Agenda item
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd
oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones
yn cynnig fel a ganlyn:-
“Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod:
·
Llygredd plastig yn broblem
amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol.
·
12.7 miliwn tunnel o blastig yn mynd
i mewn i’n moroedd bob blwyddyn. Mae hyn
gyfwerth â llond tryc o wastraff bob munud.
·
Darnau o blasting yn achosi
marwolaeth miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO.
·
Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd,
traethau a moroedd prydferth Cymru.
Noda’r Cyngor ymhellach bod:
·
Gweithrediad arloesol Cymru o godi
ffi ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71% yn nefnydd bagiau
untro o fewn tair blynedd gyntaf y cynllun.
·
Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol
megis Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i
godi toll ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu.
·
Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid
gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar
blastigion untro yng Nghymru.
Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru:
I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll ar
blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried codi toll ar bob plastig i
helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn
fioamrywiol.”
Cofnod:
Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones
o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod:
·
Llygredd plastig yn broblem
amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol.
·
12.7 miliwn tunnel
o blastig yn mynd i mewn i’n moroedd bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth â llond tryc o
wastraff bob munud.
·
Darnau o blastig yn achosi marwolaeth
miliwn o adar môr
a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO.
·
Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd,
traethau a moroedd prydferth Cymru.
Noda’r Cyngor
ymhellach bod:
·
Gweithrediad arloesol Cymru o godi ffi
ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71%
yn nefnydd bagiau untro o fewn tair blynedd gyntaf y
cynllun.
·
Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol megis
Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i godi toll
ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu.
·
Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid
gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar
blastigion untro yng Nghymru.
Mae’r Cyngor hwn yn
galw ar Lywodraeth Cymru:
I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll
ar blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried
codi toll ar bob plastig i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel,
yn gynhyrchiol ac yn fioamrywiol.”
Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan sawl aelod a chynigiwyd
ychwanegu’r geiriad a ganlyn at y cynnig gwreiddiol:-
“Ein bod yn cynnal
ymchwiliad i ddefnydd Cyngor Gwynedd o blastigion defnydd untro
er mwyn asesu sut a ble y gallwn leihau’r defnydd hwnnw gyda’r nod o ddod yn
gyngor di-blastig.”
Cytunodd cynigydd
y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y
Cyngor.
Diolchwyd i Cadw Gymru’n Daclus am drefnu sesiwn glanhau Traeth Porth Neigwl
yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD
Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod:
·
Llygredd plastig yn broblem
amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol.
·
12.7 miliwn tunnel
o blastig yn mynd i mewn i’n moroedd bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth â llond tryc o
wastraff bob munud.
·
Darnau o blasting
yn achosi marwolaeth miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO.
·
Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd,
traethau a moroedd prydferth Cymru.
Noda’r Cyngor
ymhellach bod:
·
Gweithrediad arloesol Cymru o godi ffi
ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71%
yn nefnydd bagiau untro o fewn tair blynedd gyntaf y
cynllun.
·
Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol megis
Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i godi toll
ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu.
·
Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid
gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar
blastigion untro yng Nghymru.
Mae’r Cyngor hwn yn
galw ar Lywodraeth Cymru:
I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll
ar blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried
codi toll ar bob plastig i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel,
yn gynhyrchiol ac yn fioamrywiol.
Ein bod yn cynnal
ymchwiliad i ddefnydd Cyngor Gwynedd o blastigion defnydd untro
er mwyn asesu sut a ble y gallwn leihau’r defnydd hwnnw gyda’r nod o ddod yn
gyngor di-blastig.