Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu rhai materion ariannol gan gynnwys adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 16 Ionawr 2018.

 

Nododd, ar y cyfan, roedd adolygiad trydydd chwarter o’r cyllidebau yn adlewyrchu rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor, ond roedd cyfuniad o gamau gweithredu pendant i’r Adrannau Addysg, Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol, i sicrhau rheolaeth o’u cyllidebau erbyn 31 Mawrth 2018.

 

Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2017) o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad / rheolaeth.

 

Penderfynwyd i gynaeafu (£270k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£12k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£803k) o ganlyniad i dderbyniad grant ac amgylchiadau ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, gan eu trosglwyddo i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r Cyngor, gydag elfen ohono ar gyfer digolledu effaith gorwariant posib ar gludiant tacsis ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn.”

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        Mewn cyd-destun, gwariant gros dros £5m, nid oedd y gorwariant o £198,000 o dan y pennawdArlwyaeth a Glanhauyn yr Adran Addysg yn swm enfawr. Roedd y Cyngor wedi penderfynu darganfod arbedion drwy godi pris prydau ysgol er mwyn cynyddu incwm, adlewyrchir yn y ffigyrau bod yr incwm yn llai na’r hyn a ragwelwyd yn hytrach na bod gorwariant;

·        O ran y gorwariant o dan y pennawdCludiantyn yr Adran Addysg:

Ø  Cynhaliwyd trafodaethau hefo’r Adran Addysg a’r Adran Amgylchedd o ran datrysiadau amgen yn hytrach na defnyddio tacsis i gludo disgyblion i ysgolion. Gan fod y gorwariant yn anochel fe drosglwyddir arian pontio i’r Adran Addysg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol;

Ø  Bod diffyg yn incwm gwerthiant tocynnau cludiant ôl-16, o ganlyniad i gost tocyn yn cynyddu roedd rhai disgyblion/myfyrwyr yn gwneud trefniadau amgen. Anfonir sylw aelod os oedd cyswllt rhwng y diffyg incwm â newid ym mholisi Cludiant ôl-16 y Cyngor i gyfradd unffurf am docyn, at y Pennaeth Addysg; 

·        Byddai’n rhaid i’r aelod gysylltu efo Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cadarnhad o ran i le y gwerthir deunydd ailgylchu. Eglurwyd bod y prisiau a dderbynnir am ddeunyddiau ailgylchu wedi gostwng yn sylweddol;

·        O ran y gorwariant o dan y pennawdLleoliadau All-Sirolyn yr Adran Plant a Theuluoedd, bod y Cyngor yn ceisio datrysiadau lleol ond bod rhai plant gydag anghenion mwy dwys angen eu lleoli mewn lleoliadau arbenigol. ‘Roedd yn faes lle’r oedd holl Gynghorau Gogledd Cymru yn gorwario gydag arbenigwyr yn y maes yn ystyried os gellir darparu cefnogaeth arbenigol ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.

Dogfennau ategol: