Yn unol â’r Rhybudd o
Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn cynnig fel a ganlyn:-
“Bod y Cyngor hwn yn gofyn i Gabinet y Cyngor ail-ystyried
dyfodol Gwasanaeth Ieuenctid y Sir gan ragdybio o blaid cynnal clybiau
ieuenctid a pharhau gyda’r cymorth ariannol traddodiadol i fudiadau gwirfoddol megis
yr Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc.”
Cofnod:
(B) Cyn cychwyn trafod yr
eitem hon, cyflwynodd y Cynghorydd Jason Parry ddeiseb i’r Cadeirydd. Diolchodd y Cadeirydd i’r aelod am y ddeiseb
gan nodi y byddai’n ei throsglwyddo i’r adran berthnasol.
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o
dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Bod y Cyngor hwn
yn gofyn i Gabinet y Cyngor ail-ystyried dyfodol Gwasanaeth Ieuenctid y Sir gan
ragdybio o blaid cynnal clybiau ieuenctid a pharhau gyda’r cymorth ariannol
traddodiadol i fudiadau gwirfoddol megis yr Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc.”
Nododd cynigydd y rhybudd o gynnig ymhellach:-
·
Ei fod yn cyflwyno’r cynnig yn sgil penderfyniad y Cabinet
i gau holl glybiau ieuenctid Gwynedd a gosod trefn sirol newydd yn ei le, nad
sydd wedi ei brofi’n hyfyw nac o unrhyw werth.
·
Y byddai’r clwb sirol yn golygu colli arbenigedd
gweithwyr ieuenctid profiadol a chynyddu’r swyddogion llawn amser canolog o’r 5
presennol i bron i 20.
·
Ei bod yn ymddangos bod yr ymgynghoriad gyda’r bobl
ifanc yn annilys, ac o bosib’ yn anghyfreithlon gan na soniwyd ynddo am y
posibilrwydd o gau’r clybiau presennol.
·
Bod yr ymgynghoriad gyda’r cynghorau cymuned wedi
bod yn annigonol, gyda rhai yn cael eu hamddifadu o unrhyw ohebiaeth ar y mater
o gwbl.
·
Os bu angen dychwelyd ac ail-ystyried unrhyw bolisi
erioed, mai hwn ydoedd.
·
Bod y Cyngor yn fodlon cadw clybiau yn agored ar yr
amod bod cyfraniad yn cael ei wneud tuag at hynny gan y cynghorau cymuned, ond
na welai bod gan y gwasanaeth sirol newydd unrhyw ffydd bod hynny am lwyddo.
·
Nad oedd yna gofnod o drafodaethau anffurfiol gyda’r
heddlu ac asiantaethau sy’n ymwneud â thor-cyfraith wrth lunio’r model sirol
newydd.
·
Ei fod yn pryderu bod y drefn newydd yn gwahaniaethu
ac yn creu system elitaidd ac yn mynd yn erbyn delfrydau sylfaenwyr y
gwasanaeth.
·
Bod y Cyngor yn ymhyfrydu yn llwyddiannau pobl ifanc
y sir yn Eisteddfodau’r Urdd ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, felly beth oedd y
cyfiawnhad dros arbed ychydig arian rhag mynd i’r mudiadau hynny?
·
Bod cyfraniad y mudiadau hyn i hyfywdra’r Gymraeg yn
ein cymunedau ac i sefydliad y Siarter Iaith wedi bod yn allweddol, ac y
byddai’n flaengar ymestyn y Siarter i’r clybiau ieuenctid hefyd.
·
Bod y ddeiseb a dderbyniwyd yn dangos bod dros 6000
o bobl yn anfodlon gyda’r newidiadau i’r gwasanaeth.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-
·
Ei bod yn hanfodol bod y Cabinet yn ail-ystyried gan
fod y plant a’r bobl ifanc yn magu hyder o fewn y mudiadau hyn.
·
Bod y gwasanaeth yn cyflawni swyddogaeth hanfodol a
bod cau’r clybiau ieuenctid yn ymosodiad ar genedlaethau’r dyfodol.
·
Nad oedd yn briodol cael y clybiau hyn yn yr
ysgolion a bod angen adeiladau ar eu cyfer.
·
Oni allai’r 11,000 o fyfyrwyr ym Mangor, sy’n cyfrannu
dim i goffrau’r Cyngor, gyfrannu mewn rhyw ffordd, e.e. drwy gynnydd yn eu
rhenti?
·
Bod pawb eisiau sicrhau’r gwasanaeth gorau bosib’ o
fewn yr hinsawdd anodd.
·
Bod
angen teilwrio’r model newydd i ateb gofynion pobl ifanc Gwynedd a chymunedau
amrywiol iawn Gwynedd. Hefyd, gan fod
yna ddwy adain o waith dan sylw, ‘roedd angen model sy’n cadw lle i’r
traddodiadol yn y model newydd ac yn sicrhau bod yr holl bwyslais yn
gywir. Gan gydnabod y pryderon,
cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig oedd yn mynd i fwy o fanylder na’r
cynnig gwreiddiol, ond ei fod yn yr un ysbryd, sef:-
“Bod y Cyngor hwn hefyd yn gofyn i Gabinet y Cyngor
ail-ystyried elfennau penodol o’r model newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid y
Sir a hynny oherwydd ein pryderon ar 3 chyfrif:-
1) y
newid pwyslais o’r cymunedol i les unigolion
2) yr
effaith ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir
3) yr
effaith ar yr iaith Gymraeg
Gofynnwn felly i’r Cabinet gynnal trafodaethau
brys, hynny erbyn diwedd y mis hwn, os yn bosib’, gyda phob un o’r cynghorau
tref, cymuned a dinas ynghyd ag asiantaethau perthnasol eraill. Diben hynny fyddai edrych ar ffyrdd o
gydweithredu er mwyn ariannu parhad cynifer â phosib’ o glybiau ieuenctid y
sir, lle dymunir hynny, tros y cyfnod traws-ffurfiannol ac er mwyn rhoi cymorth
priodol i’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol a fu’n derbyn nawdd tan yn ddiweddar.
Gofynnwn hefyd i’r Cabinet gynnal asesiad
ieithyddol o effaith yr ad-drefnu ac asesiad o’i effaith gymunedol ar ardaloedd
mwyaf difreintiedig y sir.”
Yn ystod y
drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-
·
Y
pryderid bod y gwelliant yn ymgais i lastwreiddio’r cynnig a gwthio’r mater i
un ochr yn y gobaith y byddai’n cael ei anghofio amdano.
·
Dylid
cael gwasanaeth sy’n briodol ar gyfer anghenion y bobl ifanc a bod y clybiau
ieuenctid yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddod ynghyd i gymdeithasu ac adeiladu
cysylltiadau gydag ystod eang o bobl ifanc ar draws y gymdeithas ac yn gyfle
hefyd i warchod iaith a diwylliant y gymuned.
·
Bod
y penderfyniad i ddifa’r gwasanaeth wedi’i sleifio i mewn drwy’r drws cefn.
·
Y
gofynnwyd i’r cynghorau cymuned a thref am gyfraniadau wedi iddynt osod eu
praeseptau ar gyfer 2018/19 ac ar adeg pan mae eu cyllidebau hwythau’n dynn.
·
Mai’r
clybiau ieuenctid yw calon y Gwasanaeth Ieuenctid yng Ngwynedd.
·
Bod
gan yr aelodau rôl i gynrychioli pobl yn eu cymunedau, ac o sgwrsio gyda phobl
yn lleol, ei bod yn amlwg nad oedd yna ddymuniad am glwb ar ôl ysgol.
·
Yn
sgil y penderfyniad anodd yn 2016 bod angen torri £270,000 oddi ar y
gwasanaeth, mai’r dewis oedd ail-fodelu neu gau’r mwyafrif o’r clybiau.
·
Bod
yr adran wedi ymgynghori’n eang ar y cynigion, gan ofyn i’r bobl ifanc beth
sy’n bwysig iddynt, ac wedi ymateb i hynny drwy gynnig rhaglen o weithgareddau.
·
Y
byddai’r trefniadau newydd ar gael i’r bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn ymhob
cwr o’r sir ac felly’n rhagori ar y ddarpariaeth bresennol, lle nad oedd gan
fwyafrif y bobl ifanc fynediad i glybiau ieuenctid yn eu pentrefi.
·
Bod
nifer o gynghorau cymuned eisoes wedi penderfynu, neu’n ystyried, cynnal
clybiau’n lleol.
·
Y
credid bod y gwelliant yn gyfaddawd rhesymol sy’n cryfhau, yn hytrach nag yn
glastwreiddio, y cynnig gwreiddiol.
·
Y
cydnabyddir bod y Cyngor yn y sefyllfa sydd ohoni oherwydd methiant Llywodraethau
San Steffan a Chymru i drosglwyddo’r cynnydd yn y grant i’r cynghorau.
·
Y
byddai’r trefniadau newydd yn golygu y byddai yna glybiau traddodiadol yn
rhedeg ochr yn ochr â’r model newydd ac yn rhoi cyfle i gynghorau cymuned
gymryd cyfrifoldeb dros yr hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau eu hunain.
·
Bod
hyn yn gyfle i’r aelodau nad oeddent yn rhan o’r penderfyniad yn 2016 i gael
rhoi eu barn. Ni fu sôn am gau clybiau
pan ‘roedd yr aelodau’n canfasio adeg etholiadau 2017 ac ‘roedd yn ymddangos
hefyd nad oedd rhai o’r swyddogion ieuenctid eu hunain yn ymwybodol bod hyn yn
yr arfaeth. Ni chredid chwaith y bu sôn
am gau’r clybiau ar yr adeg y rhoddwyd cyflwyniad ar y cynigion newydd i’r
fforymau ardal ym mis Rhagfyr y llynedd.
·
Er
y pryder y byddai llawer o’r bobl ifanc sy’n mynychu’r clybiau ieuenctid yn yr
ardaloedd difreintiedig ar hyn o bryd yn debygol o ddatgysylltu â chymdeithas
yn gyffredinol gan fod y clwb yn cynnig lloches iddynt oddi wrth alcohol,
cyffuriau, ac mewn rhai achosion, trais yn y cartref, y croesawir y
trafodaethau sy’n mynd rhagddynt gyda’r cynghorau cymuned i sicrhau gwasanaeth
traddodiadol yn ychwanegol i egwyddorion eraill y model.
·
Rhaid
cydnabod nad yw’r gwasanaeth presennol am fod yn gynaliadwy i’r dyfodol
oherwydd y sefyllfa ariannol sy’n ein hwynebu a’i fod yn anaddas i gyfarch
anghenion pobl ifanc ym mhob cymuned o’r sir a phobl ifanc o bob oedran rhwng
11 a 25.
·
Mai
14% yn unig o bobl ifanc y sir sy’n defnyddio’r gwasanaeth ar hyn o bryd. Wedi siarad â’r bobl ifanc, ‘roedd yn amlwg
nad oedd y gwasanaeth presennol yn apelio atynt, yn enwedig y bobl ifanc
hŷn yn yr ystod oedran 16-25, a’u bod yn awyddus i gael mynediad at
weithwyr ieuenctid drwy gydol yr wythnos, drwy’r ysgol ac yn eu cymunedau ar
benwythnosau ac yn y gwyliau ysgol.
·
Mai’r
bobl ifanc yw calon y gwasanaeth ieuenctid, ac nid adeiladau.
·
Nad
oedd yn deg dweud y byddai’r model newydd yn difa’r gwasanaeth.
·
Byddai
aros gyda’r drefn bresennol yn golygu y byddai’n rhaid cau rhai clybiau’n gyfan
gwbl tra byddai’r model newydd yn arwain at gynnal gweithgareddau ymhob
cymuned.
·
Y
dymunid diolch i’r mudiadau trydydd sector am gynnal trafodaethau gyda’r Cyngor
ac i’r Gwasanaeth Adfywio am eu cymorth i’r mudiadau hefyd.
·
Y
golygai’r gwelliant wneud asesiad teg o effaith y model newydd ar yr iaith
Gymraeg, a thrwy gyflogi mwy o weithwyr llawn amser, byddai gan y Cyngor fwy o
reolaeth ar y gweithgareddau, a mawr hyderid y byddai’r Gymraeg yn gryfach o
fewn yr hyn y bydd y gwasanaeth yn ei gynnig.
·
Bod
y gwasanaeth presennol yn cyrraedd llai na 25% o’r bobl ifanc a bod y
gwrthwynebwyr yn ceisio amddiffyn y lleiafrif.
I’r gwrthwyneb, ‘roedd y gwelliant yn cynnig cynllun newydd fydd yn
cyrraedd llawer mwy na 25% o’r bobl ifanc.
·
Mai
mater i’r aelodau oedd cadw’r clybiau yn agored yn eu wardiau eu hunain.
·
Y
credid y byddai’r gwelliant yn gwneud cyfiawnder â’r Urdd a Mudiad y Ffermwyr
Ifanc.
·
Y
pryderid y byddai cau’r clybiau yn arwain at blant a phobl ifanc heb ddim i’w
wneud yn cicio sodlau ar gorneli strydoedd ac yn cyflawni mân droseddau.
·
Y
pryderid bod y Cyngor wedi methu cysylltu’n gywir ac yn amserol gyda’r
cynghorau cymuned i esbonio beth oedd ar fin digwydd, ond bod y gwelliant yn
cynnig ffordd i fynd yn ôl at y cynghorau cymuned i drafod ymhellach.
·
Bod
pobl ifanc yn cael cymorth gyda phroblemau personol yn y clybiau.
·
Bod
angen llawer o arbenigedd y dyddiau hyn i weithio gyda phobl ifanc sydd â
phroblemau iechyd meddwl, ac oherwydd hynny, bod angen hyfforddiant, swyddi
proffesiynol a chefnogaeth, ac ati. Mae’r
bobl ifanc angen bob cymorth y gellir ei roi iddynt ac mae’r model newydd yn
gyfle i wneud hynny.
·
Hyd
yn oed pe na fyddai yna angen am doriad ariannol, byddai’r Cyngor wedi gorfod
edrych ar y maes hwn a bu sôn yn ôl yn 2007 bod angen trawsnewid y gwasanaeth i
gwrdd â gofynion pobl ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain.
·
Y
credir bod yna glybiau ieuenctid presennol sy’n tanseilio polisi iaith y Cyngor
a bod y drefn newydd yn mynd i atgyfnerthu’r polisi iaith.
·
Y
dylid, o gael y drefn newydd, fod yn adolygu’r sefyllfa yn rheolaidd ac yn
cymryd sylw o unrhyw bryderon gan edrych oes sail i’r pryderon hynny.
·
Na
ddymunir cael sefyllfa o ddryswch ac oedi a bod y gwelliant yn cyfeirio at
drafodaethau brys er mwyn cyrraedd y lle gorau ar gyfer plant a phobl ifanc.
·
Bod
y gwasanaeth yn gweithio i ddiogelu dyfodol y clybiau mae pobl yn dymuno eu
cadw’n agored.
·
Bod
y model newydd positif ac arloesol wedi’i lunio gan swyddogion sydd â phrofiad
blynyddoedd o weithio yn y maes.
Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y gwelliant a phleidleisiodd mwy na
chwarter yr aelodau oedd yn bresennol o blaid hynny.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y gwelliant:-
O blaid (39)
Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Menna Baines, Dylan Bullard, Steve Collings, Elwyn
Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Simon Glyn, Gareth Griffith, Selwyn
Griffiths, Annwen Hughes, Sian Wyn Hughes, Judith Humphreys, Nia Jeffreys,
Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones, Berwyn Parry Jones, Charles W.Jones. Elin
Walker Jones, Huw Wyn Jones, Linda A.W.Jones, Cai Larsen, Beth Lawton, Dafydd
Meurig, Linda Morgan, Dafydd Owen, Edgar Wyn Owen, Rheinallt Puw, Gareth
A.Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan
Thomas, Catrin Wager, Cemlyn Williams, Elfed Williams, Gethin Glyn Williams a
Gruffydd Williams.
Yn erbyn (30)
Y Cynghorwyr Freya Bentham, Stephen Churchman, R.Glyn Daniels, Anwen
Davies, Dylan Fernley, Peter Garlick, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Louise
Hughes, R.Medwyn Hughes, Aeron M.Jones, Anne Lloyd Jones, Elwyn Jones, Keith
Jones, Kevin Morris Jones, Sion Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Dilwyn Lloyd,
Dewi Owen, W.Roy Owen, Jason Parry, Dewi Roberts, Elfed Roberts, John Pughe
Roberts, Angela Russell, Mike Stevens, Hefin Underwood, Eirwyn Williams, Gareth
Williams ac Owain Williams.
Atal (1)
Y Cynghorydd Annwen Daniels
Gan i’r gwelliant gael ei dderbyn, eglurodd y Swyddog Monitro fod y
cynnig wedi newid a bod angen pleidlais bellach gyda geiriad y gwelliant yn
hytrach na’r geiriad gwreiddiol.
Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor hwn
hefyd yn gofyn i Gabinet y Cyngor ail-ystyried elfennau penodol o’r model
newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid y Sir a hynny oherwydd ein pryderon ar 3
chyfrif:-
1) y
newid pwyslais o’r cymunedol i les unigolion
2) yr
effaith ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir
3) yr
effaith ar yr iaith Gymraeg
Gofynnwn felly i’r Cabinet gynnal trafodaethau
brys, hynny erbyn diwedd y mis hwn, os yn bosib’, gyda phob un o’r cynghorau
tref, cymuned a dinas ynghyd ag asiantaethau perthnasol eraill. Diben hynny fyddai edrych ar ffyrdd o
gydweithredu er mwyn ariannu parhad cynifer â phosib’ o glybiau ieuenctid y
sir, lle dymunir hynny, tros y cyfnod traws-ffurfiannol ac er mwyn rhoi cymorth
priodol i’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol a fu’n derbyn nawdd tan yn ddiweddar.
Gofynnwn hefyd i’r Cabinet gynnal asesiad
ieithyddol o effaith yr ad-drefnu ac asesiad o’i effaith gymunedol ar ardaloedd
mwyaf difreintiedig y sir.”
Nododd cynigydd y cynnig gwreiddiol fod ei gynnig yn gofyn yn syml i’r
Cabinet ail-ystyried eu penderfyniad a dyna’n fras oedd yn y gwelliant
hefyd. Yn hynny o beth, nid oedd ganddo
wrthwynebiad i’r gwelliant gan ei fod yn cael ei gwmpasu o fewn ei gynnig. Rhybuddiodd, fodd bynnag, y byddai’n cadw
llygaid barcud ar y sefyllfa ac yn dod â’r mater yn ôl gerbron y Cyngor pe na
fyddai’r Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddwys i hyn, gan ragfarnu yn erbyn cau
clybiau ieuenctid a rhagfarnu hefyd yn erbyn peidio rhoi arian tuag at y
mudiadau gwirfoddol.