(a)
Cyngor Tref Abermaw
·
Angorfeydd
·
Safleoedd tipio tywod
·
Clirio tywod ar
y sarn a’r promenad ar gyfer
mynediad i’r anabl
·
Clirio tywod ar
hyd y llwybr ar top y compownd
·
Carthu
(b)
Cyngor Cymuned Arthog
·
Datblygiadau Rheolaeth Pwynt Penrhyn Fairbourne
(c) Clwb Hwylio Merioneth
·
Mwy o wybodaeth ynglyn â’r honiadau
cau ffordd y promenad yn y gaeaf
·
Rheiliau tu allan
i Adeilad Dora
·
Mae’n ymddangos bod mwy o gychod ar
draeth y fynwent – a yw rhain mewn
defnydd?
Cofnod:
(a) Cyngor Tref Abermaw
- Carthu
Gofynnwyd a oedd unrhyw beth y gallasai’r
Cyngor ei wneud?
Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig bod yn rhaid derbyn bod y sianel yn newid ac yn cau i fyny yn naturiol
gyda’r sianel yn mynd yn bellach oddi wrth yr Harbwr, a rhaid bod yn realistig
o safbwynt cyfyngiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ni ragwelir y bydd gwaith carthu yn digwydd oherwydd cyfyngiadau a’r
gost.
Nododd y Cynghorydd Rob Triggs ei fod wedi
cwrdd â thrafod gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ynglyn âg ymgymeryd â’r
gwaith ar lefel lleol gyda chychod, ac ar ddeall bod modd gwneud hynny heb
drwydded.
Amlygwyd pryder os na fyddir yn carthu y
gellir colli’r Harbwr.
Awgrymwyd y ffordd ymlaen fyddai i’r Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig dderbyn enwau swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i
drafod ymhellach goblygiadau o garthu cyn cymryd camau pellach i symud
ymlaen.
Penderfynwyd: Gofyn i’r
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drefnu i weithredu yn unol â’r uchod.
(b) Cyngor Cymuned Arthog -
Datblygiadau Rheolaeth Pwynt Penrhyn Fairbourne
Nododd Cynghorydd Julian Kirkham bod Cyngor
Cymuned Arthog yn gofyn am gymorth gyda’r amcanion isod ar gyfer rheoli’r mewnlifiad sylweddol o draffig twristiaeth sy'n
cyrraedd yr ardal:
Nododd y Cynghorydd
Kirkham ymhellach y byddai Cyngor Cymuned Arthog yn fodlon rheoli Llithrfa
Fairbourne ond y byddai ef yn bersonol yn ymddeol o’r Cyngor Cymuned ym mis
Ebrill a bod angen aelodau ifanc a fydd efallai gyda diddordeb i reoli Pwynt
Penrhyn.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(a)
Clwb Hwylio:
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(b)
Cyfeiriodd y Cynghorydd
Eryl Jones-Williams at adroddiad parthed Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru gan
awgrymu a fyddai modd denu arian ar gyfer gweithgareddau’r Harbwr.
Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr
Economi ei fod yn ymwybodol o’r cynllun uchod a’I fod yn becyn ariannu ar gyfer
prosiectau gwahanol.
Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r sylwadau i’r materion gyflwynwyd uchod.