Agenda item
Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi tri thŷ, un ohonynt yn fforddiadwy, ynghyd â mynedfa gerbydol, mynedfeydd troed a lle parcio i hyd at 9 cerbyd. Dymchwel storfa bresennol a rhoi adeilad newydd yn ei le i gynnwys storfeydd. (cais diwygiedig i gais a wrthodwyd yn flaenorol - C16/1235/20/AM)
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith
Cofnod:
Cais
amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi tri thŷ, un
ohonynt yn fforddiadwy, ynghyd â mynedfa gerbydol, mynedfeydd troed a lle
parcio i hyd at 9 cerbyd. Dymchwel storfa bresennol a rhoi adeilad newydd yn ei
le i gynnwys storfeydd. (Cais diwygiedig i gais a wrthodwyd yn flaenorol -
C16/1235/20/AM).
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi yn ôl
y fersiwn cyfredol o'r Mapiau Cyngor
Datblygu (diweddarir y mapiau yn chwarterol),
saif rhan blaen y safle o fewn Parth Llifogydd
C2. Nododd bod Nodyn Cyngor Technegol 15 “Datblygu a’r Perygl
o Lifogydd” (NCT 15) yn ei wneud yn
eglur ni
ddylid ystyried caniatáu datblygiadau agored iawn i
niwed o fewn Parth C2. Eglurodd bod "datblygiadau sy'n agored iawn i
niwed" yn cynnwys pob math o adeilad preswyl.
Amlygodd bod penderfyniadau apêl blaenorol, gan gynnwys llythyr
penderfyniad gan Weinidog Cyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru, yn ei
wneud yn gwbl glir na ddylid caniatáu datblygiadau sy'n agored iawn
i niwed o fewn Parth C2. Ystyrir felly nad
oedd unrhyw opsiwn ond gwrthod
y cais hwn gan fod y datblygiad
yn gwbl groes
i ofynion NCT 15.
Nododd bod Polisi ARNA 1: Ardal Rheoli Newid Arfordirol, y CDLl yn datgan y gwrthodir cynigion am dai newydd o fewn yr
Ardal Rheoli Newid Arfordirol (ARhNA). Tynnodd sylw
bod y safle o fewn ardal dan fygythiad llifogydd morol ger arfordir a'i cofrestrir
fel ARhNA, felly yn unol â Pholisi ARNA 1 y CDLl, roedd rhaid gwrthod y cais.
Amlygodd bod pryderon o ran y dyluniad yn ogystal â materion priffyrdd o
safbwynt parcio a mynediad dros ramp serth yn arwain yn syth dros y palmant a
oedd yn mynd heibio’r safle.
Nododd wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a
chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, ni chredir fod y
bwriad yn dderbyniol gan ei fod yn methu bodloni gofynion sylfaenol polisi
cynllunio cenedlaethol a lleol yn benodol yn ymwneud efo llifogydd ond hefyd o
ran trafnidiaeth a dylunio.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y safle eisoes yn ddefnydd
cymysg o fusnesau a anedd-dŷ;
·
Byddai’r bwriad yn gwneud
defnydd o dir llwyd;
·
Bod y ddarpariaeth parcio ar
lefel uchel gyda ramp a llwybr dianc i’r trigolion pe byddai llifogydd
eithafol;
·
Bod y mesuriadau a nodwyd ym
mharagraff 1.2 o’r adroddiad yn anghywir, fe fyddai lloriau’r tai wedi’u codi
2.52m yn uwch na lefel Ffordd Glan y Môr i lefel o 6.22m Uwch Ddatwm Ordnans;
·
Dim ond blaen y safle oedd tu
mewn i Barth Llifogydd C2, sef llai na 20% o arwynebedd y safle. Mynediad o’r
ffordd fawr i’r safle yn unig yr effeithir;
·
Bod y bwriad yn dderbyniol o
ran Polisi ISA 4 o’r CDLl yn ddarostyngedig i
drafodaethau pellach ar y drychiadau a materion trafnidiaeth;
·
Bod angen pwyso a mesur
geiriad polisi o ran llifogydd yn erbyn realiti'r bwriad hwn o ystyried mai ond
mynediad i’r safle a effeithir;
·
Byddai nifer o dai ac eiddo yn
Felinheli o dan ddŵr cyn y safle hwn.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Fyddai’n bosib derbyn eglurhad
o ran yr asiant yn gwrthbrofi polisi?
·
Fyddai’n bosib gweld darlun
gwell o’r dyluniad?
·
A ellir darparu mynediad arall i’r safle
o’r cefn?
·
Pryder o ran faint o ddŵr
a fyddai’n cronni yn y fynedfa gan
olygu na
fyddai gwasanaethau brys yn cael
mynediad i’r safle.
(ch)
Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:
·
Cydnabod
sylwadau’r asiant yng nghyswllt paragraff 1.2, os oedd yr hyn a nodir yn yr
adroddiad yn anghywir ni fyddai’n newid y sefyllfa. Roedd yn hynod o bwysig bod
mynediad i mewn ac o’r safle mewn adeg o argyfwng;
·
Bod Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC) yn nodi bod y math yma o ddatblygiad yn hynod ddiamddiffyn
ac na ddylai datblygiadau o’r fath gael eu caniatáu o fewn Parth Llifogydd C2.
Nid oedd CNC yn nodi gwrthwynebiad ar sail llifogydd gan mai mater polisi i
swyddogion cynllunio ydoedd;
·
Bod apêl ar safle
gyferbyn a thafarn y Garddfôn wedi ei wrthod ar sail
bod y fynedfa o fewn Parth Llifogydd C2;
·
Ei fod yn fater o
egwyddor, byddai modd goresgyn materion o ran dyluniad ond nid oedd y swyddogion
wedi cysylltu efo’r ymgeisydd i drafod yr agwedd yma oherwydd bod y bwriad yn
erbyn egwyddor;
·
O ran priffyrdd,
roedd yr Uned Drafnidiaeth wedi codi pryder am elfennau o’r cais ac wedi gofyn
am fwy o wybodaeth ond oherwydd materion llifogydd, na ellir eu goresgyn, nid
oedd y swyddogion cynllunio wedi cysylltu efo’r asiant;
·
Bod cefn y safle,
sef llwybr cyn-rheilffordd Caernarfon-Bangor, ar lethr a thybir nad oedd y tir
ym mherchnogaeth yr ymgeisydd. Nid oedd yn ymarferol neu bosib i gael mynedfa
arall;
·
Bod y risg llifogydd yn
annerbyniol o ran unrhyw ddefnydd anheddol ar y safle. Nid oedd y safle i gyd o
fewn Parth Llifogydd C2 ond roedd y rhan allweddol sef y fynedfa o fewn y
parth.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rheswm:
Fe fyddai datblygiad anheddol ar y safle hwn yn groes i’r cyfarwyddyd a roddir yn NCT 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd gan fod safle’r datblygiad yn rhannol o fewn parth llifogydd C2 fel y’i hadnabyddir gan y “Mapiau Cyngor ar Ddatblygu” a gynhyrchir gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae Parth Llifogydd C2 yn ardal lle cydnabyddir bod risg llifogydd ac felly mae’r cais yn groes i Bolisi PS6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sy’n datgan y dylid lleoli datblygiadau newydd i ffwrdd o ardaloedd lle mae risg llifogydd. Yn ogystal fe adnabyddir yr arfordir gerllaw fel Ardal Rheoli Newid Arfordirol yng Nghynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru ac felly fe fyddai unrhyw ddatblygiad anheddol ar y safle yn groes i Bolisi ARNA 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Dogfennau ategol: