skip to main content

Agenda item

Creu maes carafannau statig newydd ar gyfer 11 carafan, ynghyd â chodi adeilad derbynfa / lolfa newydd, creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd fynediad, llecyn parcio a maes chwarae. 

 

AELOD LLEOL:         Y Cynghorydd E. Selwyn Griffiths

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Creu maes carafanau statig newydd ar gyfer 11 carafán, ynghyd a chodi adeilad derbynfa / lolfa newydd, creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd fynediad, llecyn parcio a maes chwarae.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig a thu allan (er yn gyfochrog) i ffin datblygu pentref Morfa Bychan.

 

         Nodwyd mai un o’r prif bolisïau i’w ystyried wrth asesu egwyddor y datblygiad oedd Polisi TWR 3 o‘r CDLl. Y rhan perthnasol o’r polisi o safbwynt y cais penodol yma oherwydd ei leoliad tu mewn i Ardal Tirwedd Arbennig oedd rhan 1 sy’n datgan y “gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd (h.y. carafán sengl neu ddwbl), safleoedd siale gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen parhaol yn…Ardaloedd Tirwedd Arbennig”. ‘Roedd y bwriad yn groes i ofynion Polisi TWR 3.

 

         Derbyniwyd gwrthwynebiadau gan drigolion lleol gan gyfeirio at effaith niweidiol tebygol y bwriad ar eu mwynderau preswyl. Amlygwyd bod tai preswyl yn amgylchynu’r safle ar dair ochr, rhai o fewn pellter o oddeutu 12m i rai o’r unedau arfaethedig. Credir bod y bwriad yn debygol o arwain at aflonyddu pellach ag y byddai trwy hynny yn annerbyniol o safbwynt Polisi PCYFF 2 o’r CDLl.

 

         Tynnwyd sylw y cyflwynwyd y cais yn wreiddiol gan ddangos bwriad i gysylltu draeniad budr y safle i’r brif garthffos gyhoeddus. Derbyniwyd gwrthwynebiad i’r bwriad yma gan Dŵr Cymru oherwydd y byddai yn gorlwytho’r system gyhoeddus. O ganlyniad, diwygiwyd y cais trwy gynnwys gwaith trin preifat ar y safle, ac o ganlyniad, tynnwyd gwrthwynebiad Dŵr Cymru yn ôl. ‘Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn gwrthwynebu’r bwriad yn ei ffurf ddiwygiedig gan nodi “Nid yw adeiladu gwaith trin carthion preifat mewn ardal sydd â system garthffosiaeth gyhoeddus (prif garthffos yn rhedeg trwy’r safle) yn cael ei ystyried yn dderbyniol o safbwynt yr amgylchedd.”

 

         Roedd y bwriad i greu maes carafanau statig newydd yn annerbyniol gan ei fod yn methu bodloni gofynion y polisïau perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod dynodiad yr Ardal o Dirwedd Arbennig wedi ei gydnabod a’i barchu;

·         Nad oedd y tir yn ei ffurf bresennol yn ychwanegu at yr ardal gan ei fod yn ddiffaith a heb ddefnydd;

·         Byddai’r datblygiad yn cael effaith minimal ar y dirwedd;

·         Nid oedd Dŵr Cymru yn gallu gwrthod defnyddio’r system garthffosiaeth gyhoeddus felly gellir datrys y sefyllfa;

·         O ran Polisi PCYFF 2 o’r CDLl, nid oedd effaith tebygol yn ddigonol i wrthod ar sail y polisi yma;

·         Gobeithio bod y Pwyllgor yn ymwybodol o’r llythyrau cefnogaeth a gyflwynwyd gan bobl leol.

 

(c)     Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod Cyngor Tref Porthmadog yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Byddai’n or-ddatblygiad o’r safle gyda’r adeilad derbynfa/lolfa yn rhy fawr;

·         Nid oedd y tir o werth bioamrywiaeth oherwydd bod y tir wedi ei chwalu ers blynyddoedd;

·         Bod polisi cadarn y gwrthodir ceisiadau am safleoedd carafanau sefydlog newydd o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig;

·         Bod yr adroddiad gan gwmni Gillespies yn nodi bod dim capasiti ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog newydd nac estyniadau yn Ardal Porthmadog;

·         Cwestiynu’r angen yn yr ardal am safle newydd.

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y tir wedi ei glirio. Nodir yn yr adroddiad y derbyniwyd deiseb o ran colli tir gwyrdd, a dderbyniwyd llythyrau yn cefnogi’r cais?

·         Y dylid cynnal ymweliad safle;

·         Nid oedd yr ardal yma angen cynnydd pellach yn y lefel o draffig a gan fod y safle o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig nid oedd y bwriad yn dderbyniol;

·         Byddai’r bwriad yn cael effaith weledol ar y dirwedd ac yn effeithio ar fwynderau preswyl trigolion cyfagos.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Nodwyd gwybodaeth o ran llythyrau a dderbyniwyd yn cefnogi’r cais ar y daflen sylwadau ychwanegol;

·         Bod y datblygiad yn annerbyniol o ran egwyddor a bod adroddiad cwmni Gillespies yn nodi nad oedd capasiti amgylcheddol yn y dirwedd i feysydd carafanau sefydlog. Gan fod y cais yn erbyn egwyddor, ni welir pwrpas mewn cynnal ymweliad safle.

 

PENDERFYNWYD       Gwrthod am y rhesymau canlynol:

 

1.    Mae’r bwriad yn golygu creu safle carafanau sefydlog oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig.  Nid yw polisïau TWR 3, AMG 2 ac AMG 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn caniatáu datblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd oddi fewn i Ardaloedd Tirwedd Arbennig.  Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisïau TWR 3, AMG 2 ac AMG 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).

 

2.    Mae polisi ISA 1 yn caniatáu cynigion pan fo capasiti isadeiledd digonol yn bodoli. Yn yr achos yma, ni chredir y byddai darparu gwaith trin carthffosiaeth breifat o fewn ardal sydd â system garthffosiaeth gyhoeddus yn dderbyniol ac felly ni chredir fod y bwriad yn bodloni gofynion perthnasol polisi ISA 1.

 

3.    Mae gofynion perthnasol PCYFF 2 yn datgan y gwrthodir cynigion os fyddant yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau meddianwyr eiddo lleol oherwydd mwy o weithgareddau, aflonyddwch neu ffurfiau eraill o aflonyddwch. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn fod y bwriad yn debygol o arwain at aflonyddu pellach ar fwynderau trigolion lleol ag y byddai trwy hynny yn annerbyniol o safbwynt polisi PCYFF 2.

 

 

Dogfennau ategol: