Cyflwyno
adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Louise Hughes
Cofnod:
Nododd Uwch Swyddog
Hawliau Tramwy (Arfon) oherwydd diddordeb lleol yn yr eitem yr argymhellir
gohirio er mwyn ei ystyried yn y cyfarfod nesaf a oedd i’w gynnal yn Nolgellau
ar 26 Chwefror.
Nododd yr aelod lleol ei bod yn gefnogol i
ohirio’r eitem oherwydd y diddordeb yn lleol ac y byddai’n well ei ystyried pan
gynhelir y cyfarfod yn Nolgellau.
Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r eitem.
Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd.
Awgrymodd aelod y dylid cynnal ymweliad
safle. Holodd yr Uwch Gyfreithiwr ar ba sail yr awgrymir cynnal ymweliad safle
o ystyried bod tystiolaeth ysgrifenedig a lluniau o arwyddion yn y lleoliad
wedi eu cynnwys yn y rhaglen. Pwysleisiodd mai ystyriaeth i dystiolaeth o ran
defnydd o’r llwybr neu o atal defnydd y gwneir wrth drafod cais o’r fath.
Cynigwyd ac eiliwyd i
gynnal ymweliad safle er mwyn gweld y safle yn ei gyd-destun. Pleidleisiwyd ar
y cynnig, fe syrthiodd y cynnig.
Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod yng nghyswllt os oedd mwy o wybodaeth ar gael o ran y cais, nododd yr
Uwch Gyfreithiwr os oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiwn o ran y cais y dylent
gysylltu efo Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Arfon) ac y gallent ofyn am weld
gwybodaeth ychwanegol.
PENDERFYNWYD gohirio’r eitem.
Dogfennau ategol: