Cyflwyno’r
datganiadau ariannol statudol ar gyfer
2014/15.
a) Cyflwyno’r
datganiadau ariannol statudol diwygiedig gan y Pennaeth Cyllid am gymeradwyaeth y pwyllgor (copi yma – papur
gwyn)
b)(i) Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol
am lywodraethu” gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddatganiadau
Cyfrifon 2014/15 Cyngor
Gwynedd (copi yma – papur llwyd)
b)(ii) Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth
Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ar ran y Pwyllgor Archwilio, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Cyngor (copi yma fel
Atodiad 1 i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru sy’n (b)(i) uchod)
c)(i) Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol
am lywodraethu” gan Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddatganiadau
Cyfrifon 2014/15 y Gronfa Bensiwn (copi yma – papur lelog)
c)(ii) Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” ar ran y Pwyllgor Archwilio, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Gronfa Bensiwn (copi yma fel Atodiad 1 i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru sy’n (c)(i) uchod).
Cofnod:
i) Datganiad o’r Cyfrifon
Cyflwynodd
y Pennaeth Cyllid y datganiadau ariannol statudol diwygiedig am
gymeradwyaeth y pwyllgor. Nododd fod Atodiad 3 yn yr
adroddiadau sy’n dilyn gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn nodi’r prif
newidiadau yn y cyfrifon ers cyflwynwyd y fersiwn cyn-archwiliad i gyfarfod 16
Gorffennaf o’r Pwyllgor.
ii) Adroddiad yr Archwilydd
Penodedig ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol
a) Cyfrifon y Cyngor
Yn unol
â’r drefn Archwilio Flynyddol, sef adroddiad yr Archwilydd Penodedig i’r rhai
sy’n llywodraethu, cyflwynwyd adroddiad SAC. ‘Roedd
Arweinydd Ymgysylltu a Rheolwr Lleol, SAC, yn bresennol i gyflwyno’r wybodaeth.
Nodwyd
bod SAC yn gyfrifol am gynnal archwiliad ar ran yr
Archwilydd Cyffredinol ac adrodd os ydynt o’r farn bod yr adroddiadau’n
cyflwyno’r sefyllfa ariannol yn gywir a theg ar ddiwedd blwyddyn. Adroddwyd bod
yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar
gyfrifon Cyngor Gwynedd am 2014/15.
Nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan gynrychiolwyr SAC:
·
Y byddai oedi cyn ardystio’r cyfrifon gan fod aelod
o’r cyhoedd wedi lleisio gwrthwynebiad i’r cyfrifon yn ymwneud â gwariant
Asiantaeth Cefnffyrdd. O ganlyniad, ni allai SAC
gwblhau eu cyfrifoldebau archwilio yn ffurfiol na chyflwyno tystysgrif i gau’r
archwiliad cyn bod y mater wedi ei gyfarch.
·
Yng nghyswllt camddatganiadau na gywirwyd, bod SAC
wedi adnabod gorddatganiad o £825,000 yn y darpariaethau, sef:
Ø Darpariaeth o
£490,000 ar gyfer y golled o ran y dreth Gyngor yn y dyfodol o ganlyniad i
ddeiliaid tai ag eiddo sydd ddim yn llawn drwy gydol y
flwyddyn yn newid i Ardreth Annomestig Genedlaethol.
Ø Darpariaeth o
£335,000 i gyfrannu tuag at y diffyg sy’n bodoli o ran pensiwn.
Ø Er bod
rhwymedigaeth wedi’i wneud yn y gorffennol mewn perthynas â’r costau hyn, nid
yw’n briodol cael darpariaeth yn y cyfrifon gan fod y rhwymedigaeth eisoes
wedi’i adlewyrchu yn y cyfrifon yn sgil Safon Gyfrifyddu Ryngwladol 19 -
Buddiannau Gweithwyr (IAS19).
·
Nodwyd er y gwerthfawrogir mai doeth yw
neilltuo’r cyllid mewn termau cyllidebol, nid ydynt yn cydymffurfio â’r
diffiniad o “ddarpariaethau” o safbwynt cyfrifyddu technegol ac y byddai’n fwy
priodol i’r symiau hyn gael eu neilltuo fel cronfeydd
wrth gefn wedi’u clustnodi.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod nododd
y Pennaeth Cyllid:
·
Nid oedd o’r farn bod
gwrthwynebiad yr aelod o’r cyhoedd yn ymwneud yn uniongyrchol efo’r cyfrifon am
2014/15;
·
Yng nghyswllt y gorddatganiadau, mai dau fater
cyfrifyddu technegol oedd dan sylw. Neilltuwyd dwy gronfa yn ddarbodus, ond bod
yr archwiliwr yn awgrymu na ddylid eu trin fel
darpariaethau. Nodwyd bod sail i fedru ystyried arian
a neilltuwyd naill ai fel darpariaethau neu fel cronfeydd, ond byddai’n
ail-ystyried y drefn erbyn 2015/16.
Mewn ymateb i
sylwadau gan aelodau parthed y ddarpariaeth o ran Treth Cyngor, cadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid bod Ymchwiliad Craffu ar y gweill yng nghyswllt Tai Gwyliau a
Threthi.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, nodwyd bod y rhagdybiaethau a dull cyfrifo’r diffyg pensiwn
hanesyddol wedi newid, gyda chyfraniad o swm penodol yn hytrach na chanran o gyflog. Adroddwyd nad oedd y nifer swyddi wedi
gostwng gymaint a ragwelwyd yn 2014-15, felly bod mwy o arian wedi’i neilltuo,
ond oherwydd yr hinsawdd ariannol rhagwelir lleihad yn y nifer swyddi mewn
blynyddoedd dilynol, felly roedd yn ddarbodus i glustnodi’r arian perthnasol.
b) Cyfrifon Cronfa Bensiwn
Gwynedd
Adroddodd Rheolwr Lleol Swyddfa Archwilio Cymru bod y Cyngor yn gyfrifol
am baratoi datganiadau ariannol i gyflwyno sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn
Gwynedd fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2015.
Nododd bod SAC yn
gyfrifol am gynnal archwiliad ac adrodd os ydynt o’r farn bod yr adroddiadau’n
cyflwyno’r sefyllfa ariannol y Gronfa Bensiwn yn gywir a theg ar ddiwedd
blwyddyn.
Hysbysodd bod yr Archwilydd
Penodedig yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon Cronfa Bensiwn
Gwynedd am 2014/15.
Nodwyd y prif
sylwadau canlynol gan Reolwr Lleol Swyddfa Archwilio Cymru:
·
Yng nghyswllt camddatganiadau na gywirwyd, bod SAC
wedi adnabod bod buddion marwolaethau a lwmp symiau eraill wedi eu tan ddatgan
o £119,000 gyda dau daliad mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2014/15 wedi eu
cyfrifyddu o dan 2015/16. Ychwanegodd mai mater bach ydoedd, ond bod dyletswydd
ar SAC i dynnu sylw i’r mater.
·
Nad oedd y Gronfa Bensiwn wedi diweddaru ei
Ddatganiad o Egwyddorion Buddsoddi Ysgrifenedig (SIP) yn unol â’r amserlen
adolygu o bob tair blynedd.
·
Er yr adroddir ar wahân ar gyfrifon y Cyngor a
chyfrifon y Gronfa Bensiwn, un dystysgrif y cyflwynir.
Nododd na allai’r Archwilydd Cyffredinol rhyddhau
tystysgrif nes y bydd ymholiadau sy’n codi o wrthwynebiad a godwyd gan aelod
o’r cyhoedd wedi ei gwblhau’n ffurfiol.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod nododd y Pennaeth Cyllid:
·
Bod y tan ddatganiad yn
swm cymharol fychan o ystyried gwerth £1,400,000,000 y Gronfa Bensiwn, felly ni ystyrir bod angen ei gywiro.
·
Byddai’r Pwyllgor Pensiynau yn adolygu’r Datganiad
o Egwyddorion Buddsoddi a chynhelir ymgynghoriad arno
yn 2015/16.
Diolchodd
Arweinydd Ymgysylltu Swyddfa Archwilio Cymru am y cydweithio dros y blynyddoedd
o ran archwilio’r cyfrifon gyda chyfnod SAC o’u harchwilio yn dod i ben. Ychwanegodd bod ansawdd y
cyfrifon wedi hwyluso’r archwiliadau dros y blynyddoedd.
Nododd
y Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid eu gwerthfawrogiad o waith archwilwyr SAC dros
y blynyddoedd.
Eglurwyd
bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynnu dyrannu’r gwaith o archwilio’r
cyfrifon i gwmni Deloitte. Nodwyd nad oedd gan y
Cyngor wrthwynebiad technegol i’r newid ond eu bod wedi pwysleisio i’r Archwilydd
Cyffredinol gan mai Cymraeg yw iaith gweinyddiaeth mewnol y Cyngor y byddai
rhaid i’r cwmni ymdopi â hyn.
Nododd aelod y
dylid anfon llythyr at yr Archwilydd Cyffredinol i ddiolch am waith a
chydweithrediad swyddogion SAC dros y blynyddoedd yng nghyswllt archwilio’r
cyfrifon.
PENDERFYNWYD:
(i)
bod y Pwyllgor Archwilio, gyda’r grym a ddirprwywyd
gan y Cyngor i fod “y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” yng nghyswllt
cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol a’r archwiliad perthnasol, yn
cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig, yn derbyn adroddiadau
perthnasol Swyddfa Archwilio Cymru, ac yn awdurdodi’r Pennaeth Cyllid a
Chadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r “llythyrau cynrychiolaeth” a’u cyflwyno i
Archwilydd Penodedig Swyddfa Archwilio Cymru.
(ii)
y dylid anfon
llythyr at yr Archwilydd Cyffredinol i ddiolch am waith a chydweithrediad
swyddogion SAC dros y blynyddoedd yng nghyswllt archwilio’r cyfrifon.
Dogfennau ategol: