Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Thomas
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
ii.
Cynnal rhag-ymgynghoriad gyda’r Eglwys yng Nghymru yn ymwneud a
chynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth
Ysgolion 2013 ac adrodd ar y canlyniadau i’r Cabinet.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
eitem gan Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad
oedd cael caniatâd i fwrw ymlaen i gynnal ymgynghoriad statudol parthed y
broses o ad-drefnu ysgolion Bangor. Ychwanegwyd fod y Llywodraeth Cymru yn
niwedd 2016 wedi hysbysu Awdurdodau Lleol gyda’r capasiti,
fod modd ymgeisio am fwy o arian i gyflawni prosiectau ychwanegol oddi mewn
Band A Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif. Yn
dilyn gwneud cais bu i’r Adran Addysg dderbyn cadarnhad fod yr arian wedi ei
glustnodi mewn egwyddor.
Yn ychwanegol at hyn, mae datblygiad tai newydd ym Mangor.
Un o’r amodau cynllunio pan gytunwyd i’r cais oedd bod y cwmni yn ymrwymo i
gyfrannu arian tuag at ddarpariaeth
addysg oed cynradd ym Mangor. Drwy gyfuno arian gan Lywodraeth Cymru a’r Cwmni
Datblygu Tai mae cyllideb o oddeutu £13.8m.
Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud yn edrych ar yr opsiynau
posib, a nodwyd o’r 9 Ysgol Gynradd ym Mangor fod dwy ysgol gyda’r niferoedd
uchel dros y capasiti a 2 yn weddol wag. Bydd angen
ymgynghori ar yr opsiwn sydd wedi ei ffafrio gan yr adran. Yr opsiwn ffafredig yw cynyddu capasiti
Ysgol y Faenol, i adeiladu Ysgol newydd i Ysgol y Garnedd gan gynyddu’r capasiti o 210 i 420 ac i Gau Ysgol Coed Mawr a
Glanadda.
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth
-
Cafwyd sylwadau gan yr Aelodau Lleol a nodwyd eu
bod yn llongyfarch y Cyngor ar dderbyn yr arian yma. Awgrymodd fod yr Adran yn
ail edrych ar yr opsiynau ac yn ffafrio opsiwn 10, sef i gynyddu capasiti Y Faenol, rhoi Ysgol newydd a chynyddu capasiti y Garnedd ac i addasu safle Glanadda i dderbyn
plant o Ysgol Coed Mawr. Nododd fod lefel addysg Glanadda a Coed Mawr wedi bod
yn y categori coch, ond ers cael Pennaeth dros dro mae’r ysgol wedi codi i
gategori oren.
-
Ychwanegodd yr Aelodau Lleol ei bod yn
gamgymeriad i fynd am opsiwn 3 gan fod Ysgol Cae Top a Glancegin,
sydd wedi cael eu datblygu yn ystod y 8 mlynedd diwethaf dros capasiti yn barod. Gyda’r wardiau yn tyfu a mwy o alw am
dai i deuluoedd bydd niferoedd yn yr ysgolion yn parhau i godi.
-
Trafodwyd diogelwch y plant ar y ffordd i’r
ysgol, nodwyd fod y ffordd yn un prysur ond fod plant yn teithio arni yn
ddyddiol. Yn ychwanegol codwyd y broblem traffic ar y
ffyrdd sydd yn bodoli yn barod, gan fod 5 ysgol ac Ysbyty yn yr un ardal.
Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig i wrando a thrafod ac aelodau a phobl leol, ac yn ychwanegol i gofio am y mudiad meithrin
Awdur:Diane Jones
Dogfennau ategol: