Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig bod yr harbyrau wedi bod yn ffodus, gan ddim ond ychydig
o ddifrod a fu yn ystod y tywydd garw diweddar. Nododd ei ddiolchiadau i staff
yr harbwr am eu gwaith yn ystod y cyfnod. Cyfeiriodd at y cyfnod tywydd garw
blaenorol ar yr 16 a 17 o Hydref, 2017. Adroddodd bod staff yr harbwr wedi
cydweithio efo swyddogion Sefydliad y Bad Achub ac Asiantaeth Gwylwyr y Glannau
ar 17 Hydref, lle achubwyd bywyd person.
Nododd
cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog ei werthfawrogiad o waith staff yr harbwr
a gwasanaethau brys yn ystod y tywydd garw.
Tywysodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau canlynol:
·
Bod adroddiad archwilwyr
Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ar eu arolygiad trylwyr o drefniadau a systemau
diogelwch presennol harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth
a’r Cod Diogelwch Porthladdoedd wedi ei gynnwys yn y rhaglen. Roedd yr
archwiliwyr yn nodi bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond
bod angen addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi pwy
oedd y Daliwr Dyletswydd a’r Person Dynodedig.
·
Byddai’r archwilwyr yn
cynnal archwiliad pellach yn mis Hydref 2018 ac fe fwriedir i’r archwilwyr
fynychu cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol gan wahodd cynrychiolwyr Pwyllgorau
Ymgynghorol Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod.
·
Pwysigrwydd y Cod
Diogelwch a’r dyletswydd ar aelodau i gyflwyno sylwadau ar addasrwydd y Cod ac
i dderbyn sylwadau ar drefniadau gwaith yr harbyrau fel gallai’r Cod Diogelwch
gael ei adolygu er sicrhau ei fod yn berthnasol i weithgareddau’r harbwr.
·
Bod 3 Rhybudd i Forwyr
mewn grym yn harbwr Porthmadog ar hyn o bryd. Byddai’r cymhorthyddion mordwyo
yn cael eu hail leoli unwaith byddai gwaith ar gwch Y Dwyfor wedi ei gwblhau.
·
Bod sianel fordwyo
Harbwr Porthmadog wedi newid yn sylweddol dros fisoedd y gaeaf. Roedd y
Gwasanaeth yn archwilio’r sianel yn rheolaidd ar lanw isel er ceisio sicrhau
fod y cymhorthion mordwyo yn y lleoliad fwyaf addas. Oherwydd y newid cyson yn
y sianel roedd sicrhau fod y cymhorthion yn eu safle cywir yn heriol dros ben.
·
Yn dilyn archwiliad o
holl angorfeydd yr harbwr gan gwmni Deifio, adnabuwyd bod angen adnewyddu 35
angorfa. Derbyniwyd amcan brisiau am gadwyni a siacyls a’r amcan bris mwyaf
cystadleuol oedd £5,100. Rhagwelir byddai gwaith gosod yr angorfeydd newydd
oddeutu £3,000. Rhannwyd cynllun yn dangos lleoliadau angorfeydd.
·
Daeth cyfnod cyflogaeth
Cymhorthydd Harbwr Porthmadog (tymhorol) i ben yn swyddogol ar 30 Medi 2017. Er
sicrhau cymorth gyda gwaith yr harbwr dros fisoedd y gaeaf cafodd y cytundeb ei
ymestyn hyd at y 31 Rhagfyr 2017 pan ddaeth y cytundeb i ben. Derbyniwyd cais
gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon ar ddechrau mis Ionawr 2018, yn ceisio
hawl i drafod cytundeb gwaith dros dro i’r cymhorthydd gyda’r Ymddiriedolaeth Harbwr.
Roedd y Swyddog bellach yn gyflogedig gan yr Ymddiriedolaeth Harbwr. Dymunwyd
yn dda i’r swyddog.
·
Rhagwelir bydd swyddi
tymhorol yn dychwelyd ar sail llawn amser yn harbyrau Porthmadog, Abermaw ac
Aberdyfi ar 1 Ebrill 2018 ac yn parhau tan 30 Medi 2018.
·
Bod y Gwasanaeth ar y
cyd gyda Sefydliad y Bad Achub wedi cwblhau adolygiad manwl o’r holl arwyddion
diogelwch o amgylch ardal yr Harbwr ger traeth Morfa Bychan. Diolchodd i Peter
L. Williams (Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub) am ei gyfraniad
gwerthfawr.
·
Mewn ymateb i’r
archwiliad ac mewn ymgynghoriad gyda Mudiad y Bad Achub roedd y Gwasanaeth yn
bwriadu archebu arwyddion newydd a fyddai’n cael eu gosod ar sawl safle o
amgylch ardal yr harbwr a oedd yn ffinio efo Traeth Y Graig Ddu. Fe fyddai’r
prif arwyddion yn cael eu gosod ar y Brif Fynedfa a mynedfa Ffordd Gwydryn
gydag arwyddion llai yn cael eu gosod ger y Graig Ddu (llwybr arfordir) mynedfa
‘Greenacres’ ac ardal Cwt Powdr.
·
Byddai’r arwyddion yn
cael eu danfon i’r harbwr erbyn canol mis Mehefin 2018 a gobeithir y byddai’r
prif arwyddion diogelwch ar eu safle priodol cyn cyfnod prif wyliau ysgolion.
Mawr obeithir bydd yn bosibl ariannu’r cynllun drwy gronfa TAIS, sef cronfa
Twristiaeth Llywodraeth Cymru.
·
Ymddiheurwyd oherwydd
problemau technegol nid oedd yn bosib rhannu manylion cyllideb yr harbwr.
Byddai’n anfon y manylion at yr aelodau. Rhoddodd fraslun o’r sefyllfa
ariannol.
·
Er bod graddfa
chwyddiant ar gyfer harbwr Porthmadog yn 2018/19 wedi cynyddu i 2.19% ers
cyflwyno taenlen ffioedd 2018/19 i’r cyfarfod blaenorol, argymhellir i’r Aelod
Cabinet bod y ffioedd a thaliadau yn parhau i gynyddu 2% ar gyfartaledd yn y
flwyddyn ariannol 2018/19 oherwydd bod y gwasanaeth eisoes wedi cyfathrebu gyda
chwsmeriaid yr harbwr.
Holodd aelod os
mai’r Aelod Cabinet fyddai’r Deilydd Dyletswydd o dan y Cod Diogelwch. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig mai’r Cabinet yn ei
gyfanrwydd fyddai efo’r cyfrifoldeb. Cadarnhaodd Uwch Reolwr Economi a Chymuned
bod trafodaethau yn parhau efo’r Gwasanaeth Cyfreithiol a bod angen cadarnhau’r
trefniadau.
Mewn ymateb i
sylw gan aelod parthed y sefyllfa bresennol o ran y Cod, nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd angen i’r aelodau bryderu a’i fod ef yn
delio efo materion o ddydd i ddydd a gyda chyfrifoldeb am staff ac adnoddau.
Pwysleisiodd bod adroddiad yr archwilwyr yn galonogol ac mai materion
trefniadaethol oedd angen eu cadarnhau.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod os byddai’r cymhorthyddion mordwyo yn ôl ar eu safle erbyn
gwyliau’r Pasg, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y gobeithir y
byddent wedi eu hail leoli cyn y Pasg ond yn sicr byddent wedi eu hail leoli
erbyn diwedd mis Ebrill.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig oherwydd natur traeth
Y Graig Ddu byddai rhai o’r arwyddion diogelwch yn cael eu tynnu yn ystod
misoedd y gaeaf er lleihau difrod gan y tywydd garw.
Nododd aelod ei
werthfawrogiad o waith yr Harbwr Feistr, staff a’r Heddlu yn ymateb i achos
diweddar o unigolion yn rasio ar draeth Morfa Bychan. Ychwanegodd bod unigolion
yn gyndyn o ddarllen arwyddion a ddim yn gwrando ar bobl leol pan roddir cyngor
iddynt o ran parcio ar y traeth. Nododd ei fod yn croesawu’r arwyddion
diogelwch ychwanegol.
Nododd aelod ei
ddiolch i Gynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub am ei ddyfalbarhad o ran yr
arwyddion diogelwch ac i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig am weld gwerth yn
y gwaith.
Cyfeiriodd aelod
at ddyfodol toiledau cyhoeddus yn yr ardal. Mewn ymateb, nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig mai mater i’r Uned Bwrdeistrefol oedd y toiledau.
Mewn ymateb i gais gan aelod, nododd y byddai’n cysylltu efo’r Adran Priffyrdd
a Bwrdeistrefol i nodi bod y toiledau yn bwysig i Borthmadog.
Mewn ymateb i
sylw gan aelod parthed ffioedd parcio Traeth y Graig Ddu, nododd y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd cyllideb traethau o fewn cylch gorchwyl y
Pwyllgor Ymgynghorol. Nododd y byddai’n anfon gwybodaeth gyllidebol traethau
i’r aelodau.
Holodd aelod am
ddiweddariad ar fwriad Clwb Hwylio Madog i gyflwyno cais ar gyfer cynyddu nifer
pontŵns yn yr Harbwr. Mewn ymateb, nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden
bod ddim digon o ofyn am y ddarpariaeth ar hyn o bryd a ni fyddai’r bwriad yn
hyfyw. ‘Roedd y Clwb Hwylio yn ystyried cynllun amgen gan roi estyniad 24 medr
ar y ddarpariaeth bresennol er mwyn creu lle i 7 angorfa ac fe fyddai un am
ddim ar gyfer cwch yr harbwr. Nododd y byddai’n rhaid derbyn hawl gan y Cyngor
i symud angorfeydd er mwyn gwireddu’r cynllun.
Mewn ymateb,
nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod yn awyddus i dderbyn
manylion y cynllun cyn gynted â phosib er mwyn i’r Cyngor bwyso a mesur y
wybodaeth a thrafod opsiynau posib gyda’r Clwb Hwylio.
PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: