Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn argymell
i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Strategol penodol ar gyfer y flwyddyn
i ddod.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Gan gyfeirio at y Prosiect Gwynedd Digidol,
holwyd a fyddai’n bosib’ ymestyn y band eang yn ysgolion gwledig y sir i
adeiladau a thrigolion cyfagos fel bod y gymuned ehangach yn gallu manteisio ar
y ddarpariaeth. Nododd y Cadeirydd fod
hwn yn bwynt y gellid edrych i mewn iddo.
Gofynnwyd hefyd am sicrwydd y bydd y Cyngor yn dwyn pwysau ar BT Openreach i sicrhau bod band eang cyflym yn cyrraedd yr
holl ardaloedd gwledig. Nododd y
Cadeirydd fod hynny’n fater fydd yn cael sylw.
·
Gan gyfeirio at y templed Cynnal Asesiad
Effaith Cydraddoldeb yn Atodiad 2, nododd aelod iddi dderbyn cŵyn yn ddiweddar bod y pecyn priodi ar gyfer cyplau
un rhyw yn cynnwys y geiriau ‘priodferch’ a ‘phriodfab’ wedi’u
croesi allan a ‘phartner 1’ a ‘phartner 2’ wedi’u gosod yn eu
lle, a hefyd yn cynnwys y geiriau ‘ef’ a ‘hi’. ‘Roedd ar ddeall hefyd nad oedd yna gyfle i
rywun dywys y partneriaid i lawr yr eil.
Ychwanegodd fod hyn yn eithrio pobl a gofynnodd am i’r mater gael ei
drafod mewn pwyllgor craffu. Mewn
ymateb, nododd y Cadeirydd bod y rhain yn faterion y tu allan i’r Cynllun
Strategol, ond yn faterion sydd angen sylw, ac y byddai’r neges yn cael ei
phasio ymlaen i’r adran berthnasol.
·
Llongyfarchwyd y
Cabinet a’r swyddogion ar y Cynllun Strategol.
Nodwyd bod y ffocws yn glir iawn yn y ddogfen a chytunwyd mai dyma’r prif feysydd y dylai’r Cyngor fod yn edrych arnynt
yn strategol dros y cyfnod hynod o heriol sydd i ddod.
·
Gofynnwyd i’r
swyddogion wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod Gwynedd yn elwa ar gyfran
deg o’r £9m o arian Rhaglen Datblygu Gwledig a glustnodwyd gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer ardaloedd a chymunedau gwledig.
Nododd y Cadeirydd y byddai’r sylw’n cael ei basio ymlaen i’r
Cabinet. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd
fod rhaid i’r Cyngor fod yn ofalus ei fod yn denu cymaint â phosib’ o arian o
gronfeydd Ewrop. ‘Roedd record Cyngor
Gwynedd yn y maes yma’n arbennig o dda a diau y
byddai’r gwaith hwnnw’n parhau er sicrhau cymaint o
fudd ag y gellir i economi wledig y sir.
·
Nodwyd bod rhaid i’r Cyngor ei hun gymryd
camau i gryfhau’r economi leol, ond ‘roedd y system gynllunio bresennol yn milwrio
yn erbyn datblygiadau economaidd, a phwysleisiwyd y dylai’r Cyngor allu cefnogi
busnesau bach yn eu bro eu hunain, yn hytrach na’u gyrru i stadau diwydiannol
yn y trefi. Cytunodd y Dirprwy Arweinydd
â’r sylw gan nodi bod gweithgor o un o’r pwyllgorau
craffu yn edrych i mewn i’r sefyllfa er mwyn gweld sut y gellir
creu trefn gynllunio gadarnhaol sy’n annog, yn hytrach nag yn rhwystro, yr
economi.
·
Nodwyd bod agor
ysgol newydd Y Groeslon wedi golygu cau ysgol Carmel, oedd â dros 60 o
ddisgyblion ynddi, a bod yna rwyg yn y pentref oherwydd cau’r ysgol gan fod
llawer o blant Carmel bellach yn mynd i Benygroes.
·
Croesawyd yr adroddiad ond nodwyd ei fod yn
codi llawer mwy o gwestiynau nag y mae’n eu hateb. Croesawyd y ffaith bod gan y Cyngor dargedau
i anelu atynt, ond cwestiynwyd pa mor realistig ac ymarferol yw llawer ohonynt,
e.e. y bwriad i sefydlu Ysgol Dalgylch y Gader fel ysgol cyfrwng Cymraeg. Nodwyd nad oedd y ddogfen yn cyfeirio at yr
hyn sy’n mynd i ddigwydd yn Y Bala chwaith.
Hefyd, ni dderbynnid y gosodiad yn yr adran Tlodi, Amddifadedd, Economi,
Tai bod Gwynedd yn bell o’r ardaloedd mawr.
Er bod Gwynedd ar ymylon y Deyrnas Gyfunol, nid oedd yn bell o’r
ardaloedd poblog, megis Lerpwl a Manceinion, ac ‘roedd yn ymddangos nad oedd
yna ewyllys gwleidyddol i fanteisio ar agosrwydd Gwynedd at y marchnadoedd
yma. ‘Roedd y rhan yma o’r cynllun hefyd
yn sôn bod 1,993 o bobl wedi eu cofrestru ar restr aros am dŷ
cymdeithasol. A chymryd bod y ffigur hwn
yn cyfeirio at deuluoedd yn hytrach nag unigolion, ac o gymryd bod yna 3 person
ymhob teulu ar gyfartaledd, ‘roedd yn ymddangos felly bod oddeutu 6-7,000 o
bobl angen tŷ cymdeithasol yng Ngwynedd. ‘Roedd sôn hefyd yn y cynllun am gynnydd
arwyddocaol yn nifer busnesau’r sir sydd wedi ennill cytundebau gan y Cyngor,
ond beth mae ‘arwyddocaol’ yn ei olygu?
Cyfeiriwyd at y ffaith bod ysgol yng Ngwynedd
yn gweini cig eidion o Fotswana a gweithwyr tramor yn
cael eu cyflogi ar brosiect i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ardal
Deiniolen, a chyn hynny yng Ngharmel, a chwestiynwyd
faint o flaenoriaeth mae’r Cyngor yn ei roi i gyflogi’n lleol. Croesawyd y ffaith bod yna adran benodol i’r
Gymraeg yn y cynllun, ond pwysleisiwyd y dylai hyn fod yn rhan o bob un adran
arall yn ogystal fel ei fod yn greiddiol i’r adroddiad drwyddo draw, ac nid yn
sefyll ar ei ben ei hun. Deellid hefyd
bod y Cyngor wedi colli £500,000 o incwm budd-dâl tai, ond nid oedd yr aelodau
wedi derbyn unrhyw wybodaeth ynglŷn â hynny. Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelod a gododd y
pwyntiau hyn grisialu’r cwestiynau’n gryno a gofyn i’r Aelod Cabinet am
atebion.
·
Nodwyd bod y Cynllun Strategol yn ceisio
adnabod y meysydd lle gellir dylanwadu arnynt a
gwneud gwahaniaeth gyda’r adnoddau a’r grym sydd gan y Cyngor. ‘Roedd y dyddiau lle’r oedd y sector
gyhoeddus a’r cyngor lleol yn cymryd y baich ar gyfer popeth wedi diflannu ac
‘roedd angen i’r cynghorwyr chwarae eu rôl fel aelodau lleol er mwyn ceisio
harneisio’r adnodd fydd ar ôl.
·
Pwysleisiwyd nad
oes gan y Cyngor bwerau i atal gweithwyr tramor rhag dod i mewn a bod hynny’n fater sy’n dod o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd.
·
Nodwyd na all y
Cynllun Strategol, fel mae’n sefyll, ddelio gyda’r arferiad cyson a’r patrwm
cyson o dlodi gwledig sydd wedi bod yn rhan o’r drefn ers llawer gormod o
amser, ond dylid canmol y cynllun gan ei fod yn symudiad i’r cyfeiriad iawn.
I gloi, nododd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn
gwerthfawrogi’r sylwadau ar y Cynllun Strategol,
oedd yn gynllun
byw, a chadarnhaodd y rhoddid ystyriaeth i ymgorffori’r sylwadau hynny ynddo, neu
i’w gweithredu fel mater o ddydd i ddydd.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Cynllun Strategol.
Dogfennau ategol: