Agenda item

Ffurfioli'r nifer o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan (Mawrth-Hydref) i fod yn 20 carafan deithiol a 20 pabell

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Cofnod:

Ffurfioli'r nifer o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan (Mawrth-Hydref) i fod yn 20 carafán deithiol a 20 pabell.

 

a)        Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i ffurfioli’r nifer o unedau teithiol ar y safle am y tymor cyfan drwy leoli uchafswm 20 carafán deithiol ac 20 pabell ar y tir rhwng Mawrth y 1af a 31ain o Hydref. Amlygwyd bod y caniatad presennol ar gyfer y safle yn un a roddwyd fel tystysgrif cyfreithloni ac yn caniatáu lleoli cyfanswm o 14 carafan deithiol a 30 pabell yn ystod Gorffennaf, Awst a gwyliau banc a 14 carafan deithiol a 20 pabell yn ystod misoedd eraill y tymor. Nodwyd y byddai’r bwriad yn cysoni’r nifer o unedau teithiol allai ddefnyddio’r safle am y tymor yn ei gyfanrwydd gyda lleihad o 4 yn y cyfanswm unedau am fisoedd Gorffennaf, Awst a gwyliau banc a chynnydd o 6 am weddill y tymor.

 

Ategwyd fel rhan o’r cais, bod bwriad i wella’r cyfleusterau toiledau ac ymolchi trwy ychwanegu 2 doiled yn y bloc toiledau presennol a thoiled ar gyfer yr anabl. Roedd bwriad hefyd i greu ardal chwarae plant ac atgyfnerthu’r tirlunio drwy blannu rhywogaethau brodorol.

 

Nid oedd gwrthwynebiadau i’r cais, ond amlygwyd rhai pryderon gwreiddiol gan y Swyddog Carafanau. Diwygiwyd y cynlluniau i oresgyn y pryderon hyn a thynnwyd sylw at y sylwadau yn y ffurflen sylwadau hwyr.

 

O ran egwyddor y datblygiad, amlygwyd bod Polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu cynigion am estyniadau i safleoedd presennol os cydymffurfir â’r meini prawf a nodir yn yr adroddiad. Eglurwyd bod hyn yn cynnwys bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel, wedi ei leoli mewn man anymwthiol ac wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd weledol y dirwedd. Ategwyd bod y cais yn golygu gwneud addasiadau i faes carafanau teithiol a phebyll presennol. Er bod gwahaniaethau o ran niferoedd a math yr unedau am gyfnodau o’r tymor, byddai’r bwriad yn cysoni’r sefyllfa ac yn ei gwneud hi’n haws i’w reoli. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt mwynderau gweledol, trafnidiaeth a mynediad a materion bioamrywiaeth ac yn cydymffurfio gyda materion cynllunio perthnasol, polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol.

 

b)        Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)        Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen ystyried gwneud y gwaith tirlunio yn gyntaf – gosod amod i sicrhau hyn

·         Bod maint y safle yn dderbyniol – hapus gyda’r sylwadau ychwanegol

·         Angen sicrhau bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda gofynion trwyddedu

·         Bod angen sicrhau bod cyfleusterau toiledau ac ymolchi yn ddigonol

 

ch)    Mewn ymateb, amlygodd yr Uwch Reolwr bod hi’n rhesymol ystyried  bod y tirlunio yn cael ei gyflawni fel y cynigiwyd. Yn ychwanegol, amlygwyd bod amod safonol ynglŷn â thirlunio yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

        

         PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

         Amodau:

 

1.            Cychwyn o fewn 5 mlynedd

2.            Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.            Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 20 carafan deithiol a 20 pabell.

4.            Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

5.            Defnydd gwyliau yn unig.

6.            Cadw cofrestr.

7.            Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

8.            Cyflawni’r cynllun tirlunio.

9.            To a waliau’r toiled i gael ei orffen i gydweddu gyda’r adeilad toiledau / cawod bresennol.

 

 

Dogfennau ategol: