I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017.
(Copi’n amgaeedig)
Cofnod:
Cyflwynwyd: Cofno
Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofno
Eitem
6 (b) – Cyfeiriwyd at y cofnod a dymunai y Cyng. Rob Triggs nodi nad oedd y
stropiau wedi methu.
Mewn ymateb i’r uchod, eglurodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig bod angen adolygu’r ddogfennaeth a phwysleiswyd bwysigrwydd i
dderbyn tystiolaeth cyfredol a chywir ynglyn â chyflwr angorfeydd. Ychwanegwyd bod cyfrifoldeb ar bob perchennog
cwch i sicrhau bod angorfeydd yn addas i’r pwrpas. Cadarnhawyd bod angorfeydd y Cyngor yn addas
ac i safon uchel.
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â risg i’r Cyngor
ynglyn â chyflwr angorfeydd, sicrhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad
oedd risg o gwbl i’r Cyngor ond pwysleiswyd y byddai’n achos o bryder ac yn
effeithio ar bremiwm yswiriant perchnogion cychod, pe na fyddai’r angorfeydd
sydd mewn perchennogaeth preifat i fyny i safon a thystiolaeth perthnasol i
warantu hynny.
Materion
yn codi o’r cofnodion:
(a) Eitem 6 (d) – Cynnal a
Chadw
Nodwyd y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr
Feistr yn gallu diweddaru Aelodau o raglen waith cynnal a chadw dros gyfnod y
gaeaf.
(b) Penderfyniad (b) yn Eitem 6 -
Ffonau Gwasanaeth Brys
Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod, esboniodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd neb wedi defnyddio’r ffonau
Gwasanaeth Brys ers dros ddwy flynedd a bod signal ffonau symudol ar gyfer 999
ar gael ymhob un o’r lleoliadau maent wedi eu lleoli heblaw Porth Ceiriad
(Dwyfor).
Penderfynwyd: Cyfleu i’r Aelod Cabinet perthnasol
gymeradwyaeth y Pwyllgor Ymgynghorol i waredu y ffonau Gwasanaeth brys yn
Abermaw a Fairbourne oherwydd y costau sydd ynghlwm iddynt a’r diffyg defnydd
ohonynt.
(ch) Eitem (iv) – Diogelwch Parcio
Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei
fod wedi trafod gyda’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth ynglyn â’r darn sydd wedi ei
liwio gyda llinellau melyn wrth ymyl adeilad SS Dora ac wedi derbyn cadarnhad
ei fod yn weithredol fel rhan o’r gorchymyn parcio. Fe fydd perchennog unrhyw gerbyd sydd yn
parcio ar y llecyn dan sylw yn derbyn tocyn parcio gan y Swyddog Gorfodaeth.
Ychwanegwyd nad oedd unrhyw benderfyniad pellach
wedi ei wneud ynglyn â ffordd ger y compownd.
(c) Digwyddiadau
Adroddwyd ei fod yn gamarweiniol yn y cofnod o
safbwynt trefnu digwyddiadau yn yr Harbwr ac y dylai’r cofnod ddarllen y dylai
“trefnwyr gysylltu â’r Gwasanaeth Morwrol yn gyntaf i gael caniatad i gynnal
gweithgareddau”.
(dd) Ardal Weithgareddau wedi ei raffu i ffwrdd
Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod
ardal o dan y Bont, yn ymyl yr hen orsaf y Bad achub wedi ei adnabod fel ardal
weithgareddau ac y byddir yn rhoi rhes o fwiau melyn i gadw cychod o’r ardal
penodol yma, a’i dreilau am gyfnod.
Esboniwyd nad oedd ardal arall ar gael ac nad oedd yn ddŵr a oedd
wedi ei adnabod ar gyfer ymdrochi.
Pwysleiswyd yr angen i drefnwyr cystadlaethau ymgymryd ag asesiadau risg
er mwyn sicrhau diogelwch cystadleuwyr.
(d) Taclusrwydd cyffredinol a
lle storio o amgylch yr Harbwr
Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
bwysigrwydd i sicrhau cydweithio gyda defnwyddwyr masnachol yr Harbwr er
taclusrwydd cyffredinol o amgylch yr Harbwr ac esboniwyd mewn ymateb i ymholiad
gan Aelod nad oedd y sefyllfa ‘run fath â Harbwr Aberdyfi pryd y codwyd gan
Archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau (MCA) bod angen tacluso oddi amgylch
cei harbwr Aberdyfi.
(e) Parth Gwahardd Cychod Pwêr
/ Cychod Dŵr Personol
Yn deillio o bryder amlygwyd gan Aelod ynglyn â’r
datganiad yng nghofnod y cyfarfod diwethaf nad oedd risg i’r cyhoedd pe na
fyddir yn adfer y bwiau i farcio’r parth ymdrochi, adroddodd y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig mai nifer isel iawn sydd yn ymdrochi yn y parth dan sylw a
barn y Gwasanaeth Morwrol ydoedd peidio rhoi bwiau i farcio’r parth a bod y
risg yn isel oherwydd nad oedd cychod yn hwylio ddigon agos I’r lan yn yr ardal
hon. Bydd staff yr harbwr yn cadw llygad
ar yr ardal dan sylw dros yr haf ac yn adrodd ar yr hyn bu iddynt arsylwi arno
dros fisoedd yr haf.
Ychwanegwyd bod y Gwasanaeth yn gosod bwiau i fyny’r
foryd yn ymyl Caerddaniel er mwyn lleihau’r risg ond ei fod yn lafurus a
chostus i’w rhoi yn ôl ar eu safleoedd yn ddyddiol yn ogystal â’r ffaith bod
nifer sylweddol yn mynd ar golly n flynyddol.
Dogfennau ategol: