I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd yn gosod cefndir a
diweddariad ar ddatblygiadau ym maes mesuryddion cerbydau hacni (clociau
tacsi). Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo cynnig i newid yr amodau fel rhan o
adolygiad ehangach i bolisïau ac amodau trwyddedu tacsi sydd wrthi’n cael eu
hadolygu. Cyflwynwyd rhestr o’r amodau presennol ynghyd a’r amodau arfaethedig.
Amlygwyd mai un o’r meysydd trafod oedd cynnydd yn y defnydd o Systemau
Lleoli Byd-eang (GPS) i fesur tal mewn cerbydau trwyddedig. Er bod y defnydd
yma yn cael ei groesawu fel system i weithredwyr reoli ac anfon cerbydau at
gwsmeriaid a chyfrif pris taith yn effeithiol, adroddwyd nad oes unrhyw system
GPS ar hyn o bryd yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Offer Mesur 2006. O
ganlyniad, ni ellir eu defnyddio fel mesurydd cymeradwy. Eglurwyd mai'r bwriad
oedd ychwanegu amod yn egluro statws cyfreithiol presennol systemau GPS i reoli
ac anfon tacsi
Adroddwyd nad oedd trefniant yn ei le i gerbydau hacni yng Ngwynedd gael
eu cloc tacsi wedi ei brofi yn gyfnodol. Mewn ymateb i hyn cynigiwyd amodau i
berchnogion cerbydau tacsi sicrhau bod y cloc yn gweithio’n briodol; darparu
tystysgrif yn cadarnhau bod y cloc o fanyldeb (specification) a gymeradwywyd;
wedi ei osod yn unol â Rheoliadau Offer Mesur (2006); wedi ei galibradu
i sicrhau mai dim ond tariff cyfredol Cyngor Gwynedd sydd yn cael ei
ddefnyddio. Bydd gofyn i’r perchennog ddangos y dystysgrif yn flynyddol i’r
Awdurdod Trwyddedu i brofi bod y mesurydd yn gywir. I hybu’r newidiadau, y
bwriad yw i’r Uned Trwyddedu sefydlu rhestr o brofwyr clociau tacsi cymeradwy i
osod a chynnal y profion blynyddol.
Nodwyd bod angen ymgynghori gyda’r diwydiant ynglŷn â’r newidiadau
i amodau trwydded cerbyd hacni. Y bwriad yw bod hyn yn cael ei wneud fel rhan o
waith ymgynghori ehangach ar adolygiad polisïau trwyddedu tacsi.
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Bod yr argymhelliad yn un i’w
groesawu - yn gosod cysondeb
·
Amserol fydd derbyn cyngor
cyfreithiol ar faterion defnydd GPS
·
Bod y polisi yn cael ei adolygu
mewn ymateb i newidiadau mewn technoleg
·
Bod mantais reolaethol i ddefnydd
GPS ac felly angen sicrhau bod y ddwy drefn yn cydweithio
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy fydd yn gwirio’r addasiadau i
glociau tacsi, nodwyd mai cyfrifoldeb y cwmnïau fydd cydymffurfio gyda’r amodau
arfaethedig.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sicrhau bod gyrrwr tacsi yn ‘yrrwr
diogel’ (yn dilyn digwyddiad diweddar i ddiddymu trwydded gyrrwr oherwydd
defnydd cyffuriau), nodwyd mai drwy’r diwydiant, gan amlaf y bydd yr Uned
Trwyddedu yn derbyn gwybodaeth. Petai pryder gan yr Uned Drwyddedu neu
wybodaeth yn dod i law gan y cyhoedd am yrrwr yn ymddwyn yn amhriodol bydd yn Uned yn gwneud
cais i’r Heddlu am wybodaeth. Yn sgil newidiadau i’r Ddeddf Rheoli Data,
amlygwyd nad oedd gorfodaeth bellach ar yr Heddlu i rannu gwybodaeth yn
awtomatig gyda’r Uned am unigolion oedd wedi troseddu yn ddiweddar.
Yn dilyn yr ymateb, awgrymwyd llythyru Comisiynydd yr Heddlu yn amlygu
pryderon y Pwyllgor ar faterion rhannu gwybodaeth bersonol.
Yn dilyn sylw gan y Swyddog mai Cyngor Gwynedd sydd yn gosod tariff
prisiau drwy ddilyn trefn gyfreithiol, derbyniwyd cais gan yr Aelodau am restr
o’r cyfraddau prisiau.
PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth
Dogfennau ategol: