skip to main content

Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“O ganlyniad i’r ffaith bod y cyfnod treial gyda Kingdom wedi dirwyn i ben yn gynamserol a lle bu ymgais i ymdrin â phroblem mae Llywodraeth Cymru yn ei disgrifio fel troseddau amgylcheddol e.e. creu sbwriel, gwaredu slei bach a’r mwyaf pryderus, sef baeddu gan gŵn, pa gamau mae swyddogion y Cyngor yn bwriadu cymryd i atal pobl Gwynedd rhag boddi dan fynydd o lanast ci?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“’Roedd y mater yma gerbron y Pwyllgor Craffu Cymunedau bythefnos yn ôl i heddiw ac yn dilyn hynny mae’r pwyllgor craffu wedi cynnig edrych ar dri cham:-

 

i)       Cydweithio gyda siroedd eraill cyfagos i wella ar y ddarpariaeth.

ii)       Ail ystyried y lefelau staffio presennol yn yr Uned Gorfodaeth Stryd.

iii)      Ehangu’r cydweithio rhyngadrannol lle mae staff o adrannau eraill y Cyngor yn derbyn yr hawl dirprwyedig i orfodi ar y stryd.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Beth fedrwn ni wneud i sicrhau bod y swyddogion yn gweithredu ar yr argymhellion yma?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“’Rydych chi’n aelod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, ond nid oeddech chi yn y cyfarfod dan sylw o’r hyn ‘rydw i’n gofio.  Yn y cyfnod byr ers y pwyllgor craffu ‘rydw i wedi cyfarfod gyda phennaeth yr adran fore dydd Mawrth a gallaf ddweud fod cyfarfod yn mynd i gymryd lle cyn hir gydag Ynys Môn, sef un o’r cynghorau nesaf atom.  Gallaf ddweud hefyd, o ran y 6 warden sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd gan yr Adran Forwrol, mae’r mater yna wedi cymryd cam ymhellach.  Unwaith y bydd hyfforddiant wedi ei roi a systemau yn eu lle, ‘rydym yn gobeithio rowlio hyn i mewn, a byddai hynny’n cynnwys eich ardal chi hefyd yn amlwg gan eich bod ar yr arfordir ac mae’r Cyngor, yn y cyfnod byr ers y pwyllgor craffu wedi symud ymlaen hefo hynny.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Pa drafodaethau rhwng aelodau, swyddogion a Llywodraeth Cymru sydd wedi; ac yn cymryd lle ar gyfer sicrhau bod Gwynedd yn cael ei amddiffyn yn dilyn gadael yr UE, a sicrhau parhad o swyddi i’n trigolion a buddsoddiadau i’r sir yn cael ei gyllido gan yr UE?”

 

Ateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Cwestiwn amserol iawn.  Mae’n gyfnod hynod o bryderus i ni yng nghefn gwlad Cymru.  Mae’r ansicrwydd a’r diffyg atebion i gwestiynau digon sylfaenol yn peri pryder.  Mae yna restr yn yr ateb ysgrifenedig o bob math o bwyllgorau, gweithgorau a chyfarfodydd sydd wedi bod yn y gorffennol.  Gallaf eich sicrhau mai un o fy mhrif amcanion i fel Arweinydd y Cyngor ydi i fod yn llais dros y Gymru wledig.  Dyna pam ‘rydw i wedi cael fy mhenodi yn Gyd-gadeirydd Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ‘rydw i’n gobeithio defnyddio’r fforwm hwnnw i fod yn llais cryf, nid yn unig dros Wynedd, ond yn llais cryf dros gefn gwlad Cymru.  Felly mae yna ymdrechion glew mewn amgylchiadau digon dyrys.  ‘Roeddwn mewn cyfarfod hefo Ysgrifennydd Cymru yn ddiweddar lle'r oedd yn rhoi ei adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt Westminster a phryd hynny nid oedd yna gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Westminster.  Mae’n dipyn o siom bellach bod Llywodraeth Cymru wedi ildio'r grymoedd i Westminster ac mae hynny yn ychwanegu at y pryder a sut y bydd pa bynnag arian fydd ar gael ar ôl i ni ymadael ag Ewrop yn cael ei ddosbarthu.  Mae’n bryder sylweddol iawn i mi fod yna ddiffyg dealltwriaeth a diffyg gwybodaeth sylfaenol iawn ymysg gweinidogion a gweision sifil Westminister a hynny’n gwneud i mi bryderu fwy fyth na fyddwn ni’n cael ein rhan deg o ba bynnag arian fydd ar gael ar ôl i ni ymadael ag Ewrop.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Pa gefnogaeth uniongyrchol mae’r Cyngor hwn yn rhoi i fusnesau yng Ngwynedd?”

 

Ateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Mae yna waith sylweddol iawn yn digwydd gyda’r Bwrdd Uchelgais yn y Gogledd ac mae’r sector breifat yn rhan fawr o’r gwaith hwnnw.  A dweud y gwir, maent yn ganolog i’r holl beth.  Mae Cynllun Twf y Gogledd yn ymwneud â thwf economaidd ac ‘rwy’n credu bod angen i ni bwysleisio ar y cymunedau gwledig.  Mae yna waith i’w wneud i ddatblygu polisïau sy’n rhoi cefnogaeth adfywio i gymunedau gwledig sydd ar hyn o bryd yn wan, os ydynt yn bodoli.   Dyna’r math o drafodaeth fyddaf yn ei gael.  Hefyd, mae Lesley Griffiths, AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi ffurfio’r hyn mae hi’n alw’n fwrdd crwn o bobl sydd â diddordeb yn y maes i drafod materion Brexit.  Mae Cadeirydd Powys a minnau fel Cyd-gadeiryddion y Fforwm Gwledig wedi gofyn am fod yn aelodau o’r bwrdd hwnnw, ond yn anffodus, mae hi wedi gwrthod caniatáu i ni fod yna gan ddweud bod cyfraniad y swyddog yn ddigonol i gynrychioli llywodraeth leol.  Mi fyddwn yn ei chyfarfod yn fuan iawn ac rydw i eisiau ei rhoi yn ôl ar y trywydd iawn ac efallai y gall yr aelod gael gair gyda hi hefyd yn y cyfamser.  Ar y mater o gefnogaeth busnes, nid yw’r ffeithiau o’m blaen, felly gai ofyn i’r Pennaeth Economi a Chymuned ddod ymlaen i roi cyfeiriad ar hynny?”

 

Ateb gan y Pennaeth Economi a Chymuned

 

“Mae’r cymorth uniongyrchol i fusnesau wedi lleihau’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.  Y brif gronfa ‘roeddem yn ei defnyddio oedd cronfa oedd yn cael ei hariannu gydag arian Ewropeaidd.  Bellach mae’r gronfa yna wedi dod i ben sy’n golygu nad oes gan Gyngor Gwynedd bot grantiau uniongyrchol i fusnesau.  Wedi dweud hynny, mae gennym 2 swyddog sy’n gweithio i gefnogi busnesau i gael mynediad i gronfeydd o wahanol ffynonellau.  Mae gennym gronfa fenthyg uniongyrchol.  Mae honno ar gael i fusnesau sy’n methu cael benthyciad i fuddsoddi o unrhyw gronfa arall sy’n golygu ein bod yn edrych ar y risg, gan fod yna risg uwch i’r busnesau hynny, ac mae’r cyfraddau llog yn adlewyrchu hynny.  Ond ar wahân i’r gronfa fenthyg, nid oes gennym ni arian uniongyrchol i fusnesau.  Mae yna nifer o gronfeydd ar gael i fusnesau yn genedlaethol, gan Lywodraeth Cymru a gwahanol fudiadau.  Yn anffodus, mae hyn yn hynod gymhleth i fusnesau.  Mae busnesau angen mynd ar y we a chwilio ac mae’n gymhleth iawn gallu cael mynediad i wybodaeth.  Rôl ein swyddogion yw helpu busnesau i gael gafael ar y cymorth mwyaf priodol iddynt hwy.  Mae’n amrywio ar draws sectorau, o fusnesau bach i fusnesau mawr i fusnesau gwledig, felly'r cymorth anuniongyrchol yna i helpu busnesau i ddarganfod eu ffordd ydi’r prif gymorth sydd ar gael gan y Cyngor rŵan.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Edgar Wyn Owen

 

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi diddymu nifer o grantiau i ysgolion yn ddiweddar.  Credaf fod grant dillad ysgol i blant o gefndiroedd difreintiedig a roddir pan fo plentyn yn cychwyn eu haddysg uwchradd yn un o’r rhain.  Faint o blant Gwynedd sydd wedi derbyn y grant yma yn y 2 flynedd ddiwethaf ac a oes cynlluniau gan y Cyngor i gynorthwyo’r teuluoedd a fydd yn cael eu heffeithio gan hyn?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Gareth Thomas

 

“Mae’n briodol iawn sôn am y toriadau mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ar y grantiau i ysgolion.  O lywodraeth sy’n dweud eu bod yn cefnogi addysg, mae’n syndod beth yw maint y toriadau maen nhw’n rhoi ar grantiau, sydd wrth gwrs yn effeithio ar ysgolion.  Mae’r grantiau mae’r aelod yn sôn amdanynt i’r bobl fwyaf difreintiedig, sef y plant sy’n cael cinio am ddim, ac ‘roedd y grantiau yma yn cynnig £105 i blentyn oedd yn cychwyn ysgol uwchradd, ac fel ‘rydw i wedi nodi yn yr ateb, yn 2016/17 roedd 151 o’r plant yma yng Ngwynedd a 174 yn 2017/18.  Dyna’r niferoedd, ond y teuluoedd mwyaf difreintiedig ydi’r rhain ac mae’n wrthyn gen i fod y Llywodraeth Lafur wedi torri’r arian yma i’r teuluoedd mwyaf difreintiedig.  Ond yr hyn ‘rydw i’n falch iawn ohono yw bod y Cyngor yma am barhau hefo’r grantiau yma allan o goffrau’r Cyngor.  Mi ddaru ni gyflwyno cais i barhau i gefnogi'r teuluoedd mwyaf difreintiedig yma ac ‘rydw i’n hynod falch bod y Cyngor goleuedig yma yn medru parhau hefo’r grantiau.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Edgar Wyn Owen

 

“Beth mae’r Cyngor yn ei wneud i gynorthwyo’r plant yma wrth iddynt fynd yn hŷn?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Gareth Thomas

 

“£105 oedd y grant fel ‘roedd plentyn yn dechrau’r ysgol uwchradd, ond mae’r Cyngor wedi bod yn cefnogi’r teuluoedd yma fel mae’r plant yn mynd yn hŷn yn yr ysgol hefyd drwy gynnig £45 y flwyddyn ar gyfer gwisg ysgol i’r plant.  Y Cyngor yma sydd wedi bod yn cynnig y gefnogaeth yma ar hyd y blynyddoedd, nid Llywodraeth Cymru.  O ran niferoedd, mae yna 691 o’r plant wedi cael y £45 yn ystod 2016/17 a 636 yn y flwyddyn yma, sy’n gwneud cyfanswm o 842 yn 2016 ac 810 yn 2017.  Felly mae dros 800 o blant y flwyddyn yn cael cefnogaeth ariannol tuag at wisg ysgol gan Gyngor Gwynedd a chan Gyngor Gwynedd fydd yr holl arian yn dod yn y dyfodol gan fod y grant wedi ei ddiddymu.”

 

Ar ddiwedd yr eitem hon, mynegodd y Cynghorydd Owain Williams ei anfodlonrwydd o ddeall nad oedd cwestiwn a gyflwynodd yn swyddfeydd y Cyngor ar y 26ain o Ebrill am gael ei ganiatáu.  Nododd hefyd ei fod wedi bwriadu gofyn yr un cwestiwn yn y Grŵp Busnes, ond bod y cyfarfod hwnnw wedi’i ganslo.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y cwestiwn wedi’i dderbyn yn swyddfeydd y Cyngor yr wythnos flaenorol, ond trwy amryfusedd, na chafodd ei ddwyn i’w sylw ef tan yn hwyr ar fore’r Cyngor, ac felly nad oedd yn bosib’ delio â’r cwestiwn yn y cyfarfod hwn.  Ychwanegodd y byddai’n anfon llythyr o ymddiheuriad at yr aelod ac yn cysylltu ag ef i sicrhau bod ei gwestiwn gerbron cyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Gorffennaf.