Agenda item

Dymchwel yr adeiladau presennol a codi 8 fforddiadwy ynghyd â creu mynedfa a lecynnau parcio.  

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr.

 

Dymchwel yr adeiladau presennol a codi 8 tŷ fforddiadwy ynghyd â creu mynedfa a llecynnau parcio.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod bwriad i’r datblygwr drosglwyddo’r eiddo i landlord cymdeithasol cofrestredig sef Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

 

          Mewn ymateb i’r sylw uchod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd yn bosibl trosglwyddo’r eiddo i gwmni penodol sef CCG yn yr achos hwn ac y byddai’n rhaid addasu argymhelliad y swyddogion cynllunio i adlewyrchu hynny.

 

          Tywyswyd y Pwyllgor Cynllunio drwy gynnwys yr adroddiad gan gyfeirio at y polisiau perthnasol a’r ymgynghoriadau cyhoeddus. Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn seiliedig ar yr angen am fwy o dai fforddiadwy; effeithiau andwyol ar ddiogelwch ffyrdd; effaith ar fwynderau trigolion lleol; gor-ddatblygiad; llecynnau parcio annigonol; problemau anghymdeithasol; cymeriad y tai ddim yn gweddu i’r ardal.  Nodwyd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ac ni ystyrir y byddai’r tai arfaethedig yn creu strwythurau gormesol nac anghydnaws ar sail eu ffurf, gosodiad a’u dyluniadau.

 

          Tynnwyd sylw at faterion cyffredinol a phreswyl, materion addysgol a materion trafnidiaeth a mynediad.  O ystyried yr holl faterion perthnasol yn ogystal â’r holl wrthwynebiadau a sylwadau dderbyniwyd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol. 

         

(b)     Nododd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ei bod yn gefnogol i’r cais a bod  Cyngor Cymuned Pentir yn  gefnogol hefyd.  Amlygodd y prif bwyntiau canlynol:

 

·            Bod y datblygiad yn cynnig 8 uned ac nid 8 gan ei fod yn ddarn bach o dir

·            Bod rhestr aros am dai ym Mangor gyda 40 o unigolion angen fflat un llofft a 68 yn aros am 3 llofft ac o ystyried mai 23 o unedau rhent cymdeithasol sydd ym Mhenrhosgarnedd bod y cais i’w groesawu

·            Bod y datblygiad yn cynnig tai fforddiadwy

·            Bod y safle yn gyfleus i gael unedau o fewn cyrraedd i ganol Bangor, o fewn

        cyrraedd hwylus i Ysbyty Gwynedd, siop leol, a gwasanaeth bws cyson

·            Y byddai’r fflatiau llawr gwaelod ar gyfer pobl hefo problemau symudedd

·            Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi cadarnhau bod y galw am y math yma o unedau yn uchel iawn

·            Hyderir y bydd ysytriaeth yn cael ei roi i bobl leol

·            Deallir ni ellir cyfyngu’r tai i ward Pentir yn unig a bod yr angen am dai yn uchel yn y wardiau cyfagos sef Glyder a Dewi

·            Diogelwch a traffigtra’n derbyn bod y traffig yn drwm yn ystod dyddiau’r wythnos deallir na fydd y datblygiad yn cyfrannu at ychwanegiad i’r ac yn wir all helpu’r achos oherwydd bydd y fynedfa yn cael ei lledu, ynghyd â’r encilfa  

·            Deallir na fydd y llwybr cyhoeddus yn ymyrryd ar y datblygiad ac yn ei wneud yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr

·            Derbynnir y bydd edrychiad yn gweddu i’r ardal

·            Mai datblygwr lleol fydd yn adeiladu’r datblygiad ac sydd yn cyflogi 6 o bobl ac yn gwmni sydd yn is-gontractio yn lleol

·            Bod y datblygiad yn ateb yr angen lleol ac yn debygol o ddod a budd i’r gymuned leol

 

(c)     Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

PENDERFYNWYD  yn unfrydol dirprwyo’r hawl i’r Uwch reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb o dan Adran 106 er mwyn trosglwyddo’r holl dai i reolaeth landlord cymdeithasol rhestredig ac i’r amodau isod:-

 

1. 5 mlynedd.

2. Yn unol â’r cynlluniau.

3. Llechi naturiol/deunyddiau.

4. Priffyrdd.

5. Bioamrywiaeth.

6. Dŵr Cymru.

7. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir (estyniadau a ffenestri).

8. Tirlunio.

Dogfennau ategol: