skip to main content

Agenda item

I dderbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Cyllid ar yr uchod. 

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod gan y Pennaeth Cyllid yn amlinellu gwybodaeth ynglŷn â chyllideb 2018/19.

 

Adroddodd yr Aelod Cabinet Cyllid eu bod wedi treulio oriau o amser yn ceisio cael cyllideb cytbwys i’r Cyngor ac ni welwyd sefyllfa tebyg i hyn o’r blaen.  Gwelwyd o’r tabl gyflwynwyd ynglyn â setliad Grant Cynnal Refeniw i ariannu llywodraeth leol y bydd Cyngor Gwynedd yn derbyn cynnydd grant o £1m erbyn y flwyddyn nesaf sy’n gynnydd o 0.6%, gyda chyfartaledd y cynnydd ar draws Cymru yn 0.2%. 

 

Rhagwelir yn ystod y dair blynedd 2018/19 – 2020/21 y bydd angen i’r Cyngor chwilio am arbedion o hyd at £20m.  Ar hyn o bryd, gofynnir i phob Pennaeth Adran flaengynllunio toriadau o 3%, 10% a 20% a rhagwelir y bydd effaith toriadau pellach yn seiliedig ar y canrannau uchod yn erchyll, gyda’r ddwy gyllideb fwyaf y Cyngor yn Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gorfod cyfrannu.

 

 Eglurodd y Pennaeth Cyllid, wrth ddatblygu cyllideb drafft ar gyfer 2018/19, daeth yn amlwg fod yna bryder yn codi ynglyn â’r gyllideb ysgolion.  Ers cyhoeddiad setliad grant awdurdodau lleol, roedd cyfeiriad Llywodraeth Cymru at “gyllid ychwanegol” a gwarchodaeth ysgolion wedi codi disgwyliadau ariannol Penaethiaid a Llywodraethwyr ar gyfer 2018/19.

 

Roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhai datganiadau camarweiniol am sefyllfa ariannol ysgolion. Wedi trafodaeth gydag Aelodau Cabinet, cytunwyd ffordd ymlaen er mwyn osgoi trosglwyddo targed arbedion pellach i ysgolion Gwynedd eleni:

 

(a)  Demograffi

 

Nodwyd bod sefyllfa net ysgolion yn -£225,000.

 

(b)  Integreiddio ADY

 

Argymhellir i gytuno bid o £319,000 i gyfarch gorwariant ar y gyllideb integreiddio disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac fe fydd y gyllideb “Addysg” ar ei ennill o’i gymharu â llynedd oherwydd hyn a chwyddiant o £1.4m fydd wedi’i ariannu gan y Cyngor.

 

(c)  Canoli Integreiddio

 

Bydd £347,000 yn trosglwyddo o’r gyllideb ysgolion yn ganolog i’r Adran Addysg, a thra bydd y gyllideb ysgolion yn gostwng, bydd yr angen i ysgolion wario hefyd yn gostwng.

 

(ch)      Problemau Addysg

 

Nodwyd bod nifer o broblemau wedi codi ym maes Addysg fyddai yn golygu bod yn rhaid i’r Cyngor ychwanegu ymhellach at y gyllideb Addysg drwy’r broses bidiau, neu i’r Adran Addysg leihau’r gyllideb ysgolion, os am gael gyllideb gytbwys yn 2018/19.  Byddai cyfanswm y materion hyn wedi golygu cynhaeafu £1.7m o arbedion o’r gyllideb ysgolion, a barn aelodau’r Cabinet ydoedd fod hynny’n anymarferol.  Felly, cytunwyd i argymell y datrysiadau canlynol:

 

Gwariant uwch ar gludiant                          £516,000

 

O adael y gyllideb uchod fel ag y mae byddai’n creu’r angen am gyllid parhaol ychwanegol o £286,000 yn 2018/19 a £230,000 i gwrdd diffyg 2017/18.  Argymhellir y byddir yn defnyddio tanwariant corfforaethol i ddileu gorwariant eleni, ond mynnu bod yr Adrannau Addysg ac Amgylchedd yn ail ymweld â’u polisïau / trefniadau cludiant gyda golwg ar reoli’r gwariant o fewn y gyllideb sydd ar gael erbyn 2019/20.  Er mwyn prynu amser i fedru gwneud y newid, yn y cyfamser argymhellir pontio £200,000 o’r £286,000 fyddai ei angen yn 2018/19 drwy ddarparu cyllideb unwaith ac am byth, gyda’r Adran Addysg yn cwrdd â’r £86,000 sy’n weddill. 

 

Grant Gwella Ysgolion (EIG)                       £617,000

 

Nodwyd bod y Gweinidog Addysg wedi torri’r grant penodol uchod a’i “osod yn y setliad” er mwyn gallu dweud nad oes disgwyl i’r gyllideb ysgolion leihau.  Disgwylir i’r holl bethau sy’n cael eu hariannu drwy’r grant cael eu cynnal ond ni all yr un arian gyflawni’r ddau beth, a nodwyd bod rhwystredigaeth ymysg awdurdodau lleol Cymru ynglŷn â hyn.

 

Ni all y Cyngor lenwi’r bwlch yn y grant a’r cynlluniau a ariannir, felly bydd elfen berthnasol o’r cwtogiad grant yn bwydo drwodd i’r ysgolion

 

Arbedion £4.3m – y £263,000 sydd ar ôl

 

Yn 2014, penderfynwyd gosod targed £4.3m ar gyfer ysgolion dros y cyfnod 2015/16 – 2017/18, ac i gydweithio gyda’r Fforwm Cyllideb Ysgolion i ddatblygu cynlluniau i wireddu’r targed.  Ers hynny, caniatawyd llithriad i 2018/19, pryd disgwyliwyd i’r cynlluniau ad-drefnu ysgolion gynhyrchu £263,000 olaf y targed £4.3m.

 

Nid yw’r arbediad yma am fod ar gael tan 2020/21 i 2021/22 ond yn hytrach na throsglwyddo’r ddiffyg i’r ysgolion (lleihau’r cwantwm dros dro) yn y cyfamser, argymhellir ail broffilio’r arbedion i’r blynyddoedd hynny.

 

Casgliad ynglŷn â’r Gyllideb Ysgolion 2018/19

 

Yn hytrach na dioddef £1.7m o “doriad pellach” bydd ysgolion yn ysgwyddo’r elfen berthnasol o’r £617,000 (amcangyfrif) o ostyngiad grant sy’n berthnasol iddynt, ynghyd â £347,000 o drosglwyddiad “technegol” sy’n tynnu cyllideb ac angen i wario oddi arnynt.

 

Deallir, bod lleihad mewn grantiau penodol eraill, a ffactorau lleol i ysgolion unigol, ond gyda’r strategaeth yma, ar y cyfan, dim ond gorfod darganfod gostyngiadau gwariant yn gyfatebol i leihad yn grantiau’r Llywodraeth fydd disgwyl i ysgolion Gwynedd wneud erbyn 2018/19.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

·                     Mynegwyd bryder am ddiffyg gwybodaeth  ynglyn ag addysg anghenion arbennig ac yn benodol pa arian fydd yn cael ei drosglwyddo yn ôl i ysgolion (3 / 4 blynedd yn ôl troslwyddwyd  arian ar gyfer disgyblion datganiadau 3*)

·                     Bod ysgolion yn awyddus i gael  eglurder er mwyn iddynt fedru ymateb yn syth o ran dyletswyddau staffio a rheolaeth yr Ysgol

·                     Ar hyn o bryd roedd gan ysgolion nifer o unigolion ar gontractau ac os yw’r arian yn symud gall arwain at orwariant / diswyddo

·                     Bod sefyllfa tebyg hefo iaith ychwanegol lle mae disgyblion yn cyrraedd yn hwyr i’r ysgolion heb saesneg – ac felly nid oedd Penaethiaid yn awyddus i weld yr un sefyllfa gydag disgyblion anghenion arbennig

 

Mewn ymateb i’r uchod, nododd y Rheolwr Cyllid y byddai’n trefnu i’r swyddogion perthnasol anfon llythyr o eglurder i ysgolion yn ddi-oed.   Ategodd y Pennaeth Cyllid y dylai Uwch Reolwr yr Adran Addysg gyfleu gwybodaeth i’r ysgolion yn amserol ar gyfer cynllunio lefelau staffio perthnasol.

 

O safbwynt cynyddu Treth Cyngor 4.8%, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod rhaid wynebu’r cynnydd hynny os am amddiffyn gwasanaethau.  Nodwyd ymhellach bod cynllun ar gyfer cymorth i unigolion anghennus a bod staff yr Adran Gyllid yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ymdrin ag unrhyw broblemau sy’n codi.

 

Adroddodd yr Aelod Cabinet Addysg bod gwariant ychwanegol ar gludiant yn her i’r Adran Addysg, a bod angen trafod telerau mwy ffafriol hefo contractwyr cludiant.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r uchod.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Rheolwr Cyllid drefnu bod y swyddogion addysg priodol yn anfon eglurder i ysgolion yn ddi-oed ynglyn â chyllideb a staff addysg anghenion arbennig.