Agenda item

Aelod Cabinet:          Y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad ar yr uchod.    (Copi’n amgaeedig)

 

 

*11.15 – 12.00

 

 

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd diweddariad ar y mater uchod ynghyd ag:

 

·         ymatebion i’r argymhellion wnaed gan y Pwyllgor Craffu Gofal hwn ar 21 Medi 2017

·         Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

·         Adroddiad y Pwyllgor Deisebau dyddiedig 22 Ionawr 2018

 

(b)          Croesawodd yr Aelod Cabinet Oedolion Iechyd a Llesiant adroddiad y Pwyllgor Deisebau a oedd yn cymeradwyo chwe argymhelliad y Pwyllgor Craffu Gofal hwn wnaed ar 21 Medi 2017.

 

(c)          Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsti Cadwaladr at argymhelliad (i) yn Atodiad A o’r adroddiad a chadarnhau bod y Bwrdd Iechyd wedi cyflawni’r argymhelliad a’r wybodaeth wedi ei rannu gyda’r Pwyllgor Craffu. 

 

(ch)        O safbwynt argymhelliad (ii) sef gofyn am adroddiad ar ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog gan asiantaeth annibynnol yn syth, tynnodd Aelod sylw bod y  Pwyllgor Deisebau yn nodi bod 98% yn anghytuno i gael gwared o welyau.  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ‘roedd y Pwyllgor yn gytun mai’r ffordd orau ymlaen ydoedd cadw at y briff gwreiddiol a gofyn i’r Cyngor Iechyd Cymuned ymgymryd â’r dasg i ymchwilio i’r ddarpariaeth iechyd yn ardal  Blaenau Ffestiniog a darparu adroddiad o’r casgliadau.  Fodd bynnag, byddai’n rhaid sicrhau yr un pryd eu bod yn barod i’w ariannu.

 

(d)    Yng nghyd-destun derbyn gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarparir yn y Ganolfan Goffa newydd ym Mlaenau Ffestiniog, esboniodd y  Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Cychwynnol y byddir yn cynnal arfarniad ôl prosiect er mwyn edrych a yw’r gwasanaethau  wedi cyrraedd targedau o fewn y cynllun busnes ac y byddir yn adrodd ar hyn i Lywodraeth Cymru.  Fel rhan o’r gwaith hwn byddir yn casglu ymatebion gan ddefnyddwyr y gwasanaethau ac os oes unrhyw wendidau gellir ymateb.

 

          Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant y byddai’n fuddiol i gyflwyno adroddiad ar gasgliadau’r arfarniad o wasanaethau yn y Ganolfan Newydd i’r Pwyllgor Craffu Gofal hwn, ac awgrymwyd ymhellach, yn ddibynnol ar y canlyniadau, y gall y Pwyllgor Craffu Gofal gynnal ymchwiliad pellach. 

 

Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â sut fydd trigolion Blaenau Ffestiniog a’r Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Goffa Blaenau yn cael mewnbwn, nodwyd bod modd cyflwyno cwynion fel rhan o drefn ond sicrhawyd y byddir yn creu proses ymgysylltu penodol ar ddiwedd tymor yr haf i ofyn am adborth am brofiadau ar y gwasanaethau yn y Ganolfan Goffa newydd ers ei agoriad.  Ychwanegwyd y gall y Cyngor Iechyd Cymuned ymgymryd â’r broses yma hefyd.   

 

          Roedd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Cychwynnol o’r farn bod y gwasanaethau yn wych yn yr adeilad newydd a oedd yn cynnwys therapyddion, fferyllwyr, gwasanaethau yn cydweithio hefo’i gilydd ac yn fwy sefydlog erbyn hyn yn ogystal a recriwtio meddyg teulu.

 

          Mewn ymateb i’r uchod, eglurodd Aelod mai’r prif gwynion ydoedd amddifadu trigolion Blaenau Ffestiniog o’r gwasanaethau hynny oedd ar gael yn yr Ysbyty Goffa Ffestiniog  megis gwelyau i gleifion,  darpariaeth pelydr-x ac uned mân-anafiadau.  

 

          (dd)        Cadarnhaodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod trafodaethau cychwynnol wedi digwydd ac yn y broses o ddarparu rhaglen waith ar gyfer cynnal asesiad hygyrchredol yn nalgylch Ysbyty Alltwen (Argymhelliad (iv) yn Atodiad A). 

 

          Apeliodd y Pwyllgor Craffu i’r Adrannau perthnasol brysuo ymlaen a’r uchod cyn gynted ag sy’n bosibl yn wyneb y ffaith bod rhai trigolion wedi profi anhawsterau i gyrraedd Ysbyty Alltwen.

 

          (e)          O safbwynt argymhelliad (v) sef yr angen am gartrefi addas ar gyfer pobl hŷn yn cynnwys darpariaeth o dai gofal ychwanegol yn ardal Blaenau Ffestiniog, esboniodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod ystyriaeth adrannau ymarferol wedi eu cymeryd yn y gorffennol o ran ychwanegu darpariaeth o’r fath yn ardal Ffestiniog. Ers hynny mae amgylchiadau wedi newid ac efallai bod cyflëi i ail-edrych ar y sefyllfa fel rhan o’r adolygiad o anghenion tai ar draws y Sir gyfan.  Nodwyd bod yna fylchau i’w llenwi o ran cael y gymysgedd iawn o dai ar draws y Sir ac y byddai yr holl anghenion yn cael eu hystyried wrth flaenoriaethu buddsoddiad.  Ychwanegwyd bod y data ar gael gan y Bwrdd Iechyd o gleifion sydd yn disgwyl am gartrefi gofal, preswyl, nyrsio, a.y.b. ac efallai y byddai’n fuddiol i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a llesiant a’r Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin, Bwrdd Iechyd Prifygol Betsti Cadwaladr, drafod y ffordd ymlaen o’r wybodaeth gyfredol sydd ganddynt. Ychwanegodd Aelod yr angen i drafod hefyd gyda phartneriaid megis Cartrefi Cymunedol Gwynedd / Cynefin sydd yn awyddus i gyfrannu at y ddarpariaeth.

 

          Er gwybodaeth, nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod trafodaethau cychwynnol wedi digwydd gyda phartneriaiad yn y maes tai gan gynnwys y Bwrdd Iechyd ond bod llawer o waith i’w gyflawni ynglyn â buddsoddi ac union leoliadau.    

 

          (f)           O safbwynt argymhelliad (vi) yn yr Atodiad sef recriwtio staff gofal a iechyd, sicrhaodd y Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin, BIPBC, bod y mater dan sylw wedi symud ymlaen o ran recriwtio gweithwyr generig yn Ne Gwynedd sef ardaloedd Tywyn a Dolgellau.  Os yw’r model yn llwyddiannus hyderir y gellir ei ledaenu i ardaloedd eraill o fewn y Sir.  Fel rhan o’r model, Cyngor Gwynedd fydd yn cyflogi gyda’r gweithwyr gofal yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd ac yn ymgymryd a rhaglen hyfforddiant hyd at 6 mis i gael cymhwyster meddygol ar gyfer y swydd. Ar hyn o bryd, cyflogwyd 3 unigolyn a byddir yn monitro effeithlonrwydd y swyddi cyn ei ledaenu ymhellach. 

 

          Ategodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a llesiant bod recriwtio staff yn bryder difrifol  a bod angen meddylfryd gwahanol boed hyn yntai yn becynnau gwaith / cyflog, gan bod elfennau eraill megis hysbysebu / cydweithio gydag ysgolion / colegau wedi bod yn aflwyddiannus i ddenu mwy o weithwyr i’r maes gofal.  

 

          Penderfynwyd:            (a)        Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad a’r sylwadau uchod.

 

                                                (b)       Cymeradwyo’r argymhellion o fewn Atodiad A i’r adroddiad ac i weithredu fel a ganlyn:

 

          Argymhelliad (i)           -           bod y wybodaeth eisoes wedi ei rannu i Aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal.

 

Argymhelliad (ii):         -           gwahodd Cyngor Iechyd Cymuned i gynnal archwiliad annibynnol i ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog a darparu adroddiad ar y casgliadau, i gynnwys yr effaith o amddifadu’r ardal o welyau cleifion, colli’r cyfleusterau pelydr-x ac uned mân anafiadau.

 

Gofyn i Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rannu gwybodaeth a data o’r asesiad ôl brosiect mewn perthynas ag effeithiolrwydd y ddarpariaeth iechyd cyfredol (Canolfan Goffa) yn ardal Blaenau Ffestiniog.

 

Argymhelliad (iii)         -           I annog BIPBC i gyfathrebu’n rheolaidd ac effeithiol gyda thrigolion ardal Blaenau Ffestiniog mewn perthynas â monitro darpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau iechyd lleol.

 

          Argymhelliad (iv)         -           Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyno diweddariad o’r trafodaethau ynglyn ag asesiad o hwylustod a hygyrchedd gwasanaethau iechyd trwy gludiant cyhoeddus a chymunedol o fewn dalgylch Ysbyty Alltwen. 

 

          Argymhelliad (v)          -           Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyno diweddariad yn dilyn trafodaethau ynglyn â darpariaeth tai gofal ychwanegol.

 

          Argymhelliad (vi)         -           Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyno diweddariad ynglyn â recriwtio i gynnwys adborth ynglyn â model gweithwyr generig.

 

          Gofynnir i gyflwyno’r diweddariadau i’r Pwyllgor Craffu Gofal mewn perthynas ag argymhellion (iii) – (vi) ymhen 9 mis i 12 mis. 

 

Dogfennau ategol: