I dderbyn adroddiad gan Mr Samuel Hadley, Network Rail.
Cofnod:
Croesawyd Mr Sam
Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r cyfarfod ac fe adroddodd
ar y materion isod:
(a)
Tywydd eithafol - tynnwyd sylw at y cyfnod adfer arbennig
o sydyn wedi'r tywydd garw a gafwyd ar draws Cymru'r wythnos ddiwethaf, ac ar
ben hyn bu'n rhaid tynnu'r fflyd 175/1758 i ffwrdd dros dro oherwydd niwed i
olwynion. Roedd timau Network Rail a
Threnau Arriva Cymru wedi gweithio'n arwrol o Fôn i Fynwy yn mynd i'r afael
gydag ystod o effeithiau’r tywydd - o luwchfeydd 8 troedfedd o uchder i bibonwy
enfawr ar dwnnel Ffestiniog a phwyntiau a signalau wedi rhewi ar draws y
rhwydwaith.
Rhoddwyd teyrnged
arbennig i'r timau trac ac i ffwrdd o'r trac, oedd yn gweithio o Ddepo
Machynlleth. Roeddent wedi gweithio yn
ddiflino ar ddydd Iau / dydd Gwener ac yna wedyn dros y penwythnos yn
archwilio'r pwyntiau, yn profi'r llwybr ac yn helpu i glirio'r llwybr mynediad
i Orsaf Machynlleth ac mewn mannau eraill.
Nodwyd ymhellach
fod 25 o goed wedi cwympo ar y llwybr rhwng Cyffordd Dyfi a Phwllheli yn
unig. Derbyniodd Network Rail ymateb
ardderchog gan y cyhoedd yn ystod y tywydd garw.
Talodd swyddogion
ac aelodau'r Gynhadledd deyrnged arbennig gan ddiolch i staff rheng-flaen am eu
hymdrechion anhygoel a'u gwaith caled dan amgylchiadau anodd iawn.
(b)
Cynllun Busnes Strategol
Tynnwyd sylw’r aelodau at y ffaith fod
Network Rail wedi cyhoeddi ei gynllun busnes strategol cyntaf ar gyfer llwybr
datganoledig Cymru a'r Gororau mis diwethaf. Roedd hon yn ddogfen allweddol o
ran ariannu ar gyfer y cyfnod contract nesaf.
Roedd yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar weithrediadau, cynnal a chadw ac
adnewyddu - y rheilffordd 'sefydlog' gan y bydd gwelliannau yn awr yn cael eu
hystyried ar wahân. O ran diddordeb
lleol, nid oedd y cynllun yn cynnwys ailwampio £20m+ i Draphont Abermaw, fel
rhan o'r cyfanswm ariannu o £1.3b.
Dyma'r tro cyntaf y bydd Llwybr datganoledig Cymru yn derbyn ei setliad
ariannol ei hun wedi'i reoleiddio a chred Network Rail ei fod wedi datblygu
cynllun cryf. Yn ddiweddar, cwblhawyd
yr olaf o'r cyfarfodydd ffurfiol gyda'r rheoleiddiwr, Swyddfa Rheilffyrdd a
Ffyrdd, a hyderir y bydd setliad llawn y bid a gyflwynwyd yn cael ei dderbyn
fel rhan o'r cynllun.
Roedd hefyd wedi
bod yn bwysig cael cefnogaeth gref Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru oedd
â rhan agos yn natblygiad y cynllun uchod.
Trwy sefyll gyda'r gweithwyr allweddol a'r rhanddeiliaid cred Network
Rail fod ganddynt setliad ardderchog i Gymru a'r Gororau.
Anfonwyd copi o’r
crynodeb at y Swyddog Cefnogi Aelodau a bydd hithau yn ei thro yn anfon copi
ymlaen at aelodau'r Pwyllgor.
(c)
Diweddariad ar
brosiectau lleol allweddol
·
Roedd gorsaf Penhelyg
wedi bod ar gau am nifer o fisoedd i alluogi Network Rail i ail-adeiladu'r holl
blatfform. Nodwyd fod y gwaith yn mynd
rhagddo'n dda iawn ac yn ôl yr amserlen, fel y gallai'r orsaf ail-agor ar y 1af
o Ebrill.
·
Gorsaf Tywyn - Darperir
cynllun i wella'r platfform gan fod rhan o'r hen blatfform pren sydd wedi breuo
wedi ei gau i deithwyr, ond bydd yr orsaf yn parhau yn agored yn ystod y
gwaith.
·
Gwaith mawr i adnewyddu
trac sydd yn brosiect £7.25m fydd yn gweld hyd at 6km o'r trac yn cael ei
adnewyddu rhwng Talerddig a Chaersws.
Bydd yr hen gledrau cymalog yn cael eu newid gyda chledrau newydd
asiedig fydd yn gostwng y sŵn i'r rhai sy'n byw ger y rheilffordd a rhoi
gwell taith i'r teithwyr. Mae hyn hefyd
yn cadw'r costau cynnal a chadw i lawr dros y tymor hirach ac yn rhan o
strategaeth hirdymor Network Rail i newid y cledrau cymalog ar Lein y Cambrian.
·
Roedd prosiectau eraill
yn cynnwys Netin Creigiau Aberdyfi; adnewyddu pont afon Artro ac wrth gwrs
traphont Abermaw.
I gloi, dywedodd
Mr Hadley fod Network Rail yn ymroddedig i ddyfodol hirdymor a thwf Rheilffordd
y Cambrian a Rheilffordd Arfordir y Cambrian.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nododd yr aelodau'r materion isod:
(i)
Pryder bod 5 set o oleuadau traffig (3 ohonynt yn gyfrifoldeb
Network Rail) ar ran 6 milltir o ffordd yn Aberdyfi ac roedd yr aelod lleol
wedi derbyn cwynion gan yrwyr ambiwlans yn ogystal â gyrwyr bysiau lleol
oherwydd yr anghyfleustra yn enwedig gyda'r Pasg ar y gorwel pan fyddai'r
ffyrdd ac Aberdyfi yn brysur iawn.
I ateb yr uchod,
dywedodd Mr Hadley y byddai'n siarad gyda Rheolwr y Tîm Prosiect gan adrodd yn
ôl maes o law i'r Cynghorydd Dewi Owen.
(ii)
Adroddwyd fod Aberdyfi wedi dod yn boblogaidd iawn
gyda theithwyr o ardal Porthmadog.
Dywedodd yr Aelod Lleol fod gwasanaeth tacsi ar gael o Benhelyg i'r brif
orsaf drenau.
(iii)
Oherwydd nifer y coed oedd wedi cwympo ar hyn lein
y rheilffordd, gofynnwyd a ddylid cynnal arolwg o'r coed cyn unrhyw dywydd
eithafol.
Atebodd Mr Hadley
gan ddweud fod Network Rail yn cynnal arolygon rheolaidd ond roedd rhai o'r
coed oedd wedi cwympo ar dir trydydd parti.
Er y gwerthfawrogwyd y gellid gwneud mwy o safbwynt hyn, dywedwyd mai
dim ond rhwng mis Medi a Mawrth y gellid ymgymryd â'r gwaith.
Os oedd
contractwyr coed lleol yn yr ardal, cytunodd Mr Sam Hadley i anfon y manylion
i'r Tîm Caffael i gyfeirio atynt yn y dyfodol.
(iv)
I ateb cwestiwn gan
aelod lleol am Faes Parcio Dyffryn Ardudwy, addawodd Mr Hadley y byddai'n holi
i weld beth oedd y sefyllfa ddiweddaraf.
Penderfynwyd - Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch
i’r swyddog amdano ac am fynychu'r cyfarfod.