Dymchwel Neuadd eglwys ar wahan bresennol a chodi neudd eglwys yn gysylltiedig wrth eglwys bresennol Santes Helen, Penisarwaun, ynghyd â chreu parcio ar y safle ar gyfer saith cerbyd gan gynnwys dau le ar gyfer yr anabl.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Elwyn Jones
Cofnod:
Dymchwel neuadd eglwys ar wahân presennol a chodi neuadd eglwys yn
gysylltiedig wrth eglwys bresennol Santes Helen, Penisarwaun,
ynghyd a chreu parcio ar y safle ar gyfer saith cerbyd gan gynnwys dau le ar
gyfer yr anabl.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Gorfodaeth ar
gefndir y cais, gan nodi y byddai’r adeilad newydd yn darparu gofod ar gyfer
gweithgareddau cymunedol, siop a chaffi, festri, storfeydd a thoiledau.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion y pentref
mewn ardal anheddol, ac o fewn ffin datblygu pentref Penisarwaun
yn y Cynllun Datblygu. Nid oedd yr eglwys yn rhestredig, ond roedd y safle wedi
ei leoli o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.
O safbwynt mwynderau gweledol, mwynderau trigolion a phreifatrwydd ystyrir
fod y bwriad yn dderbyniol. Roedd y bwriad yn ogystal yn cydymffurfio â
pholisïau yn y Cynllun Lleol ynglŷn â manwerthu. Cyflwynwyd arolwg
rhywogaethau gwarchodedig gyda’r cais ac nid oedd gan yr Uned Bioamrywiaeth na
Chyfoeth Naturiol Cymru wrthwynebiad i’r bwriad cyn belled fod y datblygwr yn
gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad hwnnw.
Tynnwyd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth
unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad cyn belled fo’r datblygwr yn dilyn y cynlluniau
a gyflwynwyd.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt
polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad
o’r safle;
·
Bod neuadd gymunedol ym Mhenisarwaun
felly nid oedd angen y neuadd;
·
Pryder o ran
diogelwch ffyrdd;
·
Bod pobl leol ddim angen
nac eisiau’r neuadd.
(c) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y neuadd bresennol yn
dirywio ac fe fyddai’r neuadd newydd yn ychwanegu at y gymuned;
·
Byddai mynediad i’r anabl a
thoiledau wedi eu cynnwys yn y neuadd;
·
Wedi trafod efo’r Uned
Drafnidiaeth a swyddogion cynllunio yng nghyswllt dull rheoli cyflymder ar y
ffordd;
·
Ni fyddai’r siop yn gweithredu
am elw ac ni fyddai’n cystadlu efo llefydd eraill;
·
Nid oedd sail cynllunio i’r
gwrthwynebiadau a gyflwynwyd;
·
Y derbyniwyd llythyrau
gefnogaeth gan bobl leol.
(ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Ei fod yn gweld y ddau ochr
ond ei fod yn tueddu i ochri efo’r gwrthwynebwyr;
·
Nid oedd pobl leol yn gweld
angen am neuadd a phryderon o ran diogelwch ffyrdd;
·
Bod neuadd gymunedol lewyrchus
yn yr ysgol.
(d) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Er yn cydymdeimlo efo’r gwrthwynebwyr byddai’r neuadd yn ased
i’r pentref a’r eglwys;
·
A fyddai’n ofynnol i gynnal
ymgynghoriad cyhoeddus o
ran gosod twmpathau fel rhan o ddull
rheoli cyflymder ar y ffordd?
·
Dylid mynd efo sylwadau’r Cyngor Cymuned a’r Aelod Lleol
nad oedd angen neuadd arall
yn y pentref;
·
Bod yr elfen siop o’r
datblygiad i’w groesawu;
·
Ddim yn gweld yr angen
a byddai’n or-ddatblygiad o’r safle gan
guddio golygfeydd a thynnu oddi ar
brydferthwch yr eglwys;
·
Ni fyddai’n or-ddatblygiad o’r safle.
(dd) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:
·
Ni fyddai’n ofynnol
i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus gan fod y bwriad yn golygu ychwanegu pâr o
dwmpathau at y twmpathau presennol. Byddai’r bwriad yn cael ei drafod efo’r
Cyngor Cymuned ac fe hysbysebir y bwriad;
·
Bod neuadd yn
bresennol ar y safle a bod y bwriad yn golygu ei ddymchwel gan adeiladu neuadd
newydd. Nid oedd rheswm o ran gorddarpariaeth yn sail gadarn i wrthwynebu’r
bwriad.
PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau:
1. Amser 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. To llechi a gorffeniad
allanol yr adeilad i weddu gyda’r eglwys.
4. Amodau Priffyrdd / Parcio
5. Cyfyngu arwynebedd llawr y
siop / caffi
6. Gwaith
i ddigwydd yn unol â'r Adroddiad Ystlumod
7. Amod i gyfyngu'r gwaith
dymchwel ac adeiladu i 09:00-18:00 Dydd Llun - Dydd Gwener, 09:00-13:00 Dydd Sadwrn, a dim o gwbl ar Ddydd
Sul a Gŵyl y Banc.
8. Amodau Archeolegol
9. Amodau Dŵr Cymru
Nodiadau
1. Priffyrdd
2. Dŵr Cymru
3. Gwasanaeth Archeoleg
4. Cyfoeth Naturiol Cymru
Dogfennau ategol: