Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Dafydd Owen
Cofnod:
Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan
gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd a 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar gefnen o dir
uchel, coediog, uwchlaw cefnffordd yr A55. ‘Roedd y cynllun hwn yn ddiwygiad o
gynllun a gyflwynwyd yn flaenorol ar safle oddeutu 200m i’r de a dynnwyd yn ei
ôl oherwydd pryderon ynghylch yr effaith posibl ar heneb restredig gyfagos.
Tynnwyd sylw y derbyniwyd sylwadau yn gwrthwynebu’r cais yn
ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar sail pryder ynghylch yr effeithiau posibl ar
fywyd gwyllt, effaith weledol niweidiol, niwed i’r dirwedd hanesyddol
ddynodedig, effaith niweidiol ar henebion cyfagos, niwed posibl i goed gerllaw,
niweidiol i fwynderau defnyddwyr llwybr cyhoeddus prysur gerllaw ac fe allai’r
datblygiad fod yn niweidiol i’r ffynnon hanesyddol gerllaw gan lygru’r dŵr
a lifai ohono.
Nodwyd bod Polisi PS 3 y CDLl
yn gefnogol i’r ddarpariaeth o gyfleusterau newydd i estyn neu wella
cysylltiadau technolegau cyfathrebu ym mhob rhan o ardal y Cynllun yn amodol ar
fesurau amddiffyn priodol.
Adroddwyd y cyflwynwyd datganiad o
gydymffurfiaeth gyda gofynion yr ICNIRP (International Commission
on Non-Ionizing Radiation Protection) fel rhan
o’r cais, a oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i gydymffurfio
gyda chanllawiau’r ‘ICNIRP,’ sef y canllaw rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer y
math yma o ddatblygiad.
Gyda’r math yma o ddatblygiad, roedd yn anorfod
y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus
oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y
byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Er hynny fe gredir, yn yr achos yma, byddai lleoliad coediog y safle yn
golygu byddai’r tŵr yn weddol guddiedig o’r rhan fwyaf o fannau cyhoeddus.
Ar y cyfan, credir byddai’r tŵr yn annhebygol o gael effaith amlwg hir
dymor ar fwynderau gweledol yr ardal leol.
Nodwyd bod gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r
cais yn rhestru’r safleoedd eraill a ystyriwyd cyn penderfynu ar y safle yma.
Gwelir fod y rhain wedi cael eu diystyru am amrywiol resymau. Cydnabyddir felly
fod ymgais wedi ei wneud i ganfod safleoedd eraill ond mai’r safle hwn oedd
wedi ei adnabod fel yr un mwyaf addas ar gyfer y bwriad yn sgil ystyriaeth o
faterion ymarferol, technegol a mwynderol.
Ni chredir bod unrhyw effeithiau niweidiol
arwyddocaol i fwynderau trigolion lleol yn debygol o ddeillio o’r datblygiad.
Nodwyd bod y safle yn addas o ran ei leoliad ac yn dderbyniol o safbwynt ei
effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl yr ardal.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt
polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn siarad ar
ran trigolion lleol a oedd yn gwrthwynebu’r
bwriad;
·
Bod
ail-leoli safle’r mast telathrebu yn newid
materol yn hytrach na newid
i’r bwriad;
·
Nid oedd yr ymgeisydd wedi
asesu safleoedd fel rhan o’r
cais presennol a ni ddilynwyd y broses o ymgynghori cyn gwneud cais;
·
Bod
angen y ddarpariaeth ond roedd rhaid
pwyso a mesur o ran yr effaith ar
fwynderau lleol;
·
Gofyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle
gan fod y mast yn amhriodol i’r
safle gyda safleoedd gwell a byddai effaith weledol y mast yn waeth na’r hyn
a ddangosir yn y lluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r
cais.
(c)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod darpariaeth signal 3G a 4G
yn yr ardal yn wael a bod defnyddwyr ddim yn gallu defnyddio’r ddarpariaeth tu
mewn;
·
Bod safle’r mast wedi ei symud
200m ers y cais blaenorol mewn ymateb i sylwadau CADW;
·
Byddai’r datblygiad yn dod a
budd cymdeithasol ac economaidd i’r ardal;
·
Byddai’n cyfrannu at amcan y
Llywodraeth o ran darparu gwasanaeth 3G a 4G;
·
Byddai’r mast 45m i ffwrdd o
dai;
·
Byddai’r mast yn uwch na’r
coed gerllaw, byddai lleihau uchder y mast yn golygu gosod mwy o gyfarpar.
(ch)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod y safle newydd yn bellach
i ffwrdd ar dir is, cwestiynu sut oedd y signal am gyrraedd y pant;
·
Pryder o ran yr effaith
weledol;
·
Pryder y byddai’r bwriad yn
arwain at lygru’r dŵr yn y ffynnon gerllaw;
·
O’r farn bod y mast yn rhy
agos at dai;
·
Hoffi gweld diagram i ddangos
faint fyddai’r signal yn ymestyn;
·
Angen derbyn cadarnhad sut y
ceir trydan i’r safle, ai uwchben neu o dan ddaear;
·
Awgrymu y dylid cynnal
ymweliad safle;
·
Bod lleoliadau amgen gwell ar
gyfer gosod mast
(d) Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais er
mwyn cynnal ymweliad safle a derbyn mwy o wybodaeth.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod angen derbyn gwybodaeth o ran yr ardal y byddai’r
mast yn darparu signal ac o
ran yr angen a’r ddarpariaeth bresennol;
·
Bod yr effaith weledol wedi ei asesu
yn yr adroddiad
ond ddim yr agwedd dechnegol;
·
Angen derbyn gwybodaeth o ran faint o safleoedd
eraill a aseswyd;
·
Bod angen y ddarpariaeth yn Nhregarth;
·
Ei fod yn ymddangos bod y mast wedi ei leoli
ochr anghywir y bryn a bod angen derbyn mwy o wybodaeth;
·
Bod diffyg darpariaeth yn yr ardal a’i
fod yn effeithio
ar yr economi;
·
Bod y cwmnïau ynghlwm â’r cais
efo profiad helaeth yn y maes;
·
Bod angen cadarnhad lle byddai’r
llinell drydan i’r mast ac os oedd angen creu
trac ar ei
gyfer;
·
Bod angen trafod y pryderon efo’r Aelod Lleol
cyn cysylltu efo’r ymgeisydd;
·
Bod angen cadarnhad bod y ffynonellau dŵr am fod yn ddiogel ac na fyddai’r datblygiad a’r gwaith peirianyddol ynghlwm yn effeithio
ar lif y dŵr i’r ffynnon.
PENDERFYNWYD gohirio’r
cais er mwyn cynnal ymweliad safle a derbyn mwy o wybodaeth.
Dogfennau ategol: