Agenda item

Addasu adeilad allanol i uned wyliau (cynllun diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gais rhif C17/0945/14/LL).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Addasu adeilad allanol i uned wyliau (cynllun diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gais rhif C17/0945/14/LL).

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer addasu adeilad allanol i lety gwyliau ynghyd â chodi porth ar edrychiad gorllewinol yr adeilad a chodi crib y to 500mm yn uwch na’r crib presennol.

 

         Nododd y lleolir yr anheddau agosaf i’r safle oddeutu 66m i’r de ar hyd ffordd sirol ddi-ddosbarth Ffordd Cae Garw. Er bod deiseb wedi ei gyflwyno yn gwrthwynebu’r cais ar sail byddai’r bwriad yn debygol o danseilio lles y gymuned gan ystyried dwysedd, defnydd, natur a graddfa’r bwriad credir na fyddai’n tarfu’n sylweddol ar fwynderau presennol a chyffredinol deiliaid cyfagos ar sail aflonyddwch sŵn a cholli preifatrwydd gan ystyried mai un uned wyliau yn unig fwriedir ei ddarparu.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei bod wedi gwybyddu trigolion cyfagos o’r cais o flaen llaw;

·         Nid oedd 59% o’r unigolion a arwyddodd y ddeiseb a gyflwynwyd yn byw ar Ffordd Cae Garw felly ni fyddent yn cael eu heffeithio;

·         Un uned gwyliau 2 ystafell wely ar gyfer 4 person yn unig fyddai;

·         Bwriedir cadw cymeriad yr eiddo presennol;

·         Ni fyddai’r datblygiad yn cael effaith ar Ffordd Cae Garw.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Teulu ifanc eisio datblygu adeilad a fyddai’n cyfrannu at yr economi lleol;

·         Trigolion hŷn yn gwrthwynebu ar sail yr effaith ar y gymuned yn gyffredinol. Gyda phryderon y byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail;

·         Nid oedd yn gwrthwynebu’r cais os byddai’r bwriad yn cyd-fynd â’r amodau a argymhellir.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y bwriad yn dderbyniol oherwydd y byddai’n gwneud defnydd o adeilad amaethyddol diddefnydd. Nid oedd angen i drigolion bryderu am y datblygiad yn gosod cynsail;

·         Byddai’r bwriad yn ychwanegu i’r ardal a’r economi yn ogystal â thynnu’r pwysau yn yr ardal o ran tai haf;

·         Byddai’r effaith ar drigolion yn isel;

·         Bod yr adeilad yn cael ei ddatblygu’n sensitif gyda defnydd da o’r adeilad;

·         Ei fod yn drist na ellir caniatáu ceisiadau i drosi adeiladau amaethyddol yn dai ar gyfer pobl lleol yn hytrach na unedau gwyliau yn unig.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau

3.     Llechi naturiol.

4.     Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr o’r ymwelwyr.

5.     Cwblhau’r gwaith yn unol gyda'r mesurau lliniaru sydd wedi eu cynnwys yn rhan 5.1 a 5.2 Mesuriadau Lliniaru a Gwelliannau Arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig Green Man Ecology dyddiedig 19 Awst, 2017.

6.     Amod cydymffurfio gyda Safonau Prydeinig parthed addasrwydd yr offer trin carthion preifat presennol.

7.    Amod tynnu hawliau a ganiateir parthed estyniadau.

Dogfennau ategol: