Agenda item
- Cyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Dydd Llun, 26ain Chwefror, 2018 10.30 y.b. (Item 5.9)
- Y cefndir i eitem 5.9
Cais ar gyfer lleoli 10 carafan deithiol ac un carafan sefydlog ar gyfer rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd John Brynmor Hughes
Cofnod:
Cais ar gyfer lleoli 10 carafán deithiol ac un carafán sefydlog ar gyfer
rheolwr, codi bloc cawodydd a thoiled, ffens atal sŵn, clawdd, ffordd
mynediad newydd a llefydd parcio i gapel gerllaw.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod
yr ymgeisydd yn honni bod y cae wedi ei ddefnyddio ar gyfer lleoli carafanau yn
y gorffennol. Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth gan yr asiant hwyr ddydd Gwener
ond oherwydd nid oedd hawl cynllunio neu dystysgrif cyfreithloni defnydd mewn
lle nid oedd yn bosib rhoi unrhyw bwysau ar y wybodaeth.
Tynnwyd sylw bod y safle wedi ei leoli tua 100 medr oddi
wrth dai cyfagos, tu allan i ffin datblygu fel y’i dynodir o fewn y CDLl, o fewn Ardal Cadwraeth a thu mewn i Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE).
Nodwyd bod yr Uned AHNE yn datgan
pryder y byddai’r safle garafanau newydd, a’r datblygiadau cysylltiedig yn
amharu ar yr AHNE a’r Ardal Gadwraeth. Teimlir na fyddai tirlunio yn lleihau
ardrawiad y bwriad ar y tirlun mewn modd digonol a fyddai’n goresgyn pryderon
am amlygrwydd y safle yn y dirwedd o fewn yr AHNE a’r Ardal Gadwraeth.
Adroddwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi
datgan y byddai’r bwriad yn debygol o amharu yn sylweddol ar ddiogelwch ffyrdd.
Nodwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol
o safbwynt egwyddor ac ar sail y materion fel y nodir yn yr adroddiad sef y
byddai'r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol
ar olygfeydd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardal Cadwraeth y
pentref, diogelwch ffyrdd ac yn debygol o amharu ar fwynderau trigolion
cyfagos.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Nid oedd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth
i’w gweld ar y system dilyn a darganfod ar wefan y Cyngor a ni dderbyniwyd
ymateb hyd yn hyn gan yr Uned i ymholiad a gyflwynwyd;
·
Nid oedd y dogfennau ynghlwm
â’r cais yn ymddangos ar y system dilyn a darganfod yn amserol;
·
Bod defnydd fel safle Clwb
Carafanau eisoes mewn un cae gyda chae arall efo carafanau teithiol arno;
·
Bod y fynedfa bresennol yn
beryglus gyda diffyg gwelededd felly roedd dull arall i gael mynediad yn rhan
o’r cais;
·
Bod yr Uned Bioamrywiaeth yn
ddiweddar wedi cadarnhau nad oeddent erbyn hyn yn gwrthwynebu;
·
Bod digon o le ar y safle i
blannu er mwyn sgrinio’r datblygiad.
(c) Cefnogwyd y cais gan aelod oedd
yn gweithredu fel aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi'r
prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod problemau parcio ar y
ffordd felly croesawir bod y cais yn cynnwys maes parcio a fyddai’n cael ei
ddefnyddio’n achlysurol ynghlwm â gweithgareddau yn y Capel;
·
Bod maes carafanau teithiol ar
y safle ers y 1950au gyda thystiolaeth i brofi hyn gan yr ymgeisydd;
·
Bod y fynedfa bresennol yn
beryglus;
·
Bod yr ymgeisydd yn edrych i
wella’r cyfleusterau ar y safle.
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio:
·
Ddim yn ymwybodol nad
oedd y wybodaeth am y cais ar wefan y Cyngor yn amserol ond efallai bod problem
wedi bod;
·
Nid oedd yr asiant wedi manteisio ar y cyfle i dderbyn cyngor cyn
cyflwyno cais lle byddai’r pryderon wedi eu hamlygu;
·
Bod safleoedd a
oedd yn gweithredu fel safle Clwb Carfanau efo hyd at 5 uned deithiol, roedd y
cais gerbron ar gyfer 10 uned. Derbyniwyd lluniau ond byddai’n rhaid derbyn
cais ffurfiol gyda rhagor o dystiolaeth o ran tystysgrif cyfreithloni defnydd;
·
Derbyn bod y
ffordd yn beryglus os oedd defnydd fel Clwb Carafanau ar gyfer 5 uned ond
byddai creu datblygiad mwy trefol gyda mwy o symudiadau cerbydol ddim yn ateb;
·
Cadarnhau bod
materion bioamrywiaeth wedi eu datrys.
(d) Cynigiwyd
a eiliwyd i gynnal ymweliad safle.
Nododd y cynigydd y prif sylwadau canlynol:
·
Y dylid ymweld â’r safle
oherwydd y pryderon o ran mwynderau gweledol, effaith ar fwynderau
trigolion cyfagos a’r fynedfa a diogelwch
ffyrdd;
·
Cytuno bod angen ystyried os oedd
y garafán sefydlog ar gyfer rheolwr
yn hanfodol i’r safle;
·
Bod y safle wedi ei ddefnyddio
fel safle Clwb Carafanau ers blynyddoedd lawer a thu hwnt
gyda darpariaeth ar y safle ar
hyn o bryd ar gyfer 10 uned
deithiol;
·
Pe byddai’r ymgeisydd yn gwneud
cais am dystysgrif cyfreithloni defnydd, a’i fod yn
llwyddiannus, byddai’r defnydd yn dod yn awdurdodedig
heb amodau. Felly, byddai’n well caniatáu’r cais efo amodau.
(dd) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:
·
Byddai ymweliad safle yn
ddoeth o ystyried y materion a nodwyd;
·
Ni ellir
damcaniaethu o ran cyfreithloni defnydd, roedd yn fater i’r ymgeisydd brofi bod
defnydd hanesyddol. Yn debygol bod angen mwy o wybodaeth yn yr adroddiad o ran
defnydd fel safle Clwb Carafanau i fod o gymorth i’r aelodau;
·
Pe byddai’r
ymgeisydd wedi manteisio ar y cyfle i dderbyn cyngor cyn cyflwyno cais byddai’r
swyddogion efallai wedi ei gynghori i wneud cais am dystysgrif cyfreithloni
defnydd, roedd y cais cynllunio gerbron yn gynamserol yng nghyd-destun
ystyriaeth o unrhyw ddefnydd hanesyddol;
·
Byddai ymweliad safle o
ochr trafnidiaeth i’w werthfawrogi o ran lleoliad y fynedfa.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.
Dogfennau ategol: