Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o resymau dros ail-fodelu’r
Gwasanaeth Ieuenctid. Nodwyd fod disgwyliad gan Lywodraeth Cymru fod Cyngor
Gwynedd yn ail-fodelu’r gwasanaeth. Yn ychwanegol yn dilyn ymgynghoriad Her
Gwynedd penderfynodd y Cyngor Llawn i dorri £200,000 o gyllideb y Gwasanaeth,
ynghyd a chyflawni targed effeithlonrwydd o £70,000. O ganlyniad i hyn,
mynegwyd eu bod yn amhosib i’r gwasanaeth barhau yn y strwythur sydd ar hyn o
bryd.
Bu i ymgynghoriad gael ei gynnal gyda phobl ifanc, sydd wedi nodi eu bod
eisiau model gwahanol. Bydd y strwythur newydd yn un arloesol a chyffroes a
fydd yn rhoi'r un ddarpariaeth ieuenctid i bob person ifanc ar draws y sir.
Ychwanegwyd fod elfennau negyddol i’r ail-strwythuro, gan fod rhai o’r
bobl ifanc eisiau parhau i fynychu eu clwb ieuenctid lleol. Nodwyd yn ogystal y
bydd grantiau i gefnogi cyrff gwirfoddol sydd yn gweithio yn y maes yn terfynu
ymhen 9 mis.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd
fod gwaith ymgysylltu wedi ei wneud gyda’r bobl ifanc a bod dros 3,000 wedi
cymryd rhan. Ymgynghoriad wedi pwysleisio fod pobl ifanc eisiau gweithwyr
ieuenctid sydd ar gael yn gyson.
-
Teithio
yw un o brif broblemau pobl ifanc, a sut bydd modd cael mynediad at y
gwasanaeth. Bydd y model yma sicrhau fod y gweithiwr ieuenctid yn mynd allan at
y bobl ifanc yn hytrach na'r bobl ifanc yn mynd at y gweithiwr.
-
Rhai
ardaloedd am i’r clybiau barhau yn eu cymunedau, nodwyd fod angen gwneud gwaith
ymgysylltu yn lleol i weld os yw’r Cynghorau Cymuned yn awyddus i gymryd y clwb
neu wirfoddolwyr. Ychwanegwyd y bydd staff ar gael i roi cymorth ac i gefnogi
gwirfoddolwyr.
-
Trafodwyd
yr amserlen a nodwyd fod y ddarpariaeth yn dod ben yn flynyddol ym mis Ebrill
ac yn ailgychwyn ym mis Medi, bydd y cylch yma yn digwydd eto. Bydd y clybiau
yn cau ym mis Ebrill a bydd y ddarpariaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Bydd
hyn yn rhoi cyfle i'r adran i ddad-gymalu’r hen
strwythur ac i adnabod anghenion lleol ac i drafod a phartneriaid.
-
Mynegwyd
pwysigrwydd ieuenctid i’r sir, a phwysigrwydd i gadw’r bobl ifanc yma. Credwyd
fod modd i’r gwasanaeth newydd allu cyd-weithio yn agos a’r Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd.
-
Nodwyd
fod terfynu grantiau cefnogi'r mudiadau gwirfoddol yn mynd i fod yn anodd, gan
fod y ddau brif fudiadau yn gwneud gwaith da. Bu i’r aelodau gydnabod gwaith
da'r mudiadau a gofyn i’r swyddogion i weithio yn agos a’r mudiadau. Mynegwyd
unwaith y bydd y gwasanaeth ieuenctid yn ymwybodol o’r math o weithgaredd y
bydd pobl ifanc yn ei hoffi ym mhob ardal bydd modd comisiynu'r gweithgareddau.
-
Ychwanegwyd
fod angen i’r Aelod Cabinet ar Dai, Diwylliant a Hamdden i adrodd ar gynnydd y
gwasanaeth i’r Cabinet bob pedwar mis
Awdur:Sioned Williams
Dogfennau ategol: