skip to main content

Agenda item

I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

(a)          Cyn cyflwyno yr adroddiad uchod, croesawyd Alison Kinsey, Cydlynydd Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion, a oedd wedi gwneud cais i fynychu’r cyfarfod ac fe esboniodd bwrpas FLAG (Fisheries Local Action Group).  Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

  • Bod 4 grwp yn weithredol yng Nghymru i bwrpas cefnogi’r diwydiant a chymunedau pysgota:  St. Dogmael i Abermaw, Ynys Môn a Gwynedd, Bae Abertawe a Cleddau i’r Arfordir
  • Bod FLAG yn derbyn arian Ewrop a bod oddeutu £160,000 ar gael i’w wario hyd at 2020 a hyderir y gellir gwneud defnydd ohono drwy roi gymorth i prosiectau bychan sydd yn cael eu harwain o’r gymuned
  • Bod strategaeth wedi ei lunio yn seiliedig ar angen lleol
  • Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer ariannu prosiectau sydd yn: 

Ø  ychwanegu gwerth

Ø  creu swyddi

Ø  denu pobl ifanc a

Ø  hyrwyddo arloesedd ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi o gynhyrchion pysgodfeydd

  • Gellir cynnig cymorth ariannol refeniw at brosiectau megis:

 datblygu prosiectau, prosiectau peilot, astudiaethau dichonoldeb, hyfforddiant, mentora, hwyluso ac ymgynghori.

 

Bu i’r swyddog ymweld â Phwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw, ac yn deillio o’r cyfarfod hwnnw, roedd yr Aelodau yn frwdfrydig a chadarnhaol i gynnal gweithgaredd ar y cei yn Abermaw.

 

Nododd bod Mr Neil Storkey wedi ei benodi fel Cadeirydd un o’r grwpiau gweithredol ac yn rhinwedd ei swydd a’r ffaith y dysgwyd llawer o’r Wyl Fwyd a gynhaliwyd yn Aberdyfi y gellir defnyddio’r wybodaeth a’r profiadau hynny er budd cymunedau FLAG.  Hyderir y gellir cynnal prosiectau / gweithgareddau ar y cei a hyrwyddo’r pysgotwyr lleol, yn enwedig gan ei bod yn Flwyddyn y Môr eleni. 

 

(b)       Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig  yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr ac fe gyfeiriodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yn ei absenoldeb  at y materion penodol canlynol:

 

 

(i) Cod Diogelwch Porthladdoedd

 

Yn deillio o’r uchod, nododd Aelod ei fod o’r farn, nad oedd yr Archwilwyr wedi ymweld ar adeg prysur yn yr Harbwr megis ym mis Gorffennaf/Awst ac felly ddim wedi gweld y darlun cyfan a chywir.

 

Mewn ymateb gwnaed y prif bwyntiau isod:

 

(i)            Eglurodd yr Uwch Swyddog Harbyrau nad y Gwasanaeth Morwrol oedd yn pennu’r dyddiad ac y gall yr Archwilwyr ddod unrhyw bryd yn ogystal ag ail-ymweld.

(ii)           Esboniodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned bwrpas yr ymweliad gan nodi mai’r prif nod ydoedd archwilio systemau’r Cyngor a threfniadau rheoli sydd ychydig yn wahanol o safbwynt prysurdeb y safle. 

(iii)          O safbwynt cyfrifoldeb y Cyngor pe byddai unigolyn yn baglu a chwympo dros ochr y cei, nodwyd bod gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol yn ymwneud â’r uchod a thynnwyd sylw nad yw’r côd yn statudol ac mai Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am reoli’r Harbwr.  Ategwyd mai ystyried trefniadau rheolaeth y Cyngor wnaeth yr Archwilwyr yn hytrach na threfniadau gweithredol ar y tir.

(iv)          Pwysig i nodi na all yr Harbwr Feistr fod ar gael bedair awr ar hugain.

(v)           Bod llythyr wedi ei anfon i’r pysgotwyr i gadw’r Harbwr yn daclus.

(vi)          Bod staff yr Harbwr yn gweithio’n ddiwyd i geisio cadw’r Harbwr mor daclus ag y gellir ond rhaid cofio ei fod yn adnodd ar gyfer gweithio hefyd.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(ii)    Materion Mordwyo 

 

Nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei fod wedi bod mewn trafodaeth gyda’r contractwr angorfeydd ynglyn â’r uchod a hyderir y byddai’r gymhorthion mordwyo ar eu safle o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(iii)     Cynnal a Chadw

 

Adroddodd yr Harbwr Feistr yn llafar ar ei Raglen Waith gan nodi ei fod wedi bod:

 

  • yn gweithio ar y cymhorthion mordwyo
  • yn ymdrin ag angorfeydd ymwelwyr
  • yn adeiladu meinciau ar y cei
  • yn brysur yn clirio llawer o sgerbydau anifeiliaid oddi ar y traeth
  • yn cydweithio gyda grwp Tywyn Beach Guardians ar gyfer glanhau’r traethau
  • yn ymdrin â chynhaliaeth cyffredinol o’r Harbwr cyn dechrau’r tymor

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Harbwr Feistr bod y cerbyd yn cyrraedd erbyn Pasg.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nododd Aelod bod llawer o unigolion yn fodlon helpu i godi ysbwriel ac y byddai’n fuddiol pe byddai trefniadau cydlynus mewn lle ar gyfer casglu’r ysbwriel.

Dywedodd y Cynghorydd Mike Stevens, Aelod Lleol Tywyn, ei fod wedi gofyn am gynhwysydd sbwriel ar gyfer Tywyn.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol Traethau bod y Gwasanaeth wedi derbyn llif o geisiadau gan wahanol grwpiau a bod protocol i’w ddilyn ac mai dim ond adnoddau cyfyngedig oedd gan y Gwasanaeth.  Fe fyddir yn trefnu biniau addas ar gyfer Tywyn mewn lleoliad dynodedig ac y byddai’n briodol i’r Swyddog Morwrol Traethau drafod ymhellach gyda Rheolwr Glanhau Strydoedd ynglyn â threfniant ar gyfer Aberdyfi.

 

Ychwanegodd Aelod Lleol Tywyn bod llawer o unigolion yn fodlon glanhau’r traeth yn Nhywyn ac y dylid annog grwpiau o’r fath a bod yn rhagweithiol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(iv)      Llwybr Pren

 

Adroddod y Swyddog Morwrol Traethau y byddir yn archwilio’r llwybr pren yn dilyn y cyfarfod ac yn gwneud trefniadau i’w atgyweirio os yw hynny’n ymarferol.  Ychwanegodd yr Harbwr Feistr ei fod wedi dirwyio ar lefel y tir a’i fod yn anwadal ac yn anniogel.

 

Ategodd sawl Aelod yr angen i’w atgyweirio a’i fod wedi bod yn destun trafodaeth ers blynyddoedd bellach.  Cynigiwyd i’r swyddogion drafod ymhellach gyda’r Cyngor Cymuned er mwyn ystyried a fyddai modd i’r gymuned gyfrannu tuag at y costau atgyweirio oherwydd ei fod yn strwythur allweddol i gynnal y twyni.  Nododd y Cadeirydd hefyd y byddai’n fuddiol trafod ymhellach gyda’r Clwb Golff ac Asiantaeth yr Amgylchedd.    Awgrymwyd y byddai o fantais pan yn atgyweirio i ddefnyddio strwythurau / pyst o wneuthuriad plastig.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(v)     Taflen Traeth

 

Cyfeiriodd y Swyddog Morwrol Traethau at y daflen traethau ac annog yr Aelodau i anfon unrhyw sylwadau ar y cynnwys iddo.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Awgrymwyd i gysylltu gyda Josh Cooper i gael llun o’r traeth
  • y byddir yn neilltuo rhan o’r traeth ar gyfer unrhyw weithgaredd hwylio
  • pe gellir nodi ar y daflen “ardal lansio”
  • a ddylid nodi Ebrill – Medi ar gyfer yr ardal gwaharddiad cŵn

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(vi)    Symud Tywod 2018

 

Adroddwyd bod Cwmni Brodyr Jones ar y safle ar 12 Mawrth 2018 ar gyfer symud tywod ond roedd ychydig o bryder am rhan o sylfaen wal y cei. Hysbysebwyd pawb oedd yn gweithio yn yr ardal dan sylw ac fe ddisgwylir mwy o wybodaeth gan Ymgynghoriaeth Gwynedd / Cwmni Brodyr Jones yn hyn o beth.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(vii)   Cynhwysyddion

 

O safbwynt pryder am gyflwr nifer o’r cynhwysyddion ar gyfer cadw offer hwylfyrddio a chanŵio sydd ar dir ger compownd y Clwb Hwylio, nododd cynrychiolydd y Clwb Hwylio bod y clwb yn fodlon cydweithio gyda’r Harbwr Feistr i dacluso’r tir dan sylw ac y byddai’n siom pe byddir yn colli’r cyfleuster. 

 

Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol ei ddymuniad i weld y tir wedi ei dacluso unwaith ac am byth a gyda gobaith erbyn tymor yr haf.  Dylid cael canllawiau o’r hyn y gellir gadw ar y tir ynghyd â chyflwyno ctyundeb ffurfiol i leoli cynhwysydd ar y safle.

 

Gofynnodd Mr Desmond George i gadw y llithrfa ger yr orsaf bad achub yn glir a byddai arwyddion 'CADW  CLIR' (KEEP CLEAR) yn cynorthwyo.

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Harbwr Feistr a chynrychiolydd y Clwb Hwylio drafod ymhellach a threfnu i glirio’r safle yn ddioed.

 

(viii)    Materion Staffio

 

Adroddodd yr Uwch Swyddog Harbyrau y bydd Jack Iffla, Cymhorthydd Harbwr Aberdyfi, yn gadael ei swydd ddiwedd tymor yr haf a chymerwyd y cyfle i dalu teyrnged iddo am ei waith clodwiw a’i wasanaeth i’r harbwr.  Fe fyddir yn hysbysebu am weithwyr tymhorol ar gyfer Mehefin i Medi yn fuan ar wefan y Cyngor.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod, diolch a dymuno’n dda i Jack Iffla i’r dyfodol.

 

(ix)    Wal y Cei

 

Atgoffwyd y Pwyllgor Ymgynghorol bod arddangosfa a sesiwn galw fewn i’w gynnal am 2.00 o’r gloch brynhawn heddiw ac anogwyd Aelodau i fynychu i fedru gweld y cynlluniau a holi cwestiynau pe dymunent.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(x)      Tir Comin / tir ystorfa – gwastraff

 

O safbwynt yr offer pysgota, addawodd Mr Desmond George y byddai’n fodlon cydweithio gyda’r Harbwr Feistr a staff yr Harbwr er mwyn tacluso’r ardal uchod.

 

Ategodd yr Uwch Swyddog Harbyrau bod cynlluniau ar y gweill a nodwyd y byddir yn gwneud popeth o fewn eu gallu i glirio’r safle mor fuan ag sy’n bosibl.

 

Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol i’r Gwasanaeth am drefnu i glirio’r safle a gofynnwyd a fyddai modd gosod ffens uchel o amgylch y tir ynghyd â giat bwrpasol i rwystro unrhyw gam ddefnydd a gwaredu anghyfreithlon eto i’r dyfodol.  

 

Mewn ymateb i’r uchod, addawodd yr Harbwr Feistr y byddai’n trafod y cais gyda’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(xi)    Ffioedd a Thaliadau 2018/19

 

Cyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod daenlen ariannol a oedd yn hunan esboniadwy ac yn dangos gorwariant a diffyg yn yr incwm ac o ganlyniad byddai angen sicrhau bod y Gwasanaeth yn adnabod cyfleoedd incwm a lleihau gwariant bosibl yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Nododd Aelod bod y tywydd anffafriol yn ystod 2017 wedi cyfrannu at leihad yn yr incwm a hyderir y bydd 2018 yn mwy ffafriol.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

Dogfennau ategol: