skip to main content

Agenda item

Gosod dwy garafan sefydlog ychwanegol i gynyddu niferoedd o 17 i 19 a chodi clawdd pridd

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd John B Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Gosod dwy garafán sefydlog ychwanegol i gynyddu niferoedd o 17 i 19 a chodi clawdd pridd

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer gosod dwy garafán sefydlog ychwanegol ar y safle ynghyd â thirlunio ychwanegol fyddai’n golygu adeiladu clawdd ac atgyfnerthu tyfiant presennol.  Amlygywd bod dau gais cyffelyb eisoes wedi eu gwrthod yn ystod 2017. Nodwyd bod y safle sefydlog presennol gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer 17 uned.  Ceir hefyd gae i garafanau teithiol yn Hir a awdurdodwyd trwy gais tystysgrif defnydd cyfreithlon yn 2013. Nodwyd bod y safle sydd o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr aelod lleol.

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad eglurwyd mai'r prif bolisi i’w ystyried wrth asesu egwyddor y datblygiad oedd polisi TWR 3 - rhan 3.  Ategwyd bod y polisi yma yn gallu caniatáu estyniadau bychain i arwynebedd y safle a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf penodol.  Un o’r meini prawf yw nad yw’r gwelliannau yn cynyddu nifer y carafanau sefydlog neu’r unedau chalet ar y safle, oni bai, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd y cynigion yn golygu ail-leoli parciau presennol sydd wedi eu lleoli o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol.  Nid yw’r polisi  yn caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar safleoedd oddi mewn i’r AHNE na’r Ardaloedd Tirwedd Arbennig.  Nodwyd bod y cais dan sylw yn un i gynyddu’r niferoedd o unedau ar y safle drwy ychwanegu dwy uned.  Nid oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Polisi TWR 3 o safbwynt safleoedd oddi fewn i’r Ardal Tirwedd Arbennig.

 

Cydnabuwyd bod y datblygiad yn dangos peth gwelliant i gyfleusterau’r safle sefydlog presennol a’r tirlunio ychwanegol yn gwella gwedd ac amgylchedd y safle. Er hynny, tynnwyd sylw at baragraffau 5.3. a 5.4  yr adroddiad ac amlygwyd na fyddai unrhyw gynllun tirlunio na gwelliannau na amnewid unedau teithiol am rai statig yn dod dros y ffaith nad yw’r Polisi yn caniatáu cynyddu niferoedd carafanau ar safleoedd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig.

 

b)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·      Dwy uned statig ychwanegol yn unig yw’r gofyn

·      Cydnabod cynnwys y polisïau ac adroddiad ond bod posib gwirioneddol i addasu’r cais i gyd-fynd a’r polisi

·      Ychwanegwyd dwy garafán statig yn 2014, ond penderfynwyd peidio a chynyddu ymhellach - ni wyddent ar y pryd y byddi’r Cynllun Datblygu Lleol yn rhwystro cynnydd pellach mewn niferoedd

·      Diffyg efallai gan y swyddogion o rannu gwybodaeth am y newidiadau

·      Byddai’r ddwy uned ychwanegol wedu ei lleoli mewn safle diamlwg

·      Derbyn y posibilrwydd bod modd ail leoli'r unedau statig i waelod y safle neu gyfnewid statig gyda theithiol

·      Busnes lleol yn ymateb i’r galw

·      Gwneud y mwyaf o dwrisitiaeth er mwyn sicrahu ffyniant llwyddianus cefn gwlad

 

c)        Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

·         Cyfeiriwyd at bwynt 3 o bolisi TWR 3

·         Un safle sydd yma mewn  dau gae – cynnig symud dwy uned o un cae i’r llall.

·         Y safle yn daclus ac yn cael ei reoli yn dda

·         Bod yr ymwelwyr yn cefnogi busnesau lleol

·         Bod y busnes yn cael ei redeg gan deulu lleol

·         Awgrym gohirio a chynnal ymweliad safle

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

d)        Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Yr ymgeisydd efallai wedi cael ei gamarwain gydag addasiadu i’r Cynllun Datlbygu Lleol newydd

·         Byddai ymweld â’r safle yn fanteisiol

·         Dim gwrthwynebiadau gan yr Uned Drafnidiaeth wedi ei derbyn

·         Dim gwahaniaeth mawr rhwng 17 ac 19 uned

 

dd)    Cynigiwyd  ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle.

 

e)        Pleidleisiwyd dros gynnal ymweliad safle. Disgynnodd y cynnig

 

f)         Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais yn unol â’r argymhelliad

 

ff)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Wedi ei wrthod dwywaith y llynedd

·         Wedi blynyddoedd o greu polisïau newydd dim eisiau mynd yn groes ar y cyfle cyntaf

·         Oni ddylid sicrhau bod amodau ceisiadau blaenorol yn cael eu gweithredu cyn cyflwyno cais o’r newydd

·         Ar ba sail cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor? Angen rheswm cynllunio dilys i wneud hyn

 

Mewn ymateb i sylw ynglyn a dilysrwydd cyfnewid dwy uned statig gyda dwy uned deithiol nodwyd yn gyntaf bod y safle teithiol a’r safle sefydlog yn cael ei ystyried fel dau safle ar wahân fel a gyfeirir ato yn yr adroddiad.  Ni fyddai cyfnewid unedau teithiol am rai sefydlog yn dderbyniol oherwydd bod y raddfa a gynnigir yn un am un ac nid yw hyn yn dderbyniol. Mewn amgylchiadau lle mae cyfnewid wedi ei gefnogi yn yn gorffennol mae’r raddfa amnewid yn  llawer uwch ac mae gwelliant cynllunio pendant yn cael ei gynnig  e.e. o safbwynt gwelliant trafnidiaeth

        

PENDERFYNWYD

 

Gwrthod

Mae’r bwriad yn golygu cynyddu nifer carafanau sefydlog ar safle carafanau sefydlog presennol oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig.  Nid yw polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog neu’r unedau siale ar safleoedd presennol oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig.  Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).

Dogfennau ategol: