Agenda item
I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r Pwyllgor ar faterion
rheolaethol yr Harbwr.
(a)
Croesawyd Alison Kinsey, Cydlynydd Grŵp Gweithredu Lleol
Pysgodfeydd Bae Ceredigion, a oedd wedi gwneud cais i fynychu’r cyfarfod ac fe
esboniodd bwrpas FLAG (Fisheries Local Action Group). Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
- Bod 4 grwp yn
weithredol yng Nghymru i bwrpas cefnogi’r diwydiant a chymunedau
pysgota: Llandudoch i Abermaw, Ynys
Môn a Gwynedd, Bae Abertawe a Cleddau i’r Arfordir
- Bod FLAG yn derbyn
arian Ewrop a bod oddeutu £160,000 ar gael i’w wario hyd at 2020 a hyderir
y gellir gwneud defnydd ohono drwy roi gymorth i prosiectau bychan sydd yn
cael eu harwain o’r gymuned
- Bod strategaeth wedi
ei lunio yn seiliedig ar angen lleol
- Rhoddir blaenoriaeth
ar gyfer ariannu prosiectau sydd yn:
Ø
ychwanegu
gwerth
Ø
creu
swyddi
Ø
denu
pobl ifanc a
Ø
hyrwyddo
arloesedd ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi o gynhyrchion pysgodfeydd
- Gellir cynnig cymorth
ariannol refeniw at brosiectau megis:
datblygu prosiectau, prosiectau peilot,
astudiaethau dichonoldeb, hyfforddiant, mentora, hwyluso ac ymgynghori.
Rhoddwyd engreifftiau o’r math o
weithgareddau y gellir eu cynnal gyda chymorth FLAG:
- Gŵyl fwyd môr ar
y cei
- Cystadleuaeth coginio
bwyd môr rhwng cogyddion y gwestai lleol
- Anfon fflyd o
bysgotwyr allan i’r môr i ddal pysgod
- Annog yr Ysgol leol i
gymryd rhan mewn cystadleuaeth coginio bwyd môr
- Cydweithio gyda grwp o
bysgotwyr lleol i gynnal gweithgareddau, a.y.b.
I gloi, esboniodd y Cydlynydd bod Mr Neil
Storkey o Aberdyfi, yn gweithio’n agos gyda hi, ac y byddai cael cynrychiolydd
o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw yn fanteisiol i fod yn rhan o gyfarfodydd
FLAG i’r dyfodol.
Yn ogystal cyfeirwyd at Cywain sydd yn rhan o
brosiectau Menter a Busnes a ddatblygwyd i gefnogi datblygu cynnyrch a
marchnadoedd i gynnyrch amaethyddol a physgodfeydd.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
- Bod gan Abermaw fwytai
ardderchog ac y byddai’n ddelfrydol i gynnal gŵyl fwyd môr ar y cei
- Bod grŵp Cambrian
yn weithredol sydd yn casglu deunyddiau plastig a olchir o’r môr ar y
traeth
Cynigwyd ac eilwyd i enwebu y Cynghorydd Rob
Triggs i fod yn bwynt cyswllt o’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn ac addawodd y
Cydlynydd y byddai’n cysylltu ag ef yn uniongyrchol gyda unrhyw wybodaeth
pellach.
Penderfynwyd: Cymeradwyo i enwebu’r Cynghorydd Rob
Triggs i gynrychioli’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn mewn cyfarfodydd grŵp FLAG
yn yr ardal.
(b)
Nododd y Cadeirydd nad oedd angen i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
dywys yr Aelodau drwy ei adroddiad ond yn hytrach gofynnwyd i Aelodau os
oeddynt yn dymuno codi neu amlygu unrhyw fater yn deillio o gynnwys yr
adroddiad. I’r perwyl hwn, amlygwyd y
materion canlynol o gynnwys adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
(i)
Clirio Tywod – ar ôl blynyddoedd o
waith i gadw’r Afon Ysgethin yn llifo ymddengys bod y twyni tywod yn diflannu
i’r môr ac nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i ildio i wneud rhywbeth am y
mater. Yn anffodus oherwydd diffyg
gwrando fe fydd y broblem o glirio tywod yn Abermaw yn gwaethygu. Ategwyd y sylwadau uchod gan Aelod arall ac y
dylai’r adrannau perthnasol drafod y mater ac y dylid herio Cyfoeth Naturiol
Cymru o’r hyn sy’n digwydd.
(ii)
Asiantaeth Gwylwyr y
Glannau – gofynnwyd a oedd
yr archwilwyr yn bwriadu ymweld ag Abermaw oherwydd nad oeddynt wedi ymweld fel
rhan o’r achwiliad oherwydd cyfyngiad amser.
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig er nad oedd cyfeiriad penodol yn eu hadroddiad i Harbwr
Abermaw bod y Cod Diogelwch yn berthnasol i bob Harbwr a’u bod yn ymwybodol o’r
hyn sy’n digwydd yn Abermaw.
Tynnwyd sylw bod bwriad i’r archwilwyr ymweld
unwaith yn rhagor yn yr Hydref ac y byddent yn mynychu cyfarfod o Bwyllgor
Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ble byddai cyfle i holl aelodau’r Pwyllgorau
Harbyrau fynychu’r cyfarfod hwnnw ac efallai y byddai cyfle i’r archwilwyr
ymweld ag Abermaw bryd hynny.
Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned
mai prif bwrpas yr adroddiad ydoedd ymchwilio i drefniadau llywodraethu, rheoli
yr harbyrau.
(iii)
Gofynnwyd
a oedd pawb yn gorfod talu ffi Stad y
Goron yn y swm o £25.00 yn
ychwanegol i’r ffi angori.
Mewn ymateb, cadarnhaodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig bod pob perchennog angorfa yn gorfod talu’r ffi uchod ymhob
Harbwr, gan gynnwys angorfeydd y Cyngor, heblaw am Harbwr Pwllheli oherwydd bod
y gost i’r harbwr hwnnw yn £150,000 yn flynyddol gyda’r swm yn daladwy i stad Y
Goron. Ychwanegwyd nad oedd yn bosibl i
herio’r ffi gan y gallent godi mwy o ffi pe dymunent, a bod trefniadau cyffelyb
yn bodoli mewn siroedd eraill ers blynyddoedd bellach.
(iv)
Diolchwyd
am yr arwyddion diogelwch gan y Bad Achub.
Ychwanegwyd y bydd yr arwyddion yn cael eu gosod yn y mannau priodol yn
ddi-oed ac y gellir eu rho i fyny mewn
amser byr.
(v)
O
safbwynt newid dyddiad digwyddiad y “Motorcross” ar draeth Abermaw oherwydd ei
fod yn gwrthdaro gyda gwyliau hanner tymor
ysgolion ac y byddai tref Abermaw yn brysur ‘prun bynnag a’r maes parcio yn
llawn, cafwyd ar ddeall gan y trefnwyr ei fod yn anodd symud y dyddiad gan eu
bod wedi eu cyfyngu i’r dyddiad hwn yn sgil cystadlaethau eraill sydd yn
digwydd ar hyd a lled Prydain.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol:
- Bod bwriad i un o’r
siopau carafanau gau yn ystod y digwyddiad uchod pe byddai ‘run dyddiad â
gwyliau hanner tymor ynghyd â Siop y Bad Achub oherwydd prysurdeb a olygai
cadw rheolaeth o safbwynt stoc
- Cafodd y digwyddiad yn
wreiddiol ei groesawu yn Abermaw er mwyn ehangu’r cyfnod gwyliau er budd
yr economi leol
- Pe na fyddai’r
digwyddiad yn dod i Abermaw, byddai colled i’r gwestai a darpariaeth gwely
a brecwast
- Bod bwriad i ddarparu
holiadur i fusnesau lleol i ganfod a oedd y digwyddiad o fudd i’r busnesau
- A fyddai modd ei symud
i benwythnos arall yn Nhachwedd i gydfynd â Noson Tân Gwyllt ond
pwysleiswyd bod Sul y Cofio ar 10 Tachwedd
Penderfynwyd: Gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig gysylltu gyda Mr Tom Arnold, trefnwr y Motorcross i ganfod yn y lle
cyntaf a fyddai modd symud y digwyddiad eleni i benwythnos arall gan awgrymu i
gydfynd â’r Noson Tân Gwyllt; ac yn ail os nad yw’n bosibl, a fyddai modd
ystyried dyddiad i osgoi hanner tymor ar gyfer 2019.
(vi)
Nododd
Aelod bod bwriad i sefydlu Grwp Achub Bywyd ac awgrymwyd i hysbysu’r Gwasanaeth
Morwrol pan fydd cyfarfod wedi ei drefnu.
(vii)
Yng
nghyd-destun angorfeydd “ôl a blaen”, nododd aelod o Bwyllgor Ras y Tri Copa
mai’r Pwyllgor sydd yn berchen ar yr
angorfeydd hyn a bod trafodaethau hirfaith wedi bod yn y gorffennol ynglyn a’u
haddasrwydd. Nodwyd bod cychod drudfawr
wedi angori arnynt heb unrhyw drafferth o gwbl.
‘Roedd Pwyllgor Ras y Tri Copa yn fwy na bodlon i’r Cyngor ddefnyddio’r
angorfeydd pe dymunent yn dilyn y ras.
Awgrymwyd y dylai’r contractwr lleol a’r Gwasanaeth Morwrol drafod
ymhellach ar gyfer defnydd 1 neu 2 o’r angorfeydd uchod.
Deallwyd gan y Cynghorydd Tref bod Pwyllgor
Ras y Tri Copa wedi cyflwyno cais ariannol i’r Cyngor Tref yn ddiweddar. Nodwyd ymhellach bod y Cynghorydd Tref wedi
cwrdd â’r Uwch Swyddog Harbyrau i drafod gwell defnydd o’r angorfeydd ond bod
cyfarfod arall eto i’w drefnu.
(viii)
Nododd
y Cynghorydd Tref bod y Cyngor Tref wedi cynnig ariannu prosiect bychan yn
“ardal y fynwent” ar gyfer darparu cadwyni a
fyddai’n caniatau lansio. Fe fyddir yn
trafod y mater ymhellach gyda’r Gwasanaeth Morwrol.
(ix)
Sicrhawyd
y Pwyllgor y byddai angorfeydd lle nad oes ffurflenni ar eu cyfer yn cael eu
tynnu allan yn ystod yr haf.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys adroddiad y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Dogfennau ategol:
- Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, eitem 4. PDF 240 KB
- Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd - Gwiriad Iechyd a Diogelwch, eitem 4. PDF 495 KB