedi'i ganiatáu gyda’r diweddaraf gyda chaniatâd hyd 31/03/18.

 

Amlygwyd bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gwerthu tai yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl Y Bae ym Mangor. Nodwyd bod y datblygiad tai wedi ei gwblhau ond bod dwy uned yn parhau ar y farchnad. Y gobaith yw cael estyniad amser o ddwy flynedd ychwanegol hyd nes bydd yr unedau i gyd wedi eu gwerthu.

 

Adroddwyd bod y caban wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Bangor ac o faint a lleoliad rhesymol. Ni ystyriwyd fod y caban, na’i ddefnydd achlysurol yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r preswylwyr cyfagos.

 

(b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·         Mai pwrpas yr adeilad yw cynorthwyo gyda’r elfen marchnata a gwerthiant unedau Rhan 1 o’r datblygiad

·         Bod dwy uned yn parhau ar werth

·         Yr adeilad yn addas i bwrpas ac yn cael ei ddefnyddio i gyfarfod gyda phrynwyr posib

·         Nid yw yn creu effaith weledol andwyol

·         Bydd unrhyw sylwadau neu drafodaeth ar rhan 2 o’r datblygiad yn cael ei drin fel cais ar wahân

 

(c)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor  Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

·         Nad yw’r caban marchnata yn cael ei ddefnyddio

·         Amheuaeth ei fod wedi bod ar gau ers 2 fis

·         Bod y ddwy uned sy’n parhau ar werth yn cael eu gwerthu drwy arwerthwyr tai lleol

·         Bod trigolion lleol yn amau mai at ddefnydd rhan 2 o’r datblygiad yn Y Bae yw’r cais  am ymestyniad amser i’r caban

·         Mae’r adeilad yn ddiangen - nid oes pwrpas iddo bellach

 

ch)       Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn groes i’r argymhelliad gan nad oedd pwrpas iddo.

 

d)         Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Os mai dwy uned sydd yn parhau ar werth, pam bod angen cyfnod o ddwy flynedd ychwanegol

·         A fyddai modd ystyried cyfnod llai?

·         Beth petai'r cwmni yn apelio’r penderfyniad?

 

dd)       Mewn ymateb i’r sylw am gyfnod llai, adroddwyd bod y caban marchnata gyda chaniatâd cynllunio hyd ddiwedd Mawrth 2018. Petai dim caniatâd pellach, byddai’r adeilad yn cael ei symud. Os na fydda’r adeilad yn cael ei symud yna byddai camau gorfodaeth yn cael eu cymryd. Yng nghyd-destun apêl, nodwyd y byddai hawl gan y cwmni apelio’r penderfyniad. Nodwyd mai'r angen yw'r pryder amlycaf.

 

e)        Cynigiwyd ac eiliwyd cwtogi'r cyfnod i 6 mis o Fawrth 2018 ymlaen

 

f)          Amlygodd y Cyfreithiwr bod angen i’r cynigydd gwreiddiol ystyried y cynnig newydd, a phetai yn ei dderbyn yna byddai angen cysyniad yr eilydd a’r Pwyllgor i dynnu ei gynnig gwreiddiol yn ôl. Ar y sail yma, mi dynnodd y cynigydd gwreiddiol ei gynnig yn ôl. Cytunodd yr eilydd i wneud hyn.

 

ff)        Pleidleisiwyd i dynnu’r cynnig o wrthod yn ôl. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu’r cynnig gwreiddiol yn ol.

g)            Cynigiwyd ac eiliwyd i gwtogi cyfnod yr angen am y caban marchnata o 2 flynedd i 6 mis.

 

PENDERFYNWYD: Caniatau – amodau

 

1.         Unol â’r cynlluniau

2.         Rhaid symud yr uned ymhen chwe mis o 31.3.18

Dogfennau ategol: