I ystyried cais
Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
COFNODION:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A
am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd (a darpar gyflogwr) yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir troseddau yr ymgeisydd.
Amlygodd bod y troseddau yn rhai
hanesyddol a bod yr ymgeisydd yn
derbyn ei fod wedi gwneud
camgymeriadau yn y gorffennol ond bellach yn canolbwyntio
ar fagu a chefnogi ei deulu.
Er bod ganddo swydd lawn amser,
nodwyd bod angen swydd hyblyg
arno i dreulio amser a chefnogi ei fab oedd
yn mynychu sesiynau hyfforddi peldroed ym Manceinion.
Mewn ymateb
i gwestiwn a fyddai’r cyflogwr yn fodlon
cyflogi person gyda throseddau yn ymwneud ag anonestrwydd,
amlygodd y byddai yn barod i roi cyfle iddo.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
• gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen gais yr ymgeisydd
• sylwadau llafar
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad
• adroddiad yr
Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS oedd yn datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ieuenctid Bangor
(Mawrth1995) am ladrad ac ymosodiad cyffredin.
O ganlyniad cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol. Derbyniodd gollfarn gan Lys Ieuenctid
Bangor (Chwefror 1996) am ymosodiad cyffredin ac affräe. O ganlyniad cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol, gorchymyn i dalu iawndal
o £50.00 a chostau o £150.00. Derbyniodd
gollfarn gan Lys Ynadon Bangor (Medi 1999) am fod yn feddw ac yn afreolus. Cafodd
ddirwy o £35.00 a gorchymyn
i dalu costau
o £65.00. Derbyniodd gollfarn
gan Lys Ynadon Conwy (Mai
2008) am ddefnyddio geiriau
sarhaus ac ymddygiad bygythiol gyda bwriad i achosi
ofn neu gymell
trais, ac ymosodiad cyffredin. Ar gyfer y troseddau hyn, cafodd orchymyn cymunedol, cyrffew 3 mis a gorchymyn i dalu costau
o £60.00.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad
oes rheidrwydd i berson sydd
â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn
y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded.
Amlygwyd bod paragraff 4.5
o Bolisi’r Cyngor yn nodi bod Gorchymyn
Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu i’r Is-bwyllgor ystyried yr holl gollfarnau
a gofnodwyd boed y rheiny wedi darfod
o dan Ddeddf 1974 ai peidio.
Ystyriwyd paragraff 6.5 lle nodi’r bydd
cais fel arfer yn cael
ei wrthod os oes gan
yr ymgeisydd un gollfarn o natur dreisgar yn ystod
y 3 blynedd ddiwethaf. Ymhellach ystyriwyd paragraff 6.6 lle nodi’r bydd cais
fel arfer yn cael ei
wrthod os oes gan yr
ymgeisydd fwy nag un gollfarn o natur dreisgar yn ystod
y 10 mlynedd ddiwethaf.
Ystyriwyd paragraff 8.2 lle nodi’r bydd cais
yn cael ei
wrthod os oes gan yr
ymgeisydd gollfarn o'r 3 blynedd diwethaf
am drosedd o anonestrwydd (sydd yn cynnwys
dwyn). Er bod collfarn 1995 yn cynnwys troseddau o anonestrwydd ystyriwyd bod hyn wedi digwydd
dros 3 blynedd yn ôl ac felly roedd yr Is-bwyllgor
o'r farn nad oedd y troseddau
hyn yn sail i wrthod.
Amlygwyd bod gweddill y datganiad DBS yn ymwneud â throseddau o natur dreisgar. Fodd bynnag, dim ond un o'r collfarnau
hynny a ddigwyddodd yn ystod y 10 mlynedd
ddiwethaf, (9 mlynedd 9 mis yn ôl
o ddyddiad gwrandawiad yr Is-bwyllgor). O dan yr amgylchiadau,
roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon,
o ystyried paragraffau 6.5
a 6.6 na ddylai unrhyw un o'r euogfarnau
hyn fod yn
sail i wrthod y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd
gyda manylion am ei hawl
i gyflwyno apêl.