Agenda item

Dymchwel yr adeilad presennol a codi adeilad deulawr newydd er mwyn darparu 8 fflat a darparu llecynnau parcio. 

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

           

Cofnod:

         Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr

 

Dymchwel yr adeilad presennol a codi adeilad deulawr newydd er mwyn darparu 8 fflat a darparu llecynnau pacio. 

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi’r bwriad i ddymchwel siop a dau fflat presennol a chodi adeilad deulawr newydd yn ei le ar gyfer fflatiau a chreu darpariaeth parcio.  Lleolir y safle o fewn ffin ddatblygu Bangor a heb ei glustnodi na’i warchod ar gyfer unrhyw ddefnydd yn y Cynllun Datblygu Lleol.  Cyfeirwyd at y polisïau perthnasol a'r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.  Nodwyd mai Cartrefi Cymunedol Gwynedd ydoedd yr ymgeisydd a’r holl unedau yn cael eu cynnig fel anheddau fforddiadwy ar gyfer eu rhentu’n gymdeithasol, a’r cais yn cynnwys Datganiad Tai Fforddiadwy.  Roedd tystiolaeth amlwg bod angen am fflatiau o’r fath ar gyfer unigolion a theuluoedd ar rent cymdeithasol yn y ward, a’r Uned Strategol y Cyngor yn nodi bod y wybodaeth o safbwynt yr angen yn gyson gyda’r angen yn yr ardal.  Ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol o agwedd dyluniad ac edrychiad.  Gwelwyd o baragraffau 5.8 i 5.14 o’r adroddiad nad oedd gwrthwynebiad i’r materion a nodir yn y rhannau hynny.  Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gydag amodau perthnasol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Yn hanesyddol bod yr hen siopau yn Trem Elidir wedi bod yn anodd i’w gosod ac yn wag ers peth amser bellach

·         Bod y fflatiau yn fach iawn ac ddim i safon priodol

·         Bwriedir eu dymchwel ac adeiladu fflatiau newydd gyda’r bwriad o’u gosod ar gyfer rhent cymdeithasol ac ddim ar gyfer myfyrwyr neu unedau gwahanol

·         Bod anghenion tai yn uchel am unedau 1 a 2 lofft ar draws wardiau Bangor  gyda thros 800 ar y rhestr aros am uned un llofft a dros 1000 ar gyfer unedau 2 lofft ac felly yn amlwg bydd nifer o geisiadau ar gyfer yr 8 fflat arfaethedig

·         Bydd darpar denantiaid yn cael eu dethol oddi ar y gofrestr aros a weinyddir gan Tim Opsiynau Tai y Cyngor Gwynedd sydd yn gofrestr yn seiliedig ar sustem bwyntiau ac sydd yn rhoi pwyntiau ychwanegol i unigolion sydd gyda chysylltiadau lleol

·         Bod Uned Strategol Tai Cyngor Gwynedd yn gefnogol i’r bwriad

·         Apeliwyd ar i’r Pwyllgor Cynllunio gymeradwyo’r cais

 

(a)       Nododd Aelod (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), a oedd yn gweithredu ar ran yr Aelod Lleol, y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Ei bod yn gefnogol i’r cais cynllunio

·         Yn ôl y cynlluniau bod y fflatiau ar y llawr gwaelod yn rhai hygyrch ac yn addas ar gyfer pobl hŷn, pobl gydag anableddau a defnyddwyr cadair olwyn, gyda llecynnau parcio yn rhan o’r cynllun

·         Bod cau’r siop wedi bod yn golled i’r gymuned gyda’r adeilad wedi mynd a’i ben iddo dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddenu drwg weithredwyr, tipio ysbwriel ar y slei, a.y.b.  

·         Mai’r unig opsiwn ydoedd ei ddatblygu fel safle preswyl

·         Gan bod adeilad ar y tir yn barod roedd yn dir sydd yn cael ei gyfrif fel tir llwyd ac yn addas i adeiladu arno

·         Bod cymuned Maes Tryfan yn ddifrientiedig ac ddim yn gymwys ar gyfer arian Cymunedau’n Gyntaf

·         Bod anghenion teuluoedd wedi newid a’r angen am fwy o unedau amrywiol hygyrch ar gyfer anghenion y boblogaeth

·         Bod dirfawr angen am gartrefi i bobl Bangor ac yn arbennig i’r unigolion sydd yn awyddus i fyw mewn unedau llai rhag gorfod talu treth llofftydd ar hyn o bryd

·         Hyderir y bydd Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn parchu dymuniad trigolion lleol yn Maes Tryfan a thrigolion wardiau cyfagos Bangor i osod yr unedau arfaethedig i bobl leol

·         Bod y trigolion lleol yn dymuno gweld yr unedau ar gyfer cymysgedd o unigolion sef pobl ifanc, pobl hŷn, a phobl sy’n gweithio

·         Bod 100% o’r fflatiau yn rhai fforddiadwy a fydd yn cael eu gosod ar delerau rhent cymdeithasol

·         Ymddengys o’r ffigyrau ar y rhestr aros ar gyfer Ward Glyder bod 66 o unigolion ar restr aros am fflatiau un llofft  a  63 ar y rhestr aros am unedau 2 lofft

·         Dymuniad i weld fwy o finiau cyhoeddus fel rhan o’r cynllun

·         Gwerthfawrogir y cais a hyderir y ceir budd lleol drwy ddefnyddio llafur / busnesau lleol / cydweithio gyda Choleg Menai ar gyfer hyfforddiant prentisiaid, a.y.b., er rhoi cyfleoedd i pobl ifanc

 

(c)     Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

(ch)   Amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol o blaid yr argymhelliad:

 

·         Bod cefnogaeth i’r cynllun yn lleol, gyda’r safle wedi bod yn wag ers amser

·         Bod angen mwy o geisiadau cyffelyb i wella tai ym Mangor

 

(d)       Nododd Aelod ei bod yn cefnogi’r cais ac yn pwysleisio’r angen am storfa biniau i’r datblygiad arfaethedig.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio y gellir gosod amod priodol ar gyfer darpariaeth biniau

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i ganiatau yn unol a’r amodau canlynol: 

 

1       Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2       Unol gyda’r cynlluniau.

3       Amod safonol cyfyngu’r datblygiad i dai fforddiadwy yn unig.

4       Cytuno llechi to.

5       Cytuno gorffeniad waliau allanol.

6       Cyflwyno cynllun tirlunio er cymeradwyaeth o fewn deufis i gychwyn datblygu.

7       Amserlen gweithredu cynllun tirlunio.

8       Llefydd parcio a mynedfeydd i’w cwblhau yn unol gyda chynlluniau ac i fod yn weithredol cyn i’r tai gael eu meddiannu am y tro cyntaf.

9       Atal dŵr wyneb i’r briffordd

10    Gwyro llwybr cyswllt dan Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad  a Thref 1990 cyn dechrau’r gwaith

11    Amod Dŵr Cymru

12    Ni cheir dymchwel yn ystod tymor clwydo ystlumod (1 Medi-1 Mai)

13    Cyflwyno datganiad dull ar gyfer diogelu a gwarchod y coed a’i gwreiddiau yn ystod y cyfnod dymchwel ac adeiladu a’i weithredu yn unol â’r hyn a gytunir

14   Sicrhau darpariaeth biniau

 

               Nodiadau Ffyrdd

            Nodiadau Dŵr Cymru

Dogfennau ategol: