I dderbyn adroddiad gan Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian.
Cofnod:
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Claire
Williams, Swyddog Parterniaeth Rheilffyrdd y Cambrian, i'w chyfarfod cyntaf o'r
pwyllgor hwn.
Amlinellodd y gweithgareddau wnaed ers y
cyfarfod blaenorol sef:
(a)
Gwella
cysylltiadau gyda chymunedau lleol a'u rheilffordd
Roedd
gwaith cymunedol ac ymgysylltu yn parhau gyda Threnau Arriva Cymru a Network
Rail. Yn ddiweddar, cynhaliwyd cystadleuaeth diogelwch croesfannau rheilffordd
gydag Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, Ysgol y Traeth, Abermaw ac Ysgol
Tan y Castell, Harlech, fel rhan o'r bartneriaeth gyda Network Rail i newid
ffordd o feddwl pobl ifanc am bwysigrwydd croesfannau rheilffordd ac i ddangos
iddynt y peryglon o beidio eu defnyddio'n gywir.
Cafodd y buddugol a'r ddau oedd yn ail
docynnau teulu rhad ac am ddim i weld Siôn Corn ar Reilffordd yr Ucheldir a
Ffestiniog a thocynnau gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a Chyngor
Llyfrau Cymru.
(b) Gwelliannau
parhaus a datblygiad gwasanaethau rheilffordd a seilwaith presennol
Cynhelir
cyfarfodydd rhanddeiliaid allweddol bob mis i ddatblygu Bow Street, gyda
chadeirydd SARLC hefyd yn mynychu'r cyfarfodydd hyn. Yn ddiweddar, gofynnwyd i Swyddog
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian gan Lywodraeth Cymru a Network Rail i
arwain elfen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y prosiect. Byddai'r cynlluniau yn mynd allan i
ymgynghoriad cyn bo hir ac ar hyn o bryd roeddent yn gweithio gyda nifer
sylweddol o grwpiau anabledd a chydraddoldeb i sicrhau nad oes gan y cynlluniau
effaith andwyol ar ddefnyddwyr gwasanaeth.
(c) Cynhyrchu
amserlen benodol i lein leol
Mae amserlen boced Rhagfyr 2017 - Mai 2018 wedi ei
chynhyrchu a'i dosbarthu i'r Canolfannau Croeso perthnasol, gorsafoedd a mannau
gwerthu perthnasol eraill. Bydd Swyddog
Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian hefyd yn gweithio'n agos gyda TAC ar unrhyw
newidiadau i amserlen Mai 2018 - Rhagfyr 2018.
(d) Arolygon
Roedd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn falch
o gael gweithio gyda Phwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth gan
gomisiynu arolwg a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2017 fel rhan o'r grant gan
Lywodraeth Cymru. Mae'r arolygon yn
dilyn llwyddiant arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r
Cambrian. Cyflwynwyd canlyniadau'r
arolwg i Gareth Evans, Economegydd Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru ynghyd â
swyddogion eraill LlC, gan y Pwyllgor ar Dachwedd 17eg 2017 mewn cyfarfod ym
Mharc Cathays. Wedyn fe rannwyd yr
wybodaeth yma i'r rhai fyddai'n gwneud bid am y fasnachfraint fel gwybodaeth
gefnogol ar gyfer eu bid olaf, yr oedd yn rhaid ei gyflwyno i LlC a Thrafnidiaeth
Cymru.
(e) Ymgyrch
Hyrwyddo 2018/19
Roedd y SDRh hefyd wedi cytuno gyda'r bartneriaeth
er mwyn gwneud y defnydd gorau o thema 'Blwyddyn y Môr 2018' Croeso Cymru, y
byddai'n syniad da estyn gwahoddiad i dendro i greu a rheoli ymgyrch cyfryngau
cymdeithasol Blwyddyn y Môr ynghyd â pharhau i reoli a chynnal gwefan newydd
'Cymru ar Gledrau'. Anfonwyd y gwahoddiad ym mis Rhagfyr er mwyn derbyn ymateb
erbyn canol Ionawr. Dyfarnwyd y contract
i Equinox Communications yng Nghaerdydd, sydd eisoes wedi dechrau gwneud
newidiadau sylweddol a gwella'r wefan a'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol,
gyda'r wefan newydd http://www.walesonrails.com a ddylai fynd yn 'fyw' yng nghanol mis Mawrth yn
barod ar gyfer y Pasg. Cafodd yr
aelodau gyfle i weld y wefan yn y cyfarfod.
(f) Adroddiadau a Chyfarfodydd
Dywedodd
Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ei bod hefyd yn mynychu nifer o gyfarfodydd
cynghorau tref i godi proffil y bwriad o wneud Lein Rheilffordd y Cambrian yn
Gymuned Ddementia Gyfeillgar ei hun.
Roedd nifer o drefi fel Machynlleth, Y Trallwm, Porthmadog a'r Drenewydd
eisoes yn gymunedau Dementia Gyfeillgar ac yn awr am ychwanegu teithio at eu
cynlluniau gweithredu ac roedd hi a'r Cydlynydd Cymunedau Dementia Gyfeillgar
yn eu helpu i gael y statws yma i'w gorsafoedd.
Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru hefyd wedi gofyn am gymorth o
ran arfer dda a sut i wneud eu hunain yn sefydliad dementia gyfeillgar.
Nodwyd ymhellach mai'r gobaith oedd trefnu i
grwpiau bach gyda dementia i ymgysylltu gyda phlant mewn amryfal
ddigwyddiadau.
(g) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y
materion isod:
(i) Croesawodd y Cadeirydd y cydweithio gyda
chymunedau yn arbennig helpu'r bobl hynny oedd yn dioddef o ddementia a
gofynnwyd i Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian i anfon manylion unrhyw
ddigwyddiadau at y Swyddog Cefnogi Aelodau iddi hithau eu hanfon ymlaen i'r
aelodau iddynt roi cyhoeddusrwydd i'r digwyddiadau yn eu wardiau.
(ii) Roedd hi hefyd yn galonogol nodi bod gwaith yn digwydd gydag ysgolion am
groesfannau rheilffordd. Wrth ymateb,
dywedodd Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ei bod ar hyn o bryd yn
gweithio ar brosiect i groesfannau rheilffordd drwy greu dau fideo, un ar gyfer
ymwelwyr a'r llall i deuluoedd ifanc, a hyderir y byddant wedi eu cwblhau erbyn
diwedd Mawrth gan wedyn eu dosbarthu i'r ysgolion. Byddai hyd y fideo tua dau funud a byddai gofyn
iddynt wylio ac arwyddo y byddant yn glynu at ofynion croesfannau
rheilffordd.
(iii) Llongyfarchwyd Swyddog Rheilffyrdd
Partneriaeth y Cambrian ar ei gwaith i gael mwy o deithwyr i ddefnyddio'r
rheilffordd. Er hynny, roedd angen mwy o
gerbydau h.y. 4 cerbyd ar y lein, yn
arbennig yn ystod y gwyliau.
Atebodd Mr Ben Davies (Trenau Arriva Cymru) a
chytunodd bod angen mwy o gerbydau ond dywedodd fod diffyg stoc o drenau yn y
DU ac roedd y cwmni yn gorfod dibynnu ar raeadru'r stoc. Yr haf yma bydd yn bosib rhaeadru cerbydau
i Lein y Cambrian gyda'r posibilrwydd o weld trenau 4 cerbyd ar y lein. Nodwyd ymhellach fod hyn yn fater roedd angen
i'r fasnachfraint newydd ymchwilio iddo ac y dylid lobio Llywodraeth
Cymru. Nid oedd diffyg staff a gyrwyr yn
broblem yn awr.
(iv) Roedd y cynnig dau docyn am bris un gyda
CADW yn syniad ardderchog ac anogwyd y dylid hysbysebu hyn yn eang yn y
cymunedau, mewn gwersyllfaoedd lleol, gwestai ac ati.
(i)
O ran y wefan newydd, awgrymwyd y byddai’n fanteisiol nid yn unig i gael
dolen ar gyfer mannau i aros ond hefyd i wasanaethau tacsi lleol. Roedd llawer mwy o bobl yn defnyddio'r trên
ond roedd rhai teithwyr yn cael trafferth i fynd ymhellach oherwydd bod
gwasanaethau bws wedi eu colli yn yr ardal.
Atebodd Mr Ben Davies drwy ddweud ei fod yn gweithio'n agos gyda Rheolwr
TrawsCymru i geisio cysylltu mwy o drenau gyda'r bysiau ond roedd llawer o
gyfyngiadau h.y. contract i sicrhau fod plant ysgol yn cyrraedd Ysgol Ardudwy
ar amser.
Penderfynwyd - Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch i Swyddog Rheilffyrdd
Partneriaeth y Cambrian amdano.