I ystyried cais Mr B
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf
wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
·
Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
·
Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
·
Bod y cyhoedd
wedi'u diogelu rhag pobl anonest
·
Bod plant a phobl ifanc wedi'u
diogelu
·
Bod pobl
ddiamddiffyn wedi'u diogelu
·
Bod y cyhoedd
yn gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i
ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y troseddau. Amlygodd bod y troseddau yn rhai hanesyddol
ac wedi digwydd yn ystod ei
arddegau. Roedd yn cyfaddef iddo
wneud pethau gwirion. Bellach roedd yn gwneud
gwaith gwirfoddol yn y gymuned ac amlygodd ei gymydog
nad oedd y troseddau yn adlewyrchiad
o’i gymeriad erbyn hyn.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
a’i gymydog yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol.
Derbyniodd
yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Leek (Mai 1988) am gyhuddiad o
ladrad cerbyd a thri o fân droseddau traffig. O ganlyniad cafodd ddirwy o
£260.00, gorchymyn i dalu costau o £30.00, a’i ddiarddel rhag gyrru am 6 mis.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Leek
(Tachwedd 1988) am gyhuddiad o gymryd cerbyd heb awdurdod, tra wedi ei
ddiarddel, gyrru heb yswiriant a gyrru cerbyd dan ddylanwad alcohol. Derbyniodd
yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Leek (Mawrth
1989) am ddau drosedd o ddifrod troseddol.
Cafodd orchymyn prawf 2 flynedd a gorchymyn talu iawndal o £111.00.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Dwyrain Dorset
am yrru cerbyd o dan ddylanwad alcohol. Cafodd ddirwy o £200.00, gorchymyn i
dalu costau o £55.00 a'i ddiarddel rhag gyrru am 3 blynedd. Derbyniodd yr
ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Dwyrain Dorset
(Chwefror 2002) am fod yn feddw ac yn afreolus. Cafodd rhyddhad
amodol o 6 mis a gorchymyn i dalu costau o £55.00.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r
nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded.
Amlygwyd bod paragraff 4.5 o Bolisi’r Cyngor yn nodi bod Gorchymyn Deddf
Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu i’r
Is-bwyllgor ystyried yr holl gollfarnau a gofnodwyd boed y rheiny wedi darfod o
dan Ddeddf 1974 ai peidio.
Ymhellach ystyriwyd paragraff 6.6 lle nodi’r bydd cais fel arfer yn cael
ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fwy nag un gollfarn o natur dreisgar yn ystod
y 10 mlynedd ddiwethaf. Ystyriwyd paragraff 8.2 lle nodi’r bydd cais yn cael ei
wrthod os oes gan yr ymgeisydd gollfarn o'r 3 blynedd diwethaf am drosedd o
anonestrwydd (sydd yn cynnwys dwyn). Ystyriwyd
paragraff 11.2 lle nodi’r bydd cais yn annhebygol o gael ei ganiatáu os
bydd gan yr ymgeisydd fwy nag un gollfarn am yrru o dan ddylanwad alcohol oni
bai bod cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cael y drwydded yrru yn ôl yn
dilyn y gollfarn ddiwethaf.
Ystyriwyd paragraff 12.4 lle nodi’r bydd cais yn cael ei wrthod os yw’r ymgeisydd wedi cyflawni mwy
nag un drosedd traffig difrifol o fewn y 5 mlynedd hyd nes y bydd cyfnod o 3
blynedd wedi mynd heibio yn rhydd rhag collfarnau o'r fath. Amlygwyd bod
troseddau o'r fath yn cynnwys gyrru heb yswiriant a gyrru tra wedi ei ddiarddel.
Ystyriwyd paragraff 12.10 lle nodi’r bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn ddiweddar yn erbyn yr
ymgeisydd a arweiniodd at waharddiad rhag gyrru o 12 mis neu fwy, oni bai bod
cyfnod o 18 mis wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad.
Er bod tystiolaeth o ail droseddu, troseddau o natur dreisgar (1989 - difrod
troseddol a 2002 - meddw ac afreolus), roedd yr Is-bwyllgor o’r farn nad oedd
yn sail i wrthod y drwydded oherwydd roeddynt yn gollfarnau hanesyddol (dros 10
mlwydd oed). Gyda thystiolaeth bellach o ail droseddu am droseddau o
anonestrwydd (1988 - dwyn cerbyd heb awdurdod) ystyriodd yr Is-bwyllgor bod y
rhain dros 3 oed ac felly ddim yn sail i wrthod y cais. Roedd tystiolaeth hefyd
o ail droseddu troseddau moduro (1988 - mân droseddau traffig, gyrru heb
yswiriant a gyrru tra wedi ei ddiarddel), fodd bynnag gyda rhain yn
gollfarnau dros 5 mlynedd yn ôl, barn yr
Is-bwyllgor oedd nad oeddynt yn sail i wrthod y cais. Gyda thystiolaeth o ail
droseddu mewn perthynas â throseddau yfed a gyrru yn 1989 a 2001, a arweiniodd
at gael ei ddiarddel rhag gyrru, ystyriwyd bod y ddwy gollfarn yn fwy na 10
mlwydd oed ac felly gyda chyfnod o 18 mis wedi mynd heibio ers i'r cyfnod olaf
ddod i ben, barn yr Is-bwyllgor oedd na ddylai'r troseddau hyn fod yn sail i
wrthod y cais.
Nododd yr Is-bwyllgor nad oedd yr ymgeisydd wedi cael collfarnau ers 2002 ac
wedi cadw llechen lân ers 16 mlynedd.
Yn ogystal, derbyniwyd sylwadau ei gymydog oedd yn ei gymeradwyo am wneud
gwaith gwirfoddol yn y gymuned.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd gyda
manylion am ei hawl i gyflwyno
apêl.