skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2018/19.

·         Cynllun tymor canolig i ddygymod â’r bwlch ariannol 2018/19 – 2020/21.

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 4.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Diolchodd i holl staff yr Adran Gyllid, o dan arweinyddiaeth y Pennaeth Cyllid, am eu gwaith trylwyr drwy gydol y flwyddyn yn paratoi ac yn arwain y Cyngor at sefydlu cyllideb hafal.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Pryder ynglŷn â’r tan-gyllido o ganlyniad i Fformiwla Barnett a’r angen i gynyddu’r pwysau sy’n cael ei roi ar Lywodraeth Cymru i gael gwell setliad ariannu i Wynedd.  Nodwyd bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy ac awgrymwyd y dylai’r Cyngor hwn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn galw am adolygiad o’r system drethi yn ei chyfanrwydd.  Awgrymwyd hefyd, yn ogystal â’r lobïo parhaus sy’n cael ei wneud gan yr Arweinydd, yr Aelodau Cabinet, y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid, y byddai’n fuddiol gyrru dirprwyaeth o gynghorwyr i lawr i Gaerdydd i gyfarfod y Gweinidog.  Anogwyd yr holl aelodau i ddwyn pwysau ar eu Haelodau Cynulliad yn ogystal.

·         Y ffaith mai cynnydd o 0.6% yn unig dderbyniwyd yng ngrant y Llywodraeth ar gyfer 2018/19, er i Lywodraeth Cymru dderbyn cynnydd grant o 2.6% gan Lywodraeth San Steffan, a’r angen i wneud yn glir i’r trethdalwyr na fyddai’r Cyngor yn gorfod cynyddu’r Dreth Gyngor petai wedi derbyn grant digonol gan Lywodraeth Cymru.

·         Pryder ynglŷn â dull y Llywodraeth o gyllido addysg drwy roi gydag un llaw a thynnu gyda’r llall a’r diffyg cysondeb rhwng negeseuon y Gweinidog a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.

·         Yr angen i roi holl drigolion Gwynedd yn ganolog i bob un o wasanaethau’r Cyngor er gwaethaf yr hinsawdd anodd.

·         Pryder bod pobl yn ei chael yn gynyddol anodd talu’r Dreth Gyngor a chyfeiriwyd yn benodol at y bobl hynny sydd fymryn uwchlaw’r trothwy hawlio Cymorth Treth y Cyngor.

·         Pryder y bydd mwy a mwy o berchnogion tai gwyliau yn trosglwyddo i’r dreth fusnes er mwyn osgoi’r Premiwm Treth Cyngor ar eu tai.

·         Pryder am effaith y Premiwm Treth Cyngor ar bobl sy’n ceisio gwerthu tai a etifeddwyd ganddynt yn sgil marwolaeth aelod o’r teulu.

·         Bid refeniw i benodi dau arolygwr Treth Cyngor ychwanegol – cadarnhawyd na fyddai’r Pennaeth Cyllid yn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol am gyfrifoldeb y dasg newydd yma, ond y byddai swyddog trethiant fydd yn ymgymryd â’r dyletswyddau goruchwyliaeth ychwanegol yn derbyn cynnydd bychan iawn i adlewyrchu hynny.

·         Yr angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd amgen o gynyddu incwm, e.e. drwy godi tâl am wasanaethau ar berchnogion carafanau a chynnig morgeisi i bobl leol sydd angen tai.  Nodwyd hefyd bod gorbwyslais ar breifateiddio gwasanaethau pan fyddai’r Cyngor yn gallu gwneud y gwaith ei hun a chael elw ohono.

·         Honiadau o wastraff gan y Cyngor.  Atebodd y Prif Weithredwr mai’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oedd y lle i godi materion o’r fath, yn hytrach gwneud honiadau di-sail yn y Cyngor.

·         Ffigwr o £190,000 i arolygwyr o dai fforddiadwy – cadarnhawyd nad oedd unrhyw ffioedd yn mynd i gwmnïau allanol.

·         Priodoldeb cyfrannu £25,000 i ymateb i Gynllun Wylfa Newydd yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.

 

Nododd sawl aelod, er yn anhapus ynglŷn â’r sefyllfa, nad oeddent o’r farn bod gan y Cyngor ddewis ond derbyn y gyllideb yn y sefyllfa sydd ohoni.

 

          PENDERFYNWYD

1.         Sefydlu cyllideb o £242,862,930 ar gyfer 2018/19, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £175,127,330 a £67,735,600 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 4.8%.

2.         Sefydlu rhaglen gyfalaf o £8.389m yn 2018/19 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yng nghymal 9.4 o’r adroddiad.

3.       Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 13 Tachwedd 2017, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 52,083.07 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned –

Aberdaron

558.08

Llanddeiniolen

1,846.18

Aberdyfi

1,004.77

Llandderfel

513.32

Abergwyngregyn

115.92

Llanegryn

158.47

Abermaw (Barmouth)

1,149.17

Llanelltyd

289.10

Arthog

633.10

Llanengan

2,159.63

Y Bala

774.81

Llanfair

321.03

Bangor

3,855.89

Llanfihangel y Pennant

217.76

Beddgelert

332.99

Llanfrothen

225.29

Betws Garmon

136.30

Llangelynnin

408.83

Bethesda

1,669.25

Llangywer

144.05

Bontnewydd

434.36

Llanllechid

344.45

Botwnnog

455.84

Llanllyfni

1,418.05

Brithdir a Llanfachreth

422.14

Llannor

916.27

Bryncrug

342.88

Llanrug

1,138.32

Buan

229.85

Llanuwchllyn

317.47

Caernarfon

3,522.60

Llanwnda

782.81

Clynnog Fawr

448.12

Llanycil

196.34

Corris

306.43

Llanystumdwy

875.24

Criccieth

937.64

Maentwrog

284.74

Dolbenmaen

618.87

Mawddwy

344.88

Dolgellau

1,237.33

Nefyn

1,467.95

Dyffryn Ardudwy

798.44

Pennal

226.79

Y Felinheli

1,152.14

Penrhyndeudraeth

780.08

Ffestiniog

1,742.49

Pentir

1,138.01

Y Ganllwyd

89.93

Pistyll

253.87

Harlech

787.85

Porthmadog

2,054.96

Llanaelhaearn

450.97

Pwllheli

1,758.31

Llanbedr

321.91

Talsarnau

325.14

Llanbedrog

714.05

Trawsfynydd

506.72

Llanberis

772.34

Tudweiliog

469.37

Llandwrog

1,017.19

Tywyn

1,623.87

Llandygai

968.30

Waunfawr

573.82

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

4.         Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/19 yn unol agAdrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

 

(a) £360,509,480

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

(b) £115,832,220

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

(c) £244,677,260

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

(ch) £174,734,334

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

(d) £1,342.91

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth gyfartalog cynghorau cymuned).

(dd) £2,207,330

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned).

(e) £1,300.53

Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig).

(f) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –

Aberdaron

1,327.41

Llanddeiniolen

1,314.88

Aberdyfi

1,335.32

Llandderfel

1,318.06

Abergwyngregyn

1,326.41

Llanegryn

1,332.08

Abermaw (Barmouth)

1,348.04

Llanelltyd

1,326.47

Arthog

1,319.48

Llanengan

1,323.68

Y Bala

1,331.51

Llanfair

1,341.02

Bangor

1,399.26

Llanfihangel y Pennant

1,349.92

Beddgelert

1,327.26

Llanfrothen

1,328.49

Betws Garmon

1,319.61

Llangelynnin

1,324.50

Bethesda

1,340.70

Llangywer

1,328.30

Bontnewydd

1,338.52

Llanllechid

1,322.30

Botwnnog

1,312.60

Llanllyfni

1,328.99

Brithdir a Llanfachreth

1,314.74

Llannor

1,318.71

Bryncrug

1,335.53

Llanrug

1,337.43

Buan

1,316.85

Llanuwchllyn

1,332.03

Caernarfon

1,356.88

Llanwnda

1,332.47

Clynnog Fawr

1,327.31

Llanycil

1,320.90

Corris

1,324.79

Llanystumdwy

1,317.67

Criccieth

1,338.92

Maentwrog

1,321.78

Dolbenmaen

1,319.92

Mawddwy

1,324.89

Dolgellau

1,344.17

Nefyn

1,341.78

Dyffryn Ardudwy

1,337.78

Pennal

1,326.99

Y Felinheli

1,330.91

Penrhyndeudraeth

1,346.68

Ffestiniog

1,415.31

Pentir

1,344.47

Y Ganllwyd

1,333.89

Pistyll

1,334.01

Harlech

1,389.38

Porthmadog

1,328.42

Llanaelhaearn

1,355.97

Pwllheli

1,342.05

Llanbedr

1,344.62

Talsarnau

1,362.04

Llanbedrog

1,325.46

Trawsfynydd

1,336.05

Llanberis

1,331.60

Tudweiliog

1,313.31

Llandwrog

1,347.72

Tywyn

1,355.03

Llandygai

1,322.64

Waunfawr

1,321.44

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.

 

5.       Nodi ar gyfer y flwyddyn 2018/19 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:

 

Band A

Band B

Band C

Band D

Band E

Band F

Band G

Band H

Band

I

172.08

200.76

229.44

258.12

315.48

372.84

430.20

516.24

602.28

 

6.       Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2018/19 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.

 

 

Dogfennau ategol: