Agenda item

Aelod Cabinet:          Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

I ystyried adroddiad blynyddol gan Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

(Copi’n amgaeedig)

 

*10.30 – 11.15 y.b.

 

 

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad blynyddol gan Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd gan dynnu sylw mai adroddiad ar gyfer 1 Ebrill 2016 i Mawrth 2017 ydoedd y cynnwys ac sydd yn dilyn trefn eisoes wedi ei gytuno gyda’r Cyngor.

 

Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan nodi prif bwyntiau canlynol:

 

·         mai’r ffocws ydoedd cynnal y stoc tai i Safon Ansawdd Tai Cymru ac ail-gychwyn adeiladu tai newydd

·         ymhob contract a osodir allan, disgwylir i gontractwyr   gymryd rhan drwy fuddsoddi yn y cymunedau a chyfeiriwyd at yr enghreifftiau hynny ym mhwynt 4.2 o’r adroddiad

·         gwelwyd o Dabl 1 a oedd yn cyfeirio at y gwahanol  elfennau bod y gwaith ar gyfartaledd yn cydymffurfio â SATC 100%, er bod rhai elfennau ddim yn taro 100% esboniwyd y rhesymau o’r methiant

·         cyfeiriwyd bod rhai tenantiaid yn gwrthod i waith gael ei wneud ar y tai a bod hyn yn dderbyniol onibai bod y gwaith i’w gwblhau yn unol ag iechyd a diogelwch

·         cyflwynir ystadegau i Lywodraeth Cymru yn flynyddol

·         o ran y gwaith adeiladu, cydweithir gyda nifer o bartneriaid  ac yng nghyswllt cynnal tiroedd enillwyd y gontract gan Gyngor Gwynedd gyda’r gwaith yn dda iawn

·         gweithir ar bynciau strategol megis:  digartrefedd (18 o dai wedi eu trosglwyddo ar les i’w defnyddio gan Gyngor Gwynedd); darparu tai fforddiadwy (cyfanswm o 39 uned a dros 100 o dai yn cael eu cyflawni eleni drwy ddefnyddio grant cymdeithasol); cynlluniau twf a phwysleisiwyd bod cyfleon ar hyd arfordir Gogledd Cymru sydd o gymorth i CCG gyflawni mwy

·         cydweithir yn dda gyda Heddlu Gogledd Cymru a chyfeiriwyd yn benodol at gynllun a threfniadau ym Maesincla.

·         Cyfeirwyd at y linciau cadarn rhwng tai a’r gwasanaeth iechyd yn benodol i hwyluso mynediad amserol a haws i wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer rhai tenantiaid

·         O safbwynt gwasanaeth trwsio, er nad oedd hyn i safon yn y gorffennol ‘roedd wedi derbyn ffocws penodol i wella’r gwasanaeth a chyfeiriwyd at lwyddiant ym mhwynt 9.5 gyda’r perfformiad wedi gwella a’r gwasanaeth yn llawer iawn mwy cynhyrchiol a boddhad cwsmer wedi cynyddu

·         Arolygir CCG yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru a braf ydoedd nodi bod yr arolygwyr yn ganmoladwy o’r gwasanaeth ac wedi rhagori o safbwynt hyfywedd ariannol     

 

(b)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)       Mynegwyd mai’r gwyn gyffredinol i sawl Aelod ydoedd diffyg dilyn fyny cwynion tenantiaid yn benodol yn ymwneud a mannau cymunedol, ffenestri ddim yn agor.

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod safon gofal cwsmer wedi gwella ond mai’n amlwg bod rhai problemau yn parhau ac ymddiheurwyd am hyn.  Sicrhawyd y byddir yn dilyn y materion penodol a grybwyllwyd i fyny gyda’r swyddog priodol.  Nodwyd bod rhaglen fuddsoddi ledled y Sir gyda’r bwriad o uwchraddio mannau cymunedol a hyderir y gellir datrys rhan fwyaf o’r problemau yn y dyfodol.   

 

Yn gyffredinol, nodwyd bod CCG yn gwrando ar denantiaid ac wedi gwneud llawr i wella gofal cwsmer.  Pan weithredir gwaith sylweddol ar stad fe fyddir yn ymgynghori yn drwyadl.  Ar gyfartaledd nodwyd bod tenantaid yn falch iawn o lle maent yn byw.  Rhoddir llawer o bwyslais ar ddiweddaru ag adrodd yn ol wrth denantiaid. Yn ogystal, sicrhawyd bod wardeiniaid yn ymweld ag unigolion ac roedd trefn i ffonio unigolion i ganfod barn am y gwasanaeth sydd wedi profi’n llwyddiant a gwersi wedi eu dysgu o’r ymarferiad hwn.  Yn ychwanegol buddsoddwyd mewn sustem TG newydd sydd yn mynd i fod o gymorth ar gyfer tracio gwaith, a.y.b. 

 

(ii)       Gyda buddsoddiad o £4m ar gyfer adeiladu tai newydd, gofynnwyd a fyddai’r tai yn addas i anghenion pobl hyn a’r anabl. 

 

Mewn ymateb, nodwyd bod CCG yn cydweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor mewn perthynas ag addasiadau lles i dai a phwrpas hyn ydoedd helpu tenantiaid i fedru aros yn eu cartrefi yn hirach.  

 

O safbwynt tai newydd, cydweithir yn agos gydag Uned Strategol Tai y Cyngor ac yn cydymffurfio a safonau perthnasol ac fe fyddir yn cymryd arweiniad ar y cyd o ran adeiladu yn unol a blaenoriaeth.  

 

(iii)             Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a chynnal a chadw llwybrau cerdded a adnewyddir fel rhan o fuddsoddiad cymunedol gan gontractwyr, eglurwyd nad oedd contractwyr yn atebol i’w cynnal a’u cadw.  Eglurwyd ymhellach bod rhai llwybrau wedi eu mabwysiadu gan yr awdurdod lleol neu mewn rhai achlysuron gan Gynghorau Cymuned / Tref ac felly byddai’r cyfrifoldeb o’u cynnal a’u cadw yn disgyn ar yr awdurdodau hyn. Felly byddai’n rhaid canfod statws y llwybrau ac yng nghyswllt llwybr cerdded Llwyn y Ne, Clynnog byddai’n ofynnol ymchwilio ymhellach.  

 

(iv)              Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a difa pla, esboniwyd nad oedd trafferth gyda’r gontract difa pla ac eglurwyd ar y trefniadau sydd mewn lle.  Edrychir ar y gontract yn flynyddol ac fe nodwyd ei fod yn gweithio’n llwyddiannus 

 

(v)              O safbwynt buddsoddi yn y gymuned, eglurwyd bod y materion cymunedol a restrir ym mhwynt 4.2 o’r adroddiad wedi eu hychwanegu ar y gontract. Roedd y Grant Cymunedol wedi lleihau ond cadarnhawyd bod arian yn parhau ar gael ond drwy drefn wahanol.  Nodwyd ymhellach bod CCG wedi datblygu strategaeth cymunedol ac yn trafod gyda chymunedau ac yn barod i dderbyn achosion busnes.  Cadarnhawyd y byddir yn rhannu’r strategaeth gydag Aelodau etholedig ac yn croesawu unrhyw awgrymiadau / syniadau pellach gan Aelodau. 

 

(vi)              Nad oedd rhai elfennau gwaith o fewn Tabl 1 yn yr adroddiad yn cydymffurfio a SATC a gofynnwyd felly a fydd y materion hyn yn cael eu cofnodi ymhellach yn ystadegau y flwyddyn ganlynol i sicrhau had ydynt yn mynd yn anghof?

 

Mewn ymateb, esboniwyd y cyflwynir yr ystadegau i Lywodraeth Cymru ac fe ellir gweld yn union pa dŷ sydd ddim yn cydymffurfio ond ei bod yn anodd mewn achosion lle mae tenant wedi gwrthod i waith gael ei wneud ar dŷ.  

 

(vii)              Pam bod rhent Gwynedd yn is nag awdurdodau eraill y Gogledd?  Mewn ymateb, nodwyd bod y polisi gosod rhent yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru ac o’r ystadegau rhoddir ystyriaeth i gyflogau wythnosol cyfartalog, fforddiadwyedd tenant i fedru talu, fforddiadwyedd i fedru prynu tai, economi y sir, ac felly roedd cyflog cyfartalog Gwynedd yn isel o’i gymharu a’r awdurdodau cyfagos. 

 

(viii)           Yn dilyn o’r uchod, gofynnwyd a fyddai hyn yn reswm pam bod trigolion yn symud i Wynedd am bod y rhent yn isel?

 

Mewn ymateb, nodwyd nad oedd yr uchod yn gywir o reidrwydd, oherwydd bod ffactorau eraill pam bod unigolion yn symud i’r ardal megis faint o dai sydd ar gael, cefndir teuluoedd, a.y.b.   Nodwyd ymhellach bod deddfwriaeth yn rheoli  gyd-gyfnewid tai a bod gan unigolion hawl i roi cais i symud gyda’r cais yn llwyddo os ydynt yn cyrraedd y gofynion priodol.   

 

(ix)     Mewn ymateb i gwestiynau / sylwadau, nodwyd:

·              O safbwynt  cael mynediad i dai bod trefn gyfreithiol i’w ddilyn ac fe barchir dymuniad tenantiaid os nad ydynt yn fodlon i gyflawni gwaith ar eu tai

·              Ceisir y gorau i ddenu tenantiaid drwy hysbysebu ac yn fwy diweddar sefydlwyd hyfforddiant a elwir yn academi tenantiaid a hyderir y gellir denu fwy o ddiddordeb drwy hyn 

·              O ran cau swyddfeydd ym Mhwllheli, cadarnhawyd bod canolfan lloeren yno ac anogwyd aelodau i hysbysebu hyn wrth denantiaid.  Yn ogystal, gall swyddogion ymweld a tenantiaid pe byddai angen. 

·              sicrhawyd na fyddai gwasanaeth i dai  Gwynedd yn dirywio drwy i CCG weithio tu allan i’r Sir

 

(x)              Gofynnwyd a fyddai modd adnewyddu stoc tai gwag o fewn cymunedau yn hytrach nag adeiladu o’r newydd fel bo modd cadw cymeriad traddodiadol pentrefi?

 

Mewn ymateb, eglurwyd y byddir yn edrych ar unrhyw ddatblygiadau yn fanwl ac fe geisir hybu cymunedau ymhob agwedd ond rhaid sicrhau bod y buddsoddiad a wneir yn hyfyw dros 30 mlynedd a rheswm dros hynny oherwydd y benthyciadau ar gyfer adnewyddu. 

 

(xi)             Gofynnwyd cwestiwn ar ran aelod oedd yn absennol o’r cyfarfod ynglyn ag achos yn ei ward lle roedd CCG wedi gorfodi tenant i newid tân agored am dân trydan.  Mewn ymateb, esboniwyd bod polisi gan CCG ar gyfer cyfleon i gau simneiau a gosod gwresogyddion trydan effeithiol er mwyn gwarchod iechyd a diogelwch y tenantiaid.  Fodd bynnag pwysleiswyd eu bod yn ymdrin yn sensitif i achosion ond nad oedd yn gyfarwydd a’r achos penodol a gyfeiriwyd ato.

 

(xii)             Croesawyd unrhyw syniadau a chyfleon gan aelodau mewn adnabod ardaloedd o fewn eu wardiau lle bo siawns i ddatblygiadau cymunedol.   

 

(xiii)           O safbwynt diffyg parcio ar stadau, cydnabuwyd bod y mater yn broblemus oherwydd diffyg cyfyngder tir ar stadau ond fe geisir ymgymryd a gwaith amgylcheddol lle bo hynny’n bosibl. 

 

(xiv)          Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a chanran o fethiant i wneud gwaith ar dai tenantiaid, nodwyd yn y 5/6 mlynedd diwethaf mai oddeutu 10% o denantiaid wrthodwyd gwaith i’w tai ond prysurwyd i nodi bod y ganran wedi dod i lawr erbyn hyn.  

 

(xv)            Gofynnwyd a oedd  modd fel rhan o’r trefniadau caffael i gontractwyr bach lleol i ymgymryd a gwaith i CCG.  Mewn ymateb, cadarnhawyd bod modd ond ei fod yn gymhleth o safbwynt gofynion cyfreithiol a hysbysebu contractau. 

 

(xvii) Sicrhawyd bod wardeiniaid a wardeiniaid tai gwarchodol yn ymweld ag unigolion sydd dros 80 oed.

 

I gloi, diolchwyd i’r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau                             am yr adroddiad a’r ymatebion clir i’r cwestiynau gyflwynwyd uchod.  Hefyd, gofynnwyd i’r swyddogion gyfleu diolchiadau’r aelodau i weithlu CCG am eu gwaith clodwiw ac yn arbennig  ymateb gwych i ymholiadau dros y ffon.

 

Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch am  yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: