I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
ei droseddau. Nododd mai gyrrwr loriau ydoedd wrth ei waith a'i fod wedi gwneud
un camgymeriad difrifol o benderfynu gyrru o dan ddylanwad alcohol ar ôl noson
allan gyda’i ffrindiau. Roedd yn cyfaddef yn agored bod y penderfyniad wedi bod
yn wirion a bod y cwrs adfer wedi bod yn werthfawr iawn.
Mewn ymateb i gwestiwn, amlygodd y byddai, petai'r drwydded yn cael ei
chaniatáu, yn hunangyflogedig.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
• gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau
Hacni Cyngor Gwynedd’
• ffurflen
gais yr ymgeisydd
• sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y
gwrandawiad
• adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn
datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor
(Tachwedd 1995) ar un cyhuddiad o geisio cael eiddo drwy dwyll, yn groes i
Ddeddf Lladrad 1968 adran 15. Cafodd ddirwy o £60.00. Derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarn gan Lys Ynadon Bangor (Chwefror 1989) am ddau drosedd o ddifrod
troseddol. Cafodd orchymyn i dalu iawndal o £ 220.00. Derbyniodd yr ymgeisydd
gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd (Rhagfyr 2014) ar un cyhuddiad o fethu â
darparu sbesimen i'w ddadansoddi, yn groes i adran 7 (6) Deddf Traffig Ffyrdd
1988. Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 12 mis, gyda gostyngiad o 3 mis yn dilyn
cwrs adfer.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded.
Amlygwyd bod paragraff 4.5 o Bolisi’r Cyngor yn
nodi bod Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002
yn caniatáu i’r Is-bwyllgor ystyried yr holl gollfarnau a gofnodwyd boed y
rheiny wedi darfod o dan Ddeddf 1974 ai peidio.
Ystyriwyd
paragraff 6.5 lle nodi’r bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes gan yr
ymgeisydd un gollfarn o natur dreisgar yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. Nodwyd
bod troseddau o'r fath yn cynnwys difrod
troseddol. Ystyriwyd paragraff 8.2 lle nodi’r bydd cais yn cael ei wrthod os
oes gan yr ymgeisydd gollfarn o'r 3 blynedd diwethaf am drosedd o anonestrwydd
(sydd yn cynnwys ceisio eiddo drwy dwyll). Ystyriwyd paragraff 12.9 lle nodi’r
bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes collfarn ddiweddar yn erbyn yr
ymgeisydd a arweiniodd at waharddiad o 12 mis neu fwy, oni bai bod cyfnod o 18
mis o leiaf wedi mynd heibio ers diwedd y gwaharddiad.
Derbyniwyd bod collfarn 1985 yn cynnwys trosedd o anonestrwydd, fodd bynnag ers
i'r gollfarn ddigwydd 32 mlynedd yn ôl (dros 3 blynedd yn ôl), roedd yr
Is-bwyllgor o'r farn nad oedd y drosedd
yn sail i wrthod. Derbyniwyd bod collfarn 1989 yn
cynnwys troseddau trais ddigwyddodd 29 mlynedd yn ôl. Nid oedd hyn yn sail i
wrthod y cais. Yn dilyn collfarn 2014, cafodd yr ymgeisydd ei ddiarddel rhag
gyrru. Cyfrifodd yr Is-bwyllgor bod y gwaharddiad wedi dod i ben 31 Awst 2015
(9 mis ar ôl 1 Rhagfyr 2014) a olygai bod dros 12 mis wedi mynd heibio ers ei
ddiarddel.
Adroddodd y Cyfreithiwr y
byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd gyda manylion am ei hawl
i gyflwyno apêl.